Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

10.1 VAR/2023/70 - Coleg Menai,Ffordd y Coleg, Llangefni

        

 VAR/2023/70

       

Cofnodion:

10.1 VAR/2023/70 - Cais o dan Adran 73A i ddiwygio amod (16) (Manylion yr ardal chwarae) a (44) (Manylion yr ardal chwarae) o ganiatâd cynllunio rhif VAR/2022/44 (Cais hybrid i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd a lle parcio) er mwyn cyflwyno gwybodaeth a chwblhau'r gwaith ar y llecyn chwarae cyn meddiannu annedd rhif 61 yng Ngholeg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais cynllunio hwn i’r Pwyllgor Cynllunio gan fod y cais gwreiddiol a gymeradwywyd ganddo yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn ymwneud â diwygio geiriad amod (16) ac amod (44) (Manylion y Lle Chwarae) o gais cynllunio VAR/2022/44 a gwneud cyfraniad ariannol er mwyn darparu lle agored. Dyma gais gan gymdeithas dai Clwyd Alyn i ddiwygio geiriad amod (16) a (44) o ganiatâd cynllunio VAR/2022/44 fel y gellir cydymffurfio â hwy gan eu bod yn cael eu torri ar hyn o bryd. Yn 2017 rhoddwyd caniatâd hybrid i Goleg Menai i adeiladu Canolfan Beirianneg a rhoddwyd caniatâd amlinellol i ddatblygu 153 o unedau preswyl a gwesty. Cafodd cais materion a gadwyd yn ôl ei gymeradwyo yn 2021 ar gyfer y safle y mae’r cais hwn yn ymwneud ag o ar gyfer datblygu 60 o unedau preswyl.  Yn y cyfamser gwerthodd Coleg Menai safle 2 a 3 i gymdeithas dai Clwyd Alyn ar gyfer datblygu 60 o unedau preswyl. Fodd bynnag, mae’r lle chwarae i blant ar safle 1, sef tir sydd ym meddiant Coleg Menai, ac nid yw’r gwaith i ddatblygu’r 23 uned breswyl ar y safle yma wedi cychwyn eto. Fe ddylai’r lle chwarae fod wedi cael ei gwblhau cyn i’r annedd gyntaf gael ei meddiannu, sydd yn cynnwys yr unedau fforddiadwy ar safle 2 a 3, sydd ym meddiant Clwyd Alyn. Mae rhai o’r anheddau sydd wedi cael eu datblygu gan gymdeithas dai Clwyd Alyn ar safle 2 a 3 eisoes wedi cael eu meddiannu ac felly mae’r amodau hyn wedi cael eu torri. Gan fod y lle chwarae i blant ar dir ym meddiant Coleg Menai, mae Clwyd Alyn wedi gofyn i eiriad yr amodau gael eu newid er mwyn caniatáu i’r lle chwarae gael ei adeiladu pan fydd y 61ain annedd fel y gellir meddiannu’r 60 uned fforddiadwy ar safle 2 a 3 gael eu meddiannu heb dorri amod (16) a (44). Mae Clwyd Alyn wedi cadarnhau y byddant yn cyfrannu £18,164.13 tuag at ddarparu lle chwarae yn nhref Llangefni. Mae’r swm yma’n seiliedig ar anghenion y 60 o unedau fforddiadwy a fydd yn cael eu datblygu gan gymdeithas dai Clwyd Alyn ar safle 2 a 3. Mae’r lle chwarae i blant yn dal i fod yn rhan o’r cynllun ehangach ar safle 1, sydd ym meddiant Coleg Menai ac mae’r cyfraniad ariannol yn berthnasol i’r 60 o unedau sy’n cael eu datblygu gan gymdeithas dai Clwyd Alyn yn unig. Mae disgwyl i Goleg Menai ddarparu rhagor o wybodaeth am y safleoedd eraill maes o law.  

 

Gan nad ydi’r tir ar gyfer y lle chwarae ym meddiant Clwyd Alyn, ystyrir bod y cais i ddiwygio geiriad yr amodau yn unol â’r disgrifiad yn yr adroddiad yn rhesymol a derbyniol. Bydd y cyfraniad ariannol gan gymdeithas dai Clwyd Alyn yn galluogi’r Cyngor i ddarparu lle agored yng nghymuned Llangefni. Argymhellir felly bod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Neville Evans.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dafydd Roberts a oedd yn dymuno cael gwybod ble yr oedd disgwyl i blant yn chwarae yn y cyfamser gan y gallai gymryd blynyddoedd i’r 61ain annedd gael ei chwblhau, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai’r cyfraniad ariannol o £18k y mae Clwyd Alyn wedi ymrwymo iddo yn helpu i wella’r cyfleusterau presennol yn Llangefni er mwyn lliniaru effaith yr 60 uned sy’n cael ei datblygu. Unwaith y bydd y 61ain annedd yn cael ei datblygu, ar dir sydd ym meddiant Coleg Menai, bydd rhaid i Goleg Menai ddarparu manylion ynglŷn â’r lle chwarae ar gyfer gweddill y safle. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod dau le chwarae ger y safle a fyddai’n elwa o’r cyfraniad gan gymdeithas dai Clwyd Alyn er mwyn gwella’r cyfleusterau.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais gwreiddiol yn gais hybrid cymhleth a oedd yn ymwneud â mwy nag un safle. Gwerthodd Coleg Menai un safle i gymdeithas dai Clwyd Alyn er mwyn datblygu 60 o unedau preswyl ac mae’r anheddau hyn yn cael eu datblygu gan gymdeithas dai Clwyd Alyn yn annibynnol o’r cynllun a’r caniatâd ehangach. Pe byddai Coleg Menai wedi dechrau datblygu’r 23 uned breswyl ar safle 1, sef tir sydd yn eu meddiant hwy, fe allant fod wedi darparu’r lle chwarae i blant. Gan nad ydi’r tir ym meddiant Clwyd Alyn nid oes modd iddynt ddarparu lle chwarae cyn i’r unedau fforddiadwy hwy gael eu datblygu a’u meddiannu gan eu bod yn cael eu datblygu ar safle 2 a 3, a dyma’r rheswm dros y cais i ddiwygio geiriad yr amodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: