Eitem Rhaglen

Cofnodion Cyfarfod 15 Ebrill, 2013

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar

15 Ebrill, 2013.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 15 Ebrill, 2013. 

 

Materion yn codi

 

·         Cyfeiriodd Prif Swyddog Medrwn Môn at fater cyfranogiad y sector gwirfoddol ym mhroses sgriwtini’r Awdurdod ac yn benodol y mater o hyfforddiant a oedd, yn ôl ei ddealltwriaeth o, yn parhau i Aelodau Etholedig y Cyngor.  Dywedodd iddo gael ei grybwyll yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor y gallai cyfleon hyfforddiant oedd yn cael eu cynnig i Aelodau Etholedig ynglŷn â sgriwtini effeithiol gael ei ymestyn i gynrychiolwyr perthnasol yn y sector gwirfoddol.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud ei fod yn teimlo bod oedi gormodol gydag ymgysylltu gyda’r sector gwirfoddol er mwyn sicrhau bod y sector wedi ei baratoi’n ddigonol ac yn briodol ar gyfer cymryd rhan mewn sgriwtini.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) wrth y Pwyllgor bod y Rheolwr Sgriwtini yn bwriadu adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod nesaf.  Roedd Aelodau Etholedig wedi cael hyfforddiant mewn amryw o feysydd fel rhan o’r broses anwytho.  Cadarnhaodd ei bod yn cael ei gydnabod bod gan y sector gwirfoddol rôl allweddol i’w chwarae o fewn sgriwtini a dywedodd y byddai’n holi am y sefyllfa ynglŷn â hyfforddiant sgriwtini.

 

Camau Gweithredu’n Codi: Y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) i fynd ar ôl y mater hwn gyda’r Rheolwr Sgriwtini, sef y posibilrwydd o gynnwys cynrychiolwyr y sector gwirfoddol mewn unrhyw drefniadau hyfforddiant sgriwtini oedd wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol ac i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn.

 

·         Holodd cynrychiolydd o’r Sector Gwirfoddol ynglŷn â statws yr adolygiad o Gontractau’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac am ffurfio fframwaith y gellir cytuno ar gontractau oddi mewn iddo. 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cymuned y daethpwyd i gytundeb ynglŷn â thempled ac er bod yna rai problemau gyda chapasiti, yr amcan yw cwblhau’r gwaith yn ôl y trefniadau oedd wedi eu hamlinellu yn y cyfarfod diwethaf.  Mae’r adolygiad a’i gwblhau wedi cymryd arno arwyddocâd mwy wrth i sefyllfa gyllido llywodraeth leol wynebu pwysau cynyddol.  Fodd bynnag, rhaid cynnal yr adolygiad ym mhob gwasanaeth ac er bod materion eraill sydd angen sylw wedi ymyrryd rhywfaint yn y cyfnod ers cyfarfod blaenorol y Pwyllgor, y nod o hyd yw sefydlu methodoleg a fframwaith ar gyfer cyllido contractau gyda’r sector gwirfoddol yn ystod yr amser rhwng rŵan a’r hydref.

 

·         Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei fod wedi cael trafodaethau gyda’r Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) ynglŷn â’r Cod Cyllido y cafwyd cytundeb bod angen trafodaeth fanwl yn ei gylch gyda mewnbwn gan Swyddogion Cyllid a’r Cyfarwyddwr Cymuned.  Y bwriad yw galw cyfarfod mor fuan â phosibl a dod ag adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor Cyswllt.

 

Camau Gweithredu’n Codi: Y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) a Phrif Swyddog Medrwn Môn i gysylltu i drefnu cyfarfod o’r swyddogion perthnasol i drafod y Côd Cyllido ac i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn.

 

·         Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) pwy fyddai’r cynrychiolwyr newydd o blith aelodau etholedig y Cyngor Sir ar y Pwyllgor Cyswllt a holodd a oedd Bwrdd Iechyd Prif Ysgol Betsi Cadwaladr wedi ystyried y mater o gael cynrychiolaeth.  Dywedodd Mr Wyn Thomas BIPBC y byddai ef ei hun neu Eleri Lloyd fel y rheolwr lleol yn fwy na thebyg o barhau i fod yn bwynt cyswllt rhwng y Pwyllgor a’r Bwrdd Iechyd ac nad oedd yn rhagweld unrhyw newid yn y sefyllfa honno yn y tymor byr.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod aelodaeth y sector gwirfoddol ar y Pwyllgor Cyswllt hefyd wedi gweld newid yn dilyn yr etholiad. Dywedodd wrth y Pwyllgor bod dros 80 o unigolion wedi cymryd rhan yn yr etholiad a bod dros 20 o’r rhai a oedd yn llwyddiannus wedi rhoi eu henwau ymlaen i’w hystyried fel cynrychiolwyr y sector ar y Pwyllgor Cyswllt ac roedd ef yn credu bod hynny yn destament i lefel y diddordeb yn y Pwyllgor a’i weithgareddau.  Dywedodd y Swyddog bod yr unigolion hynny a oedd wedi nodi eu diddordeb mewn bod yn aelod o’r Pwyllgor Cyswllt i bob pwrpas yn ffurfio cronfa o aelodau ar gyfer cael cyfranwyr i broses sgriwtini’r Awdurdod.

 

·         Holodd y Cadeirydd am y sefyllfa mewn perthynas â’r Cytundeb Compact.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) bod y Compact yn barod i’w arwyddo’n ffurfiol gan y partïon oedd â diddordeb ac mewn ymateb i awgrym gan Brif Swyddog Medrwn Môn y dylai’r digwyddiad gael ei nodi’n briodol, cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) gan ddweud y byddai’r mater yn cael ei ystyried.

 

Camau Gweithredu’n Codi: Y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) a Phrif Swyddog Medrwn Môn i gysylltu i drefnu dull priodol o gydnabod achlysur arwyddo’r Cytundeb Compact Lleol, 2013.

 

 

Dogfennau ategol: