Eitem Rhaglen

Diweddariad ar sefydlu Tim Polisi Cynllunio newydd a pharatoi Cynllun Datblygu Lleol newydd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar yr Adroddiad Monitro Blynyddol; y Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor hwn; Recriwtio Tîm Polisi Cynllunio newydd; Cytundeb Darparu a Chynllun Cyfraniad Cymunedol; Erthygl 4 a Hyfforddiant ar gyfer Aelodau.

 

          Adroddiad Monitro Blynyddol

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod rhaid monitro’r Cynllun Datblygu Lleol yn flynyddol, a rhaid ei gyflwyno i‘r Swyddfa Gymreig erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Mae’r 2 Adroddiad Monitro Blynyddol wedi’i baratoi gan Swyddogion yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd blaenorol, a oedd yn cael eu cyflogi gan Gyngor Gwynedd, gan gofio fod trefniadau cydweithio ar waith yn ystod y cyfnod monitro hwnnw. Atodwyd copi o’r adroddiad yn Atodiad 1. Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhestru’r 15 canfyddiad allweddol fel yr amlygir yn yr adroddiad ar gyfer y Pwyllgor. Bydd y wybodaeth sydd wedi’i chyflwyno yn yr adroddiad yn dystiolaeth ddefnyddiol ar gyfer datblygu polisïau yn y dyfodol, yn enwedig yng nghyd-destun paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn, fydd yn adlewyrchu anghenion yr Ynys o safbwyntiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol.

 

           Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Polisi Cynllunio

 

Amlygwyd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Polisi Cynllunio yn Atodiad 2 yr adroddiad. Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn cwrdd yn fisol. O ran adroddiadau y mae’n rhaid eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith, bydd adborth a safbwynt y Pwyllgor yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau o’r fath.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Polisi Cynllunio.

 

               Recriwtio Tîm Polisi Cynllunio Newydd

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod pecynnau recriwtio newydd wedi cael eu paratoi gyda’r bwriad o annog mwy o ddiddordeb yn y swyddi gwag o fewn y Tîm Polisi Cynllunio. Cafodd y 4 swydd eu hysbysebu ar 22 Medi, 2023, gyda’r dyddiad cau ar 9 Hydref 2023. Nododd fod y broses wedi bod yn llwyddiannus gyda nifer o unigolion yn ymgeisio ar gyfer y swyddi; bydd cyfweliadau ar gyfer y 4 swydd yn cael eu cynnal yn fuan.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar recriwtio Tîm Polisi Cynllunio newydd.

 

           Cytundeb Darparu a Chynllun Cyfraniad Cymunedol

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y bydd y cyfnodau paratoi ar gyfer cwblhau’r Cynllun Datblygu Lleol yn dibynnu ar amserlen rymus ar gyfer y camau sydd angen eu cwblhau yn ôl Cytundeb Darparu ffurfiol, y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r Cyngor llawn gytuno arno. Bydd angen dilyn Strategaeth Cyfraniad Cymunedol fydd yn rhoi cyfle i gymunedau lleol, perchnogion tir, datblygwyr, busnesau, ymgynghorwyr statudol a rhanddeiliaid sydd wedi dangos diddordeb i gynorthwyo a chyfrannu’n effeithiol at lunio Cynllun Datblygu Lleol. Bydd ymgynghori gyda Swyddogion perthnasol yn y Cyngor yn allweddol drwy gydol y cyfnod paratoi, a bwriad hyn yw sefydlu Grŵp o Swyddogion arbenigol sy’n cynrychioli gwasanaethau gwahanol o fewn y Cyngor, a bydd yn cael ei Gadeirio gan y Prif Weithredwr. Roedd aelodau eisiau gwybod a fyddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn un o’r rhanddeiliaid yr ymgynghorir â nhw mewn perthynas â’r Strategaeth Cyfraniad Cymunedol, gan nad ydynt yn ymateb fel ymgynghorai statudol i geisiadau cynllunio. Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn un o’r rhanddeiliaid yr ymgynghorir â nhw.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad mewn perthynas â’r Cytundeb Darparu a’r Cynllun Cyfraniad Cymunedol.

 

·             Cyfarwyddyd Erthygl

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio, mewn ymateb i’r pwysau sy’n wynebu trigolion lleol yn eu hymdrechion i brynu neu rentu cartref yn eu cymunedau oherwydd ail gartrefi a chartrefi gwyliau, gan roi pwerau i Awdurdodau Cynllunio Lleol fynd i’r afael â phryderon o’r fath drwy addasu’r mesurau rheoli yn ôl amgylchiadau lleol, sy’n cynnwys:-

 

                  Addasu Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 i greu dosbarthiadau defnydd newydd ar gyfer Prif Gartrefi (Dosbarth Defnydd C3), Ail Gartrefi (Dosbarth Defnydd C5) a Llety Gwyliau Tymor Byr (Dosbarth Defnydd C6);

                  Addasu Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 er mwyn galluogi newidiadau rhwng dosbarthiadau defnydd newydd ar gyfer Prif Gartrefi, Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr;

                  Addasu Polisi Cynllunio Cymru er mwyn nodi’n glir, pan fo’n berthnasol, fod rhaid ystyried nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau tymor byw mewn ardal leol wrth ystyried gofyniad tai a pholisïau mewn Cynlluniau Datblygu Lleol.

 

O ystyried y pwysau ar y farchnad eiddo lleol yn sgil y galw am ail gartrefi a llety gwyliau ar Ynys Môn, a’r ddarpariaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, bydd yn rhaid i’r Cyngor Sir gwblhau gwaith er mwyn ystyried a ddylid cymryd cyfeiriad o’r fath ar yr Ynys. Bydd y gwaith hwn o fewn cylch gorchwyl y Cydlynydd Her Tai, ac mae’r swydd yn cael ei hysbysebu yn y broses recriwtio barhaus. Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, ac mae’r Awdurdod hwn wedi ymateb i’w proses ymgynghori. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch a yw Cyngor Gwynedd wedi derbyn adborth i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4, dywedodd y Rheolwr Polisi Cynllunio fod ymatebion sylweddol wedi’u cyflwyno yn gwrthwynebu’r ymgynghoriad Erthygl 4 yng Ngwynedd. Nododd fod Swyddogion o’r Cyngor hwn wedi mynychu digwyddiad diweddar wedi’i drefnu gan Gyngor Gwynedd, ac roedd yn amlwg y bydd angen gwneud gwaith sylweddol os yw’r Awdurdod hwn am gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Cyfeiriwyd at y cynllun peilot a gwblhawyd gan Gyngor Gwynedd yn Ardal Dwyfor, a’r adnoddau ariannol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd aelodau fod trigolion ar yr Ynys yn bryderus nad yw’r broses o symud Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ei flaen wedi digwydd. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ei bod hi’n bwysig dysgu gwersi o brofiadau Cyngor Gwynedd, a deall cymhlethdod y gwaith a gwblhawyd o ran Cyfarwyddyd Erthygl 4.

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar Gyfarwyddyd Erthygl 4.

                  • Hyfforddiant

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi cynllunio fod rhaglen hyfforddiant ar gyfer aelodau yn cael ei pharatoi, a bydd yn cynnwys trosolwg o’r broses paratoi cynllun datblygu fydd yn cael ei gefnogi gan sesiynau mwy manwl yn edrych ar elfennau penodol o’r broses, gan ganolbwyntio ar feysydd gwaith penodol. Nododd, gan y bydd rhai elfennau o’r Cynllun Datblygu Lleol angen eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn, byddai’n fanteisiol i’r holl Aelodau Lleol dderbyn hyfforddiant. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, a’r Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Newid Hinsawdd, ei bod hi’n bwysig fod yr holl Aelodau Etholedig gael cyfle i dderbyn hyfforddiant. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod angen sefydlu amserlen glir er mwyn sicrhau bod cymorth ac arweiniad ar gael i Aelodau wrth iddynt baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd bod modd cynnal sesiynau hyfforddi ar ôl cyfarfodydd y Pwyllgor hwn, wrth i elfennau gwahanol o’r Cynllun Datblygu Lleol gael eu trafod.

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar y Rhaglen Hyfforddi.

Dogfennau ategol: