Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 FPL/2023/303 - Ysgol Syr Thomas Jones, Ffordd Tanybryn, Amlwch

FPL/2023/303

 

 

12.2 FPL/2023/146 – Cae Graham,Pentraeth

 

FPL/2023/146

 

 

12.3 FPL/2023/232Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni

 

FPL/2023/232

 

12.4 FPL/2023/227 – Ty Coch Farm, Rhostrehwfa

 

FPL/2023/227

 

 

 

Cofnodion:

12.1 FPL/2023/303 -Cais llawn ar gyfer gosod canopi awyr agored, 3 bwrdd tennis awyr agored, 2 bostyn pêl-fasged a gasebo ffrâm bren awyr agored yn Ysgol Syr Thomas Jones, Tanybryn Road, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir ym meddiant Cyngor Sir Ynys Môn.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y bydd y datblygiad arfaethedig yn galluogi i nifer o bynciau gael eu dysgu mewn ffordd amgen yn ogystal â darparu man diogel ar gyfer disgyblion yr ysgol. Cyfeiriodd at ddimensiynau’r gasebo ffrâm bren a’r canopi awyr agored fel y nodir yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog a dywedodd bod Ysgol Syr Thomas Jones yn adeilad rhestredig gradd II ac felly mae’n rhaid ystyried effaith y cynnig ar osodiad yr ased hanesyddol pwysig hwn. Roedd yr ymgynghorydd treftadaeth yn bresennol mewn cyfarfod safle gyda’r ymgeisydd i drafod y cynigion a chytuno ar leoliadau addas ar gyfer y nodweddion arfaethedig ac mae’r cynlluniau a gyflwynwyd a’r wybodaeth ategol yn cyd-fynd â’r hyn y cytunwyd arno yn y cyfarfod.  O ganlyniad, nid oes gwrthwynebiad o safbwynt treftadaeth adeiledig. Gan fod y safle oddi mewn i gwrtil yr ysgol ac wedi’i guddio gan goed a gwrychoedd a chan ei fod eisoes yn cael ei ddefnyddio fel cael chware/iard ysgol bernir na fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar eiddo gerllaw. Argymhellir bod y cais yn cael ei gymeradwyo. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Liz Wood bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.2 FPL/2023/146 – Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol a chodi annedd newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yng Nghae Graham, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Margaret M. Roberts, sy’n Aelod Lleol, am ymweliad safle ffisegol fel y gall aelodau gael gwell dealltwriaeth o’r safle a’r olygfa o’r traeth.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd yn gwrthwynebu ymweliad safle, ond, oherwydd bod y llwybr i lawr i’r safle mor gul, cynghorydd y byddai fideo o’r ymweliad safle’n helpu’r rheiny a fyddai’n cael anhawster cerdded i lawr y llwybr ac ar y traeth.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod ymweliad safle’n cael ei gynnal, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John I. Jones.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

12.3 FPL/2023/232 – Cais llawn ar gyfer codi strwythurau paneli solar ffotofoltäig a chreu cysgodfa ceir oddi tanynt yng Nghyngor Sir Ynys Môn, Llangefni

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais cynllunio gan Gyngor Sir Ynys Môn ar dir ym meddiant y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod hwn yn gais ar gyfer codi strwythurau paneli solar ffotofoltäig a chreu cysgodfa ceir oddi tanynt mewn dau faes pacio i’r Dwyrain ac i’r De Orllewin o Bencadlys Cyngor Sir Ynys Môn. Rhwng y ddau faes parcio bydd o 1,062 baneli solar PV yn cael eu gosod ac mae disgwyl iddynt gynhyrchu 389.55MWh o drydan. Mae gan y paneli ddisgwyliad oes o 30 mlynedd. Bydd y strwythurau solar PV yn cael ei gosod ar bolion 3.3m o uchder gyda chliriad o 2.3m ar un ochr a chliriad o 3.3m ar yr ochr arall, er mwyn i geir allu parcio oddi tanynt. Ni fydd unrhyw lefydd parcio’n cael eu colli o ganlyniad i’r datblygiad. Bydd y trydan a fydd yn cael ei gynhyrchu’n cael ei ddefnyddio i bweru’r adeiladau/ategolion sydd wedi’u cysylltu i gyflenwad trydan adeilad Cyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd a’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Bydd unrhyw drydan sydd yn weddill yn cael ei ddychwelyd i’r grid. Er nad yw’n rhan o’r cais cynllunio hwn, bydd modd ychwanegu system storio ynni batri yn nes ymlaen er mwyn storio’r ynni sydd yn weddill i’w ddefnyddio ryw bryd eto.

 

Mae polisïau cenedlaethol a lleol yn cefnogi datblygiadau solar yn gyffredinol, cyn belled nad ydi datblygiadau’n cael effaith andwyol ar yr ardal gerllaw. Y prif bolisi mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig yw Polisi ADN 2 sy’n cefnogi datblygiadau solar os gellir cydymffurfio â’r meini prawf sydd wedi’u nodi yn adroddiad y Swyddog. Bydd y datblygiad wedi’i leoli yn y maes parcio yn Ystâd Ddiwydiannol Llangefni ac o’r herwydd bernir na fydd yn cael effaith ar gymeriad y dirwedd, bioamrywiaeth na dynodiadau treftadaeth. Mae’r safle wedi’i guddio’n dda gan yr unedau presennol ar yr ystâd ddiwydiannol a Phencadlys y Cyngor. Bydd y coed a’r gwrychoedd ar hyd terfyn y maes parcio hefyd yn helpu i liniaru unrhyw effaith arall. Oherwydd pellter y safle oddi wrth y briffordd a’r unedau diwydiannol rhyngddynt bernir na fydd y paneli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ddefnyddwyr y briffordd oherwydd fflachio a llacharedd. Nid oes unrhyw eiddo preswyl gerllaw acer bod unedau diwydiannol wrth y safle bernir na fydd y datblygiad yn cael effaith negyddol ar yr unedau a chyflogaeth. Er nad oes angen Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol yn yr achos hwn ac er nad oes unrhyw eiddo preswyl gerllaw, mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn  i’r ymgeisydd ddarparu Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu i ddelio â thraffig adeiladu a bydd rhaid i’r amod hon gael ei rhyddhau cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle.

 

Bydd y cynnig yn helpu Cyngor Sir Ynys Môn i gyrraedd y targed sero net a hyrwyddo technolegau ynni adnewyddadwy. Yn ei dro, bydd hyn yn lleihau’r galw am ynni ac yn helpu’r Cyngor i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon yn ei bencadlys ac wrth gyflawni ei swyddogaethau. Argymhellir bod y cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Fel Aelod Lleol roedd y Cynghorydd Geraint Bebb yn croesawu’r datblygiad a chynigiodd ei fod yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.

 

12.4 FPL/2023/227 – Cais llawn i ddymchwel yr annedd presennol a chodi annedd newydd, ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol, gosod system trin carthffosiaeth, a gwaith cysylltiedig yn Fferm Tŷ Coch, Rhostrehwfa

 

Cyflwynwyd y cais o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y fynedfa/llwybr ym meddiant Ystâd Elusennol David Hughes, a’r Cyngor yw unig ymddiriedolwr. Mae gan yr ymgeisydd hawl tramwy ffurfiol i deithio ar hyd y llwybr i gyrraedd yr eiddo a rhoddwyd awdurdod i ganiatáu’r cais hwn.

 

Fel Aelod Lleol gofynnodd y Cynghorydd Geraint Bebb am ymweliad safle ffisegol er mwyn i’r aelodau gael gweld y safle a’r hyn sydd o’i amgylch ac effaith bosib y datblygiad pe byddai’r safle’n cael ei ddatblygu yn unol â’r cais.

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod ymweliad safle’n cael ei gynnal, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Neville Evans.

 

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rheswm a roddwyd.

 

Dogfennau ategol: