Eitem Rhaglen

Gwella Dibynadwyedd a Gwytnwch ar draws Afon Menai

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Eonomaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Gwella Dibynadwyedd a Chydnerthedd ar draws y Fenai i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Arweinydd, ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (CTGC) wedi ei sefydlu yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganslo’r bwriad i adeiladu trydedd bont bosibl ar draws y Fenai.  Dywedodd fod dau bryder sylfaenol gyda chanfyddiadau'r CTGC. Yn gyntaf, nid yw'n ystyried opsiynau ar gyfer gwella cydnerthedd cysylltiadau ar draws y Fenai gan ei bod yn ymddangos bod yr opsiwn ar gyfer gwella'r seilwaith ar gyfer cerbydau wedi'i ddiystyru ar y cychwyn ac yn ail mae hyn yn arwain at argymhellion sy'n gwbl annigonol ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Ynys Môn a'r ardal ehangach.  Bydd yr argymhellion naill ai’n cael ychydig iawn o effaith ar wella cysylltedd ar draws Afon Menai, neu’n arwain at risgiau / ansicrwydd difrifol o ran eu cyflenwi (gan gynnwys eu bod eisoes wedi’u diystyru).  At hyn, dywedodd yr Arweinydd ei bod o'r farn nad yw'r CTGC wedi ystyried gwir ddiffyg cydnerthedd y ddwy bont ar draws Afon Menai i bobl Ynys Môn o ran mynediad i Ysbyty Gwynedd, sefydliadau addysg, teithio i'r gwaith ac fe allai effeithio ar ddiogelwch a pheryglu bywydau pe bai’r ddwy bont yn cael eu cau. At hyn, dywedodd fod enghreifftiau bod disgyblion wedi methu â mynd i arholiadau oherwydd bod y pontydd ar gau. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig bod yr adroddiad yn cael ei rannu gydag Aelodau Cynulliad y rhanbarth i gefnogi safbwynt y Cyngor er budd rhanbarth Gogledd Cymru.  Awgrymodd y dylai ysgrifennu at Brif Weinidog newydd Llywodraeth Cymru, ar ôl ei benodi, i fynegi pryderon yr Awdurdod ynghylch dibynadwyedd a chydnerthedd ar draws y Fenai.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd na fydd yr argymhellion yn adroddiad y CTGC yn datrys cydnerthedd ar draws Afon Menai a'i fod yn rhwystro gallu'r Ynys i ddenu busnesau a gweithgarwch economaidd ac yn enwedig y statws Porthladd Rhydd a sicrhawyd gan yr Ynys. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo nad yw'r CTGC wedi ystyried anghenion yr Ynys i deithio yn ôl a blaen i'r tir mawr.  Mae cydnerthedd y pontydd yn bwysig i'r economi, twristiaeth ac i nwyddau allu teithio’n ôl a blaen i Borthladd Caergybi. 

 

Dywedodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith fod yn rhaid ystyried y bydd Pont Menai yn 200 oed ymhen dwy flynedd ac mae Pont Britannia yn 175 oed.  Ar hyn o bryd gwneir gwaith brys ar Bont Menai oherwydd ei hoed, gan arwain at lai o gapasiti a bydd y gwaith hwn yn parhau tan o leiaf 2025.  Mynegwyd y byddai unrhyw ddamwain a allai ddigwydd ar y pontydd yn cael effaith niweidiol ar y rhwydwaith priffyrdd.  Cyfeiriodd y Pwyllgor Gwaith at statws Porthladd Rhydd a’r angen i sicrhau bod nwyddau’n teithio'n rhydd ar draws coridor priffyrdd Gogledd Cymru.  

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         Cytuno bod y Prif Weithredwr yn anfon llythyr ffurfiol at Lywodraeth Cymru yn apelio iddynt newid eu polisi mewn perthynas â chroesfan y Fenai, a’u bod yn cydnabod yr angen i roi sylw i’r sefyllfa annigonol a’r diffyg cydnerthedd sy’n bodoli;

·         Cytuno bod y Prif Weithredwr yn rhannu ein hadroddiadau gydag aelodau Senedd rhanbarthol yng Nghymru, partneriaid a rhanddeiliaid rhanbarthol er mwyn dylanwadu arnynt, a’u bod nhw’n cefnogi safbwynt y Cyngor er budd rhanbarth Gogledd Cymru;

·         Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu’n ffurfiol at Brif Weinidog newydd Cymru, unwaith y bydd wedi’i benodi, yn mynegi pryderon am ddibynadwyedd a chydnerthedd ar draws Y Fenai.

 

Dogfennau ategol: