Eitem Rhaglen

Cynllun Strategol Rheoli Asedau Tai 2024-29

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Rheoli Asedau ar gyfer 2022-29 i'w ystyried a'i graffu gan y Pwyllgor. Mae'r Cynllun yn nodi sut y bydd y Cyngor yn rheoli, cynnal a buddsoddi yn ei stoc tai dros gyfnod y Cynllun.

Cyflwynwyd yr adroddiad a'r Cynllun Strategol gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai a gyfeiriodd at ddiben y Cynllun sef sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau gwybodus am y buddsoddiad mewn eiddo unigol yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'u perfformiad ar sail gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a bod stoc tai'r Cyngor yn darparu cartrefi diogel ac addas i'w denantiaid,  yn cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023 a lle bynnag y bo'n bosibl, eu bod yn cyrraedd targedau datgarboneiddio.

Crynhodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol Tai feysydd blaenoriaeth y Cynllun Strategol Rheoli Asedau sy'n cynnwys ymateb i’r heriau newydd mewn perthynas â datgarboneiddio a gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn SATC 2023. Cwblhaodd y Gwasanaeth arolwg o gyflwr stoc tai yn 2022/23 sy'n darparu'r sail ar gyfer cynllunio yn y dyfodol, gan gynnwys bodloni gofynion buddsoddi cynllun busnes 30 mlynedd y gwasanaeth a chyflawni SATC 2023. Ymhlith y meysydd buddsoddi bydd newid cydrannau allweddol megis boeleri a cheginau yn unol â'r cylchoedd bywyd disgwyliedig yn ogystal â gosod mesurau ynni adnewyddadwy fel Solar PV a Storwyr Batri. 

Dyma’r prif bwyntiau trafod a gododd o waith craffu'r Pwyllgor ar y Cynllun Strategol Rheoli Asedau–

·      Effeithiolrwydd rhaglenni a systemau meddalwedd rheoli asedau a'r effaith y gallai materion technegol ei chael ar gyflawni'r Cynllun Strategol.

·      Goblygiadau ariannol y Cynllun yn ogystal â sicrwydd ffynonellau ariannu i allu ei weithredu.

·      Y trefniadau monitro, llywodraethu a gwerthuso i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni.

·      Y ffyrdd y mae'r cynllun yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun y Cyngor 2023-28, ac yn cyfrannu at eu cyflawni

·      Y risgiau o ran cyflawni'r Cynllun a sut y cynigir y caiff risgiau hynny eu lliniaru.

Mewn ymateb, dyma sylwadau’r Aelod Portffolio a'r Swyddogion–

·      Rhoddwyd sicrwydd ynghylch y wybodaeth a gedwir gan y Gwasanaeth ac effeithiolrwydd y systemau a ddefnyddir i'w rheoli. Mae data cyflwr stoc yn allweddol wrth sicrhau bod costau'r dyfodol yn gadarn ac yn darparu sail gadarn ar gyfer cynllunio. Mae'r arolwg diweddar a gwblhawyd yn annibynnol o gyflwr y stoc tai yn darparu data sylfaenol newydd sy'n cael ei ategu gan wybodaeth hanesyddol am yr ystâd dai.

·      Cadarnhawyd mai’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) yw’r brif ffynhonnell gyllid lle mae'r incwm o renti wythnosol tenantiaid ar gartrefi a garejys wedi'i glustnodi ar gyfer gwariant a buddsoddiad yn stoc tai'r Cyngor. O'r herwydd, mae'r CRT yn darparu sail ariannol gadarn ar gyfer y 5 mlynedd nesaf ac oes y Cynllun. Lle mae elfen o ansicrwydd mewn perthynas â chost gyffredinol bodloni gofynion SATC, gan gynnwys cwblhau Llwybrau Ynni wedi'u Targedu ar gyfer pob cartref sy'n eiddo i'r Cyngor, unwaith y bydd y costau hynny'n hysbys, gellir eu cynnwys yng Nghynllun Busnes y CRT. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu lwfans gwaith atgyweirio sylweddol i helpu cynghorau gyda'u stoc tai. Mae yna flaenoriaethau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd y bydd yn rhaid mynd i'r afael â nhw wrth ymateb i’r heriau a osodwyd gan SATC 2023 gan gynnwys sicrhau cydbwysedd rhwng datblygu eiddo newydd a buddsoddi mewn cartrefi presennol.

·      Cadarnhawyd y trefniadau llywodraethu a gwerthuso ar gyfer y Cynllun, gan gynnwys y dulliau adrodd er mwyn gallu monitro'r cynnydd yn effeithiol drwy gyfarfodydd adolygu Prosiect Asedau, yr Uwch Dîm Arwain Tai, Uwch Dîm Arwain Corfforaethol, a'r Pwyllgor Gwaith. Mae grŵp Monitro Tenantiaid eisoes wedi'i sefydlu ar gyfer SATC 2023.

·      Eglurwyd sut mae'r Cynllun Strategol yn cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor drwy ddatblygu gweithlu gwasanaethau tai Cymraeg eu hiaith a defnyddio contractwyr lleol, gan wneud y defnydd gorau o'r stoc tai trwy fuddsoddi’n amserol a thrwy hynny gyfrannu hefyd at yr economi leol a thrwy gefnogi addysg drwy gysylltiadau'r gwasanaeth â Choleg Menai a chynlluniau prentisiaethau. Disgwylir hefyd i'r daith tuag at sero net sy'n cynnwys datgarboneiddio stoc tai'r Cyngor a'r technolegau sy'n gysylltiedig ag ef greu cyfleoedd o ran sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth.

·      Cadarnhawyd bod y prif risgiau'n ymwneud â gwybod cyfanswm cost darparu SATC 2023 yn ogystal â ffactorau yn y farchnad lafur ac argaeledd contractwyr yn enwedig gan y bydd landlordiaid cymdeithasol eraill yn cystadlu am yr un adnoddau ac arbenigedd ar yr un pryd i wneud yr un gwaith. Mae’r drefn gosod rhent a'r codiadau rhent a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru yn her bellach, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar swm y refeniw/incwm i'r CRT ac yn dilyn hynny lefel y buddsoddiad y gall y Gwasanaeth Tai ei wneud yn ei stoc tai. Mae'r Gwasanaeth yn ffodus i fod ymhlith y cyntaf i gwblhau arolwg o gyflwr y stoc tai sy'n allweddol i baratoi rhaglen welliannau a chynnal a chadw wedi'i chynllunio ac mae’n galluogi'r Cyngor i fwrw ymlaen i dreialu'r llwybrau Ynni wedi'u Targedu ac yn fanteisiol o ran sicrhau'r adnoddau i gyflawni'r gwaith. Mae'r Cyngor dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn rhagweithiol wrth osod mesuryddion ynni solar ac mae mesuryddion eisoes wedi’u gosod mewn hyd at 20% o'i stoc tai ac mae 28% o'i stoc wedi cyrraedd SAP75 EPC C.

Gan nodi bod cael gafael ar gontractwyr yn her a risg bosibl i gyflawni'r Cynllun, cynigiodd y Pwyllgor, a chytunwyd y dylid archwilio dichonoldeb sefydlu tîm neu dimau mewnol i ddarparu rhaglenni gwaith wedi'u cynllunio megis newid ceginau a mesurau ynni adnewyddadwy dros y pum mlynedd nesaf.

Ar ôl craffu ar Gynllun Strategol Rheoli Asedau 2024-29 a nodi ymateb yr Aelod Portffolio a'r Swyddogion i'r materion a godwyd, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol -

·      Argymell Cynllun Strategol Rheoli Asedau 2024-29 i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo.

·      Yng ngoleuni'r prinder contractwyr, gofyn i'r Gwasanaeth Tai archwilio’r posibilrwydd o sefydlu tîm(au) mewnol i ymgymryd â rhaglenni gwaith wedi'u cynllunio fel newid ceginau a mesurau ynni adnewyddadwy a/neu welliannau eraill yn ôl yr angen.

 

Dogfennau ategol: