Eitem Rhaglen

Cyfansoddiad y Cyngor

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ar Gyfansoddiad y Cyngor Sir, a fabwysiadwyd yn 2001 ac sydd wedi cael ei ddiweddaru a’i adolygu’n gyson i adlewyrchu newidiadau yn y gofynion cyfreithiol neu drefniadau lleol newydd. Diweddarwyd y Cyfansoddiad ddiwethaf ar 27 Hydref 2023.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) er mwyn comisiynu Cyfansoddiad Enghreifftiol newydd i’w ddefnyddio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd fod Atodiad 1 yn cynnwys fersiwn ddrafft o Adrannau 1 i 4 o’r Cyfansoddiad newydd arfaethedig ac mae Atodiad 2 yn amlygu materion a nodwyd fel rhai newydd neu wahanol gan y Swyddog Monitro a bod, felly, angen eu dwyn i sylw’r Pwyllgor. Nodwyd bod yr iaith yn fwy eglur yn y Cyfansoddiad newydd, mae trefn a threfn rhifo’r dogfennau’n haws ei ddilyn ac maent yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) am farn y Pwyllgor ar Adrannau 1 i 4 o’r Cyfansoddiad newydd. Dywedodd y byddai rhan arall o’r Cyfansoddiad Enghreifftiol gerbron y Pwyllgor ym mis Mawrth 2024. Nododd y caiff yr ymatebion i’r holl Adrannau eu cyfuno mewn un adroddiad i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo ar ddyddiad diweddarach.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Cyfansoddiad Enghreifftiol drafft newydd, gan ymateb fel a ganlyn i’r materion a nodwyd yn Atodiad 2 yr oedd angen penderfyniad gan y Pwyllgor arnynt:-

 

1. (2.2)   Diffiniadau yn y Cyfansoddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

2. (2.4)   Dyletswydd i Fonitro ac Adolygu’r Cyfansoddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

3. (2.6.1)   Cymeradwyo

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

4. (3.1.2)   Gwybodaeth a fydd ar gael i Gynghorwyr y Cyngor

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

5. (4.6.25) 

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

6. (4.10.1.1) 

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un a ddylid diwygio ymhellach y cynnig mewn perthynas â’r gofyn i’r Arweinydd nodi aelodau’r Cabinet a’u cyfrifoldebau mewn ysgrifen cyn pen 7 diwrnod. Barn y Pwyllgor oedd efallai na fyddai’r trefniant hwn yn ymarferol o fewn y terfyn amser a gofynnwyd am gael adolygu’r mater gwleidyddol hwn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn ceisio eglurhad ynglŷn ag oblygiadau mabwysiadu’r trefniant hwn pe ceid sefyllfa wleidyddol ddidatrys.

 

7. (4.10.1.3 (f)) 

 

Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cyhoeddiadau gan Arweinyddion Grwpiau i’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD bod rhaid i’r Cadeirydd gymeradwyo cyhoeddiadau gan Arweinyddion Grwpiau cyn y cyfarfod. Roedd y Pwyllgor yn cytuno y byddai o leiaf 24 awr yn gyfnod rhesymol ar gyfer hysbysu’r Cadeirydd am unrhyw gyhoeddiad cyn y cyfarfod.

 

8.(4.11.9)

 

Eglurodd Aelodau’r Pwyllgor a oedd yn cynrychioli Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru bod yr arian sy’n cael ei dderbyn tuag at yr Heddlu wedi’i gynnwys yn y Dreth Gyngor fel praesept, tra bod y Gwasanaeth Tân yn gosod ardoll ar awdurdodau lleol ac mae’n cael ei gynnwys yn y Dreth Gyngor gyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r ddau randdeiliaid dan sylw gyflwyno adroddiadau diweddaru i’r Cyngor Sir, yn hytrach na bod cynghorwyr yn cyflwyno adborth ar ran y cyrff allanol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad mewn perthynas â Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, ac y dylai cyrff allanol eraill ddarparu adborth dim ond pan fydd angen i’r Cyngor wneud penderfyniad neu ymateb i ymgynghoriad.

         

9. (4.11.13)

 

PENDERFYNWYD cadw at y sefyllfa bresennol a nodwyd fel Opsiwn A yn yr Atodiad i’r adroddiad.

 

10. (4.11.14(b))

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

11. (4.13.2)

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

12. (4.16.4)   Rhybudd o Gwestiynau

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

13. (4.16.5)   Uchafswm Nifer y Cwestiynau

 

Gofynnodd aelod gwestiwn ynglŷn â geiriad y frawddeg, ‘Bydd unrhyw gwestiynau sy’n weddill heb eu hateb yn cael eu hailgyflwyno i’r Prif Weithredwr ar gyfer cyfarfod nesaf y Cyngor’. Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r geiriad, gan ei fod yn awgrymu y byddai’r cwestiynau’n cael eu rhoi yn awtomatig ar raglen y cyfarfod nesaf. Cytunodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i edrych ymhellach ar y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad, ar yr amod bod y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn adolygu’r geiriad.

 

14. (4.16.7)   Cynnwys y Cwestiynau

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar sylwadau’r Swyddog Monitro, sef y gallai’r Cyngor gael polisi ar bron unrhyw beth a pham, felly, na fyddai’n deg i ofyn cwestiynau ffeithiol?

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnig y Swyddog Monitro i wrthod Adrannau (b) ac (c) fel y’u nodir yn Atodiad 2 o’r adroddiad.

 

15. (4.16.8(c))

 

PENDERFYNWYD, pan na ellir rhoi’r ateb ar lafar, bod ymateb ysgrifenedig yn cael ei ychwanegu at gofnodion y cyfarfod maes o law. Ni chytunwyd i gyhoeddi’r ymateb ar wahân. Penderfynodd y Pwyllgor hefyd y dylai ymatebion o’r fath gael eu cyflwyno yn unol ag amseroedd ymateb corfforaethol.

 

16. (4.17.4)   Cynnig i Gael Gwared ar yr Arweinydd

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

17. (4.17.5)   Un Cynnig fesul Cynghorydd

     

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

18. (4.19)   Trafodaeth ynghylch Cyflwr y Sir

 

PENDERFYNWYD cynnal y sefyllfa bresennol, h.y. Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd, a nodir fel Opsiwn 1 yn Atodiad 2 yn yr adroddiad.

 

19. (4.2.1)   Llofnodi’r Cofnodion

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiad arfaethedig i ‘ddilysu’rcofnodion.

 

20. (4.22.2)   Dim Gofynion i Lofnodi Cofnodion Cyfarfod Blaenorol mewn Cyfarfod Arbennig

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

21. (4.23)   Cofnod o Bresenoldeb

 

PENDERFYNWYD cytuno gyda chynnig y Prif Weithredwr, fel y nodir yn yr adroddiad, h.y., creu un Gofrestr electronig.

 

22. (4.26.3)   Clirio Llwyfan Cyfarfod Ar-lein

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

23. (4.27)   Ffilmio a Defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol yn ystod Cyfarfodydd

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad. 

 

24. (4.28)   Darllediadau Electronig o Gyfarfodydd

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

25.(4.31)   Penodi Dirprwyon ar Gyrff y Cyngor

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig fel y’u nodir yn yr adroddiad, yn hytrach nag awgrym y Prif Weithredwr sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 2 o’r adroddiad.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) am ganiatâd y Pwyllgor i newid y rhifau ar y tudalennauCynnwysyn Atodiad 1, a chytunodd y Pwyllgor ar hynny. 

Dogfennau ategol: