Eitem Rhaglen

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi'r cynigion manwl ar gyfer cyllideb refeniw 2024/2025 i’r Pwyllgor Gwaith ei adolygu’n derfynol a rhoi sêl bendith arno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid fod gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar nifer o faterion allweddol mewn perthynas â chyllideb 2024/25. Bydd modd wedyn i’r argymhellion terfynol gael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth, 2024. Y materion y mae angen cytuno arnynt yw Cyllideb Refeniw'r Cyngor ac yn sgil hynny, y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/2025; Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi'i diweddaru gan y Cyngor a'r defnydd o unrhyw gronfeydd untro i gefnogi'r gyllideb.

 

Ym mis Ionawr 2024, cynigiodd y Pwyllgor Gwaith gyllideb o £184.219m ar gyfer 2024/25 a oedd yn seiliedig ar y Cyllid Allanol Cyfun dros dro o £126.973m, byddai hyn yn gofyn am gynnydd o 10.9% yn y Dreth Gyngor a defnyddio £4.425m o falansau cyffredinol y Cyngor i gydbwyso'r gyllideb.  Wrth osod y gyllideb, cydnabu'r Pwyllgor Gwaith yr angen i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a chynyddu cyllidebau i fodloni’r galw cynyddol mewn gwasanaethau Oedolion a Phlant.  Roedd y gyllideb arfaethedig yn cynnwys cyfyngu’r cynnydd chwyddiant ar gyfer cyllideb

ddatganoledig ysgolion, gan olygu gostyngiad o £1.25m yn y gyllideb, ac roedd yn cynnwys targed arbedion o £1m a fyddai’n cael ei gyflawni trwy leihau’r gweithlu, peidio â defnyddio premiwm y Dreth Gyngor i gyllido prosiectau tai am un flwyddyn, gan arbed £1.2m, yn ogystal ag arbedion eraill yn y gyllideb a phrosiectau cynhyrchu incwm gwerth £1.327m.  Er bod yr amserlen rhwng cyhoeddi'r gyllideb arfaethedig gychwynnol a’r dyddiad terfynol ar gyfer gosod y Dreth Gyngor yn un fer, cynhaliwyd ymgynghoriad a oedd yn cynnwys ymgynghori o fewn Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned, Fforwm Pobl Ifanc, Fforwm Pobl Hŷn, Fforwm Cyllid Ysgolion ynghyd â phroses ymgynghori ar-lein.

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi maes o law y byddai cynghorau yn Lloegr yn derbyn £600m yn ychwanegol mewn cyllid yn 2024/25.  Bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £25m o gyllid canlyniadol

yn sgil y cyllid ychwanegol hwn, ac maent wedi cadarnhau y caiff £10.6m o’r cyllid

ychwanegol ei ddefnyddio i adfer Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol i lefel 2023/24. Mae’r £14.4m sy’n weddill wedi cael ei ddyrannu gan ddefnyddio fformiwla’r setliad Llywodraeth Leol. Effaith y cyllid ychwanegol hwn yw cynnydd o £332k yn y Cyllid Allanol Cyfun.  Nododd hefyd fod Awdurdod Tân Gogledd Cymru wedi adolygu eu cyllideb arfaethedig derfynol sydd wedi arwain at ostyngiad o £87k yn yr ardoll y mae'n rhaid i'r Cyngor ei hariannu. 

 

At hyn, dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa ariannol ychydig yn well na'r hyn a ragwelwyd ar ddechrau'r broses gyllideb gychwynnol.  Er bod cyllideb ysgolion wedi cynyddu, mae'r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu y bydd y cyfyngiad ar y cynnydd i ysgolion yn cael ei ostwng o 2.5% i 1.5% a fydd yn arwain at gynnydd o £498k i gyllideb gyffredinol ysgolion o'i gymharu â'r gyllideb a osodwyd yn y gyllideb arfaethedig ar y cychwyn.  Mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor hefyd yn cael ei ostwng i 9.5%, ac mae 0.9% yn gysylltiedig â’r cynnydd yn ardoll yr Awdurdod Tân, a 8.6% yn gysylltiedig â gofyn cyllidebol y Cyngor. Mae hyn yn gynnydd o £136.44 yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D, cyfanswm y gost i eiddo Band D fydd £1,572.30.  Mae'r cynnig i leihau oriau agor Canolfannau Hamdden yn cael ei addasu i ganiatáu i Ganolfan Hamdden Amlwch aros ar agor tan 3.00 p.m., yn hytrach na chau am 1.00 p.m., fel y cynigiwyd yn y gyllideb arfaethedig gychwynnol ar gost ychwanegol o £12k. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y setliad terfynol wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru sydd £175 yn uwch nag a nodir yn yr adroddiad.  Dywedodd mai'r prif risg i'r gyllideb yw nad oes cynnig tâl wedi’i wneud ar gyfer staff NJC ar gyfer 2024/2025; er bod codiad cyflog o 3.5% wedi'i gynnwys yn y broses o osod y gyllideb, bydd yn rhaid mynd i'r afael ag unrhyw godiad cyflog ychwanegol.  Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi eto beth fydd dyfarniad tâl athrawon o fis Medi 2024, felly, mae cryn ansicrwydd o hyd o ran chwyddiant tâl.   Nododd fod chwyddiant yn llai o risg eleni a rhagwelir y bydd yn gostwng dros y flwyddyn.  Mae cyfraddau llog uchel wedi bod yn fuddiol o ran buddsoddiadau'r Cyngor.  Ychwanegodd ymhellach fod risgiau hefyd i'r nifer fawr o grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru, neu gyrff eraill, sy'n darparu dros £25m o gyllid ychwanegol.  Mae'r setliad terfynol yn dangos y bydd mwyafrif y grantiau a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru yn aros ar lefel 2023/2024 neu byddant yn gostwng ar sail Cymru gyfan.  Yn ôl y rhagolygon cychwynnol, bydd cyllid grant i ysgolion rhwng 8% a 10% yn is nac yn 2023/24.  Mae'r gyllideb arfaethedig yn cynnwys nifer o dybiaethau o ran lefelau tebygol o incwm a gwariant yn y blynyddoedd i ddod, ac yn anochel mae nifer o risgiau ariannol yn y gyllideb arfaethedig.  Er ei bod yn amlwg bod pobl yn cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw, gall y cynnydd yn y Dreth Gyngor fod yn risg na fydd pobl yn gallu fforddio talu a gall dyledion gynyddu.  Fodd bynnag, mae lefel casglu'r Dreth Gyngor wedi sefydlogi i lefelau cyn y pandemig.  Risg ychwanegol fydd y cynnydd yn y premiwm ar ail gartrefi o 75% i 100%.   Gallai'r cynnydd annog perchnogion ail gartrefi i werthu neu osod eu heiddo. 

 

Ar ôl ystyried lefel balansau cyffredinol y Cyngor, balansau ysgolion, cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a chyllidebau wrth gefn, mae'r Swyddog Adran 151 yn fodlon bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn ddigon cadarn i wrthsefyll unrhyw anawsterau a allai godi yn ystod 2024/2025.  Fodd bynnag, er bod gan y Cyngor ddigon o adnoddau wrth gefn i'w alluogi i ddefnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw i gydbwyso'r gyllideb ar gyfer 2024/25, nid yw hon yn strategaeth gynaliadwy yn y tymor hir. Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a ddiweddarwyd ar gyfer 2025/26 a 2026/27 yn Nhabl 5 yr adroddiad, sy'n seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch chwyddiant, tâl a'r setliad llywodraeth leol a allai newid wrth i 2025/26 agosáu, yn dangos y bydd angen torri gwariant y gyllideb refeniw net yn sylweddol yn 2025/26 (dros £7m); er y gallai hyn gael ei wrthbwyso'n rhannol trwy ddefnyddio mwy o’r arian wrth gefn, dim ond gohirio'r angen i dorri'r gyllideb yn 2026/27 a wna hyn. Mae'r sefyllfa yn gwella yn 2026/27 gyda'r disgwyliad y bydd chwyddiant wedi gostwng yn ôl i darged Banc Lloegr o 2% ac y bydd y cynnydd ariannol gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd â chwyddiant.  Y newid na wyddys fydd galw am wasanaethau gofal cymdeithasol a digartrefedd, a all roi pwysau sylweddol ar gyllidebau pe baent yn cynyddu. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Dyfed W Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar drafodaethau'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, 2024 mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft arfaethedig derfynol.  Cadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi holi’r Swyddogion a'r Aelod Portffolio Cyllid ynghylch gallu'r gyllideb i ymateb i’r pwysau a’r galw ar wasanaethau; effaith y cynigion ar ddinasyddion Ynys Môn neu unrhyw grwpiau gwarchodedig a'r defnydd o gyllid a ryddhawyd o ganlyniad i newidiadau mewn ardollau a chyfraniadau i wasanaethau ar y cyd ar ôl i'r gyllideb arfaethedig gychwynnol gael ei gosod. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried pa gamau y mae'r Pwyllgor yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r bwlch cyllido a ragwelir yn 2025/2026 ac effaith bosibl y cap arfaethedig o 1.5% ar y cynnydd chwyddiant i ysgolion.  Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch a yw'r cynnig i leihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn creu risg ariannol i'r Cyngor yn y dyfodol ac effaith y cynnydd arfaethedig o 9.5% yn y Dreth Gyngor ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd talu a ph’un ai a oes unrhyw gymorth ar gael iddynt.

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Pwyllgor Gwaith hefyd wedi penderfynu rhyddhau £200k o'r balansau cyffredinol i gronfeydd wrth gefn ysgolion.  Dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno y bydd £50k arall yn cael ei drosglwyddo i'r balansau cyffredinol ar gyfer cronfeydd wrth gefn ysgolion gan arwain at gyfanswm o £250k. 

 

Mynegodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith mor anodd oedd y broses o osod cyllideb 2024/25. Er y cydnabuwyd bod defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso'r gyllideb yn risg, mae'r Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol o effaith yr argyfwng costau byw ar aelwydydd ac yn cydnabod bod yn rhaid cynllunio’n ofalus cyn blwyddyn ariannol 2025/26 i weld beth arall y gellir ei wneud i amddiffyn trigolion Ynys Môn. I'r perwyl hwn awgrymwyd bod yn rhaid cael setliad gwell i lywodraeth leol i helpu'r cyngor hwn a chynghorau eraill i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol, cadw i fyny â thâl a chwyddiant ac i gynnal a/neu wella gwasanaethau.   Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith ar y broses o osod y gyllideb ynghyd â'r adroddiadau eraill yn ymwneud â'r gyllideb/cyllid ar agenda'r cyfarfod hwn.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor, fel y’i dangosir yn Adran 4 o Atodiad 1 ac yn Atodiad 2;

·      Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor gadw o leiaf £9.2m o falansau cyffredinol;

·      Nodi sylwadau’r Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir yn Adran 5 o Atodiad 1;

·      Argymell i’r Cyngor llawn gyllideb net o £184.165m ar gyfer y Cyngor Sir ac, yn sgil hynny, cynnydd o 9.50% yn y Dreth Gyngor (8.6% ar gyfer Gwasanaethau’r Cyngor a 0.9% ar gyfer yr Ardoll Tân) (£136.44 – Band D), gan nodi y caiff cynnig ffurfiol, yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned, ei gyflwyno i’r Cyngor ar 7 Mawrth 2024, 2024;

·      Bod addasiad yn cael ei wneud ar gyfer unrhyw fân wahaniaethau rhwng y setliad dros dro a’r setliad terfynol, gan ddefnyddio’r gyllideb wrth gefn gyffredinol sydd wedi’i chynnwys yng nghyllideb 2024/25, neu trwy wneud  cyfraniad i / o arian wrth gefn cyffredinol y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys;

·      Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor;

·      Cytuno bod £250k yn cael ei drosglwyddo i gyllideb wrth gefn ysgolion o’r tanwariant addysg canolog yn 2023/2024.

·      Cytuno y gellir defnyddio cyllid o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau seiliedig ar alw yn ystod y flwyddyn ariannol;

·      Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb wrth gefn gyffredinol yn cael ei hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn;

·      Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 yr hawl i ryddhau cyllid o hyd at £50k o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni ddylid caniatáu unrhyw eitem gwerth dros £50k heb ganiatâd o flaen llaw y Pwyllgor Gwaith;

·      Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn codi i 100% ac yn aros ar 100% ar gyfer tai gwag.

 

Dogfennau ategol: