Eitem Rhaglen

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2024-2025

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth ar gynigion drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2024-25.

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod angen i’r Cyngor ymateb i ymgynghoriad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar y cynigion drafft, ynghyd â chwe chwestiwn penodol arall, erbyn 8 Rhagfyr. Gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried a chyflwyno sylwadau ar y cynigon drafft ac awdurdodi swyddogion i ymateb yn unol â thrafodaethau’r Pwyllgor.

 

Ymatebodd y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

Cwestiwn 1 – Cynyddu cydnabyddiaeth ariannol drwy ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE)

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod y taliadau arfaethedig i aelodau etholedig gyfystyr â chynnydd o 6%, sef cynnydd o £50,000 yn y gost o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dywedodd fod uwch swyddogion, gan gynnwys y Swyddog Adran 151, wedi derbyn y newidiadau arfaethedig.

 

Cwestiwn 2 – Hyblygrwydd lleol ar gyfer taliadau i aelodau cyfetholedig

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cynnig darparu hyblygrwydd lleol i swyddogion perthnasol dalu cyfradd yr awr i aelodau cyfetholedig yn hytrach na’r gyfradd diwrnod neu hanner diwrnod bresennol. Dywedodd fod y Pwyllgor Safonau yn cefnogi’r newid, ar yr amod nad yw’r gwaith ychwanegol yn creu baich gweinyddol i swyddogion. Nodwyd nad yw’r gydnabyddiaeth ariannol i aelodau annibynnol wedi codi yn unol â meysydd eraill ers 2021/22.

 

Cwestiwn 3 – Annog teithio cynaliadwy

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi gofyn am enghreifftiau o arferion da sy’n dangos sut mae’r Cyngor Sir yn annog neu’n cefnogi teithio cynaliadwy. Dywedodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i deithio cynaliadwy ac mae’n cyfranogi trwy e.e. ddarparu cyfleusterau cadw beiciau; hyrwyddo’r cynllun beicio i’r gwaith; mae mapiau’n cael eu llunio i ddangos i’r cyhoedd sut y gallant deithio i’r pencadlys gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

 

Cwestiwn 4 – Ymwybyddiaeth o hawliau cynrychiolwyr

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn gofyn am dystiolaeth o gamau a gymerwyd gan yr Awdurdod i sicrhau fod aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig yn ymwybodol o’r lwfansau a’r gwariant y gallant eu hawlio. Dywedodd y byddai’r Cyngor yn rhannu tystiolaeth i ddangos sut mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau e.e. bydd adroddiad terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei rannu gyda’r Cyngor llawn. Nodwyd hefyd fod cynigion Panel Annibynnol Cymru’n cael eu trafod mewn cyfarfodydd ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, ac mae gwybodaeth yn cael ei rannu mewn cyfarfodydd penodol. Mae tudalen ar wefan y Cyngor hefyd sy’n esbonio beth yw hawliau cynrychiolwyr.

 

Cwestiwn 5 – Cyhoeddi symiau wedi’u cyfuno ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod y cwestiwn hwn yn ymwneud â Chynghorau Tref a Chymuned. Nid yw’r Cyngor yn bwriadu ymateb i’r cwestiwn hwn.

 

Cwestiwn 6 – Cyhoeddi symiau wedi’u cyfuno ar gyfer cyrff eraill

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Panel Dyfarnu Cymru’n ystyried p’un a ddylid cyfuno rhai symiau sy’n cael eu cyhoeddi ar gyfer aelodau unigol o’r prif gynghorau. Dywedodd fod y Panel yn cynnig cyfuno costau teithio a chostau’n gysylltiedig â gweithio gartref er mwyn dangos y cyfanswm a dalwyd yn unig, gyda’r gobaith o annog mwy o aelodau i hawlio.

 

Mynegodd un o’r aelodau bryder am y bwriad i gyfuno treuliau a lwfansau oherwydd gallai greu’r argraff anghywir ac awgrymodd y dylid parhau i ddangos y treuliau ar wahân. Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth mai bwriad y cynnig hwn yw cyfuno rhai o’r costau ychwanegol, ac y byddai lwfansau aelodau’n cael eu dangos ar wahân. Dywedodd y byddai’n gofyn am gadarnhad ynglŷn â’r mater hwn fel rhan o ymateb y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Pennaeth Democratiaeth yn ysgrifennu at Banel Dyfarnu Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i gyflwyno sylwadau’r Pwyllgor ar y cynigion drafft, fel y nodir isod:-

 

Cwestiwn 1 – Derbyn y cynigion;

Cwestiwn 2 – Derbyn y cynigion a chynnwys y sylwadau a nodwyd;

Cwestiwn 3 – Derbyn y cynigion a darparu enghreifftiau o arfer dda yn y Cyngor ar hyn o bryd;

Cwestiwn 4 – Derbyn y cynigion a chynnwys y sylwadau a nodwyd ynglŷn â sut mae’r Cyngor yn codi ymwybyddiaeth am hawliau cynrychiolwyr;

Cwestiwn 5 - Amherthnasol

Cwestiwn 6 – Derbyn y cynnig a gofyn am gadarnhad ynglŷn ag a fyddai lwfansau a threuliau yn cael eu dangos ar wahân.

Dogfennau ategol: