Eitem Rhaglen

Materion Llywodraeth Cymru - Y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

 

·        Ystyried y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru (Cylch Gorchwyl ynghlwm)

 

·        Ystyried dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru : Parhad a NewidAdnewyddu’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r Pwyllgor y cylch gorchwyl a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Llywodraeth Cymru ar Lywodraethau a Darparu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad eang o’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu llywodraethu a’u darparu yng Nghymru drwy Gomisiwn o dan gadeiryddiaeth Syr Paul Williams fyddai’n adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd 2013.  Dywedodd y Swyddog bod angen ystyried canlyniad y Comisiwn a’i argymhellion yng nghyswllt modelau ar gyfer darparu gwasanaeth pan gânt eu cyhoeddi.  Mae proses ymgynghori yn cael ei chynnal ar hyn o bryd a bydd cyfle i ymateb i’r Comisiwn drwy’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a dulliau eraill.  Bydd y sector gwirfoddol yn cael gwybodaeth ynghylch mewnbwn y Cyngor i’r Comisiwn.  Mae yna farn gyffredinol nad yw strwythur presennol y ddarpariaeth o Wasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru yn gynaliadwy yn y tymor hir.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei bod yn bwysig i’r sector hefyd ymateb i’r Comisiwn yn arbennig o ystyried y ddirnadaeth bod gweithredu ar lefel leol yn gynyddol yn cael ei ddisodli gan drefniadau rhanbarthol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned wrth yr Aelodau bod profiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o weithio yn nodi bod y ffordd o feddwl ar lefel genedlaethol yn gryf i gyfeiriad trefniadau gweithio ehangach naill ai ar sail ranbarthol neu genedlaethol ac roedd yr her yn gorwedd mewn cysylltu’r agwedd hon gyda gwerthuso canlyniadau mewn termau lleol a sicrhau cyfle cyfartal o fewn yr adnoddau tra ar yr un pryd yn ymateb i anghenion lleol.

 

Cytunwyd i nodi’r sefyllfa.

 

Dim camau gweithredu pellach yn codi.

 

·         Dogfen Ymgynghori Llywodraeth CymruParhad a Newid: ailfywiogi’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru. 

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod y ddogfen uchod yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer ymgynghori ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Sector Gwirfoddol.  Roedd Bwrdd Rheoli Medrwn Môn eisoes wedi cyfarfod i ffurfio ymateb i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn rhannol oherwydd y pwysau ar gyllid cyhoeddus ac oherwydd y symudiad tuag at agwedd ranbarthol i ddarparu gwasanaeth.  Pwysleisiodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod y dimensiwn lleol yn gorwedd wrth galon gweithgareddau’r sector gwirfoddol ac roedd hyrwyddo gweithgareddau lleol o’r fath yn un o gryfderau Medrwn Môn.  Fodd bynnag, os bydd y sefyllfa ariannol yn parhau i waethygu, efallai y byddai’n rhaid ystyried trefniadau eraill e.e. gweithio ar lefel fwy rhanbarthol.  Mae yna hefyd botensial y bydd y sector yn colli cyllid oherwydd sefydlu ffurfiau eraill o gefnogaeth e.e. proses fidio i Gronfa Arloesol.  Dywedodd y Swyddog y byddai o gymorth pe bai’r Cyngor Sir yn darparu ymateb i’r ddogfen ymgynghori yn ogystal.  Eglurodd bod y pryderon a gynhyrchwyd gan y ddogfen yn ymwneud â llacio’r cysylltiadau lleol a’r risg y bydd gwthio’r trefniadau rhanbarthol yn golygu bydd y ffocws ar weithgareddau ac anghenion lleol yn cael ei golli.

 

Nodwyd mai’r amser cau ar gyfer derbyn sylwadau oedd 8 Awst ac felly dim ond cyfle cyfnod byr iawn sydd ar gael i’r Pwyllgor Cyswllt gasglu ei safbwyntiau at ei gilydd a’u cyflwyno’n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned wrth Aelodau’r Pwyllgor mai hi oedd y Swyddog Arweiniol dynodedig ar y mater hwn yn y Cyngor ac y byddai felly yn cydlynu’r ymateb iddo.

 

Cytunwyd - pe bai angen, y dylid cynnull grŵp cynrychioladol bychan o’r Pwyllgor ar fyr rybudd fel y gallai safbwynt y fforwm hwn gael ei adlewyrchu yn ymateb yr Awdurdod Lleol i’r ddogfen Ymgynghori.

 

Cytunwyd i nodi’r ddogfen Ymgynghori.

 

Camau Gweithredu’n Codi: Y Pennaeth Gwasanaeth (Polisi) i gysylltu gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn fel bo’r angen i wneud trefniadau priodol ar gyfer cael safbwyntiau’r Pwyllgor yng nghyswllt y ddogfen Ymgynghori Parhad a Newid a’i gynnwys yn ymateb y Cyngor Sir.

 

 

 

Dogfennau ategol: