Eitem Rhaglen

Pum Cam i Sefydlu Trefniadaeth Gadarn ar gyfer Gofal, Cymorth ac Arweiniad

Bydd Pennaeth Ysgol Glancegin, Bangor yn rhoi cyflwyniad ar destun y pum cam i sefydlu trefniadaeth gadarn ar gyfer Gofal, Cymorth ac Arweiniad.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Bethan Morris Jones, Pennaeth Ysgol Glancegin, Bangor i’r cyfarfod ac fe’i gwahoddodd i annerch y cyfarfod ar destun y pum cam i sefydlu trefniadaeth gadarn ar gyfer Gofal, Cymorth, ac Arweiniad.

Eglurodd Mrs Bethan Morris Jones ei bod wedi derbyn cais i roi trosolwg i’r Cyd-Bwyllgor fel y fforwm â goruchwyliaeth dros faterion anghenion dysgu ychwanegol yn y ddwy sir ar y gwaith a wnaed yn Ysgol Glancegin, Bangor yn ystod y cyfnod chwe blynedd diwethaf i fynd i’r afael â phroblemau yn  yr ysgol a amlygwyd gan arolygiad Estyn a gynhaliwyd yn 2007. Dywedodd bod y cyfnod hwnnw wedi bod yn daith i holl boblogaeth yr ysgol yn arwain at gyhoeddi adroddiad arolygiad diweddaraf Estyn yn gynharach y flwyddyn hon oedd yn dyfarnu bod perfformiad presennol yr ysgol yn dda a bod ei rhagolygon ar gyfer gwella hefyd yn dda. Yn ogystal, bu i’r Arolygydd yn adroddiad 2013 ganfod bod safonau lles yr ysgol yn rhagorol a bod y gofal, cymorth ac arweiniad a rydd wrth hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a chymdeithasol y disgyblion yn yr un modd yn rhagorol. Dywedodd y Pennaeth ei bod felly am ganolbwyntio yn ei chyflwyniad ar y rhan hwn o’r adroddiad arolygu sy’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol gan dynnu ohono i ddangos sut mae’r cynlluniau a’r strategaethau a roddwyd ar waith yn dilyn yr arolygiad chwe blynedd yn ôl wedi dwyn ffrwyth ac wedi esgor ar ddeilliannau cadarnhaol iawn yn yr ysgol ar ffurf ymddygiad arbennig o dda; agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu;  y disgyblion yn ymfalchïo yn eu cyfrifoldebau ac yn cymryd rhan arweiniol mewn nifer o weithgareddau; y disgyblion yn teimlo bod eu llais yn bwysig a’u bod yn cael gwrandawiad gan oedolion, ynghyd â chynnydd sylweddol mewn lefelau presenoldeb ac mewn safonau fel ei gilydd.

 

Yn ei chyflwyniad wedyn, bu i Bennaeth Ysgol Glancegin gyfeirio at y wybodaeth a’r ystyriaethau canlynol –

 

·         Y Cyd-Destun - Amgylchfyd cymdeithasol Ysgol Glancegin ar stâd Maesgeirchen ym Mangor, sef ardal y’i hystyrir yn un o dan anfantais cymdeithasol. Mae dros 97% o ddisgyblion yr ysgol yn byw mewn ardal sydd ymhlith yr  20% mywaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 42% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau cinio am ddim a 41% o’r disgyblion wedi’u hadnabod fel rhai gydag anghenion dysgu ychwanegol. Sefydlwyd Cylch Meithrin yn yr ysgol wedi’i gyllido trwy Cymunedau’n Gyntaf sy’n derbyn  60 o blant ac yn darparu addysg Gymraeg ar eu cyfer am 12½ awr yr wythnos gyda’r bwriad o roi cychwyn cadarn iddynt.

 

·         Y Pum Cam

 

·         Hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a chymdeithasol disgyblion

 

Barn yr Arolygydd oedd bod athrawon a staff ategol yr ysgol yn ymroi’n drwyadl i roi cefnogaeth fugeiliol o safon uchel sy’n ateb anghenion yr holl ddisgyblion. Gweithredwyd ystod o strategaethau effeithiol yn gyson a chadarn i feithrin parch at eraill a hybu ymddygiad da. Cyfeiriodd y Pennaeth yn neilltuol at strategaeth dan yr enw Therapi Canolbwyntio ar Ddatrysiad sy’n rhoi sylw i’r hyn sy’n dda mewn unrhyw sefyllfa yn hytrach na’r hyn sydd wedi mynd o’i le gan annog a hyfforddi plant i feddwl yn bositif amdanynt eu hunain. Canlyniad hyn oedd y gwelwyd cynnydd arwyddocaol mewn safonau lles plant a fagodd yn ei dro effaith gadarnhaol ar y staff a’r rhieni.

 

Cam allweddol arall oedd creu system benodol ar gyfer anghenion addysg arbennig ar sail tair haen o ymyrraeth lle’r ymwna  haen 1 â chanolbwyntio ar sgiliau sylfaenol a chynnal ymarferion sgiliau dyddiol gyda’r plant gyda golwg ar godi safon y  sgiliau hynny ac ar yr un pryd meithrin a chodi hunan hyder y plant hefyd. Esboniodd y Pennaeth bod yna ddisgwyliadau ar y staff a’r disgyblion ym mhob sefyllfa.

 

·         Mae’r ysgol yn elwa’n sylweddol ar arbenigedd ystod eang o wasanaethau er mwyn cynnal iechyd personol a chymdeithasol disgyblion ar draws yr ysgol.

 

Bu’r ysgol yn gweithio’n agos gyda Seicolegydd Addysg i greu cynllun ymyrraeth a dogfen monitro cynnydd.Sefydlwyd Grwp Cyfathrebu a Darparu i feithrin cyd-weithio effeithiol gyda’r gwasanaeth iechyd a lles. Bu i’r ysgol ddatblygu trefn o gyd-weithio cymunedol gyda Chymunedu’n Gyntaf, Partneriaeth Maesgeirchen er mwyn codi proffil yr ysgol o fewn ei chymuned a sefydlwyd cysylltiadau gdyag Adran Seicoleg Prifysgol Bangor a chyfranogi ym Mharterniaeth Ymestyn Ehangach y Brifysgol.

 

·         Mae’r ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn gadarn iawn yn yr ysgol ym marn yr Arolygwyr.

 

Cyrhaeddwyd y sefyllfa hon trwy osod mewn lle systemau effeithiol i adnabod anghenion unigolion o oed cynnar i asesu a thracio cyflawniad a chynnydd yr unigolyn yn gyson trwy ddefnydd o ddata mewnol a defnydd o brofion statudol i gadarnhau’r cynnydd a newid y lefel ymyrraeth. Cyfeiriodd y Pennaeth at graff oedd yn dangos y newid cadarnhaol  ym mherfformiad ar ôl blwyddyn o weithredu cyfundrefn o ymyrraeth a thargedu sgiliau plant gyda llai na 5% o ddisgyblion wedyn yn perfformio o dan y trothwy disgwyliedig.

 

·         Mae’r tîm cynhwysiad yn darparu cymorth trylwyr i athrawon ac yn cyd-weithio’n agos iawn gyda nhw i sicrhau dilyniant a chynnydd disgyblion gydag anghenion ychwanegol.

 

Yn Ysgol Glancegin mae yna chwe chymhorthydd rhwng y ddwy adran ac mae arweinydd y tîm cynhwysiad yn rhan o’r grwp Cyfathrebu a Darparu. Ceir cysylltiad rheolaidd rhwng y tîm a’r Cyd-lynydd Anghenion Ychwanegol a chyfathrebu dyddiol hefyd rhwng y cymorthydd a’r athro. Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn gosod y targedau. Cyfeiriodd y Pennaeth at lyfryn Asesu a Monitro Llythrennedd Cymraeg a Saesneg a ddefnyddir i dracio cynnydd plentyn yn fanwl ac fe ddangosodd enghraifft o effaith hyn drwy gyfeirio at siart lliw yn dangos ffyniant y disgyblion.

 

·         Gwneud defnydd effeithiol o bob ystafell yn yr adeilad gan ddefnyddio rhai i sefydlu adnoddau ychwanegol

 

Dangosodd y Pennaeth sut yr aethpwyd ati i wella amgylchedd dysgu’r ysgol a’i wneud yn ddeniadol a symbylus i staff a phlant fel ei gilydd. Er enghraifft, trwy greu ystafell gyfarfod bwrpasol i’r diben, rhoddwyd statws hefyd i gyfarfodydd rhieni.Yn neilltuol, cynhaliwyd prosiectau celfyddydol yn rheolaidd gan roi ffocws gan amlaf ar gymuned Maegeirchen, a thynnu rhieni i mewn  i fod yn rhan o’r gwaith. Un nodwedd o weithgareddau’r ysgol yw’r Grwp Maethu sy’n canolbwyntio ar y plant hynny y maent wedi colli allan yn y blynyddoedd cynnar o safbwynt datblygu sgiliau. Dywedodd y Pennaeth bod negeseuon cadarnhaol hefyd yn cael eu hatgyfnerthu yn weledol trwy’r dosbarthiadau a’r coridorau yn yr ysgol. At hynny, fe sefydlwyd aelwyd , sef ystafell ddosbarth sy’n ymdebygu i ystafell yn y cartref ar gyfer y plant hynny y mae eu sgiliau sylfaenol yn wan gyda golwg ar roi cyfle iddynt ddatblygu’r sgiliau hynny mewn amgylchedd anffurfiol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Ysgol Glancegin am gyflwyniad oedd yn agoriad llygaid.

 

Dywedodd Uwch Reolwr Disgyblion  a Chynhwysiad Cyngor Gwynedd bod taith Ysgol Glancegin wedi bod yn un a gymerodd sawl blynedd ac a gyflawnwyd trwy gyd-weithrediad rhwng yr ysgol ac ystod o wasanaethau. Yn anad dim, mae’r ysgol wedi sicrhau ei bod yn ysgol gynhwysol  nad yw wedi cau’r drws ar unrhyw unigolyn. Mae cyd-weithrediad aml-asiantaethol wedi bod yn allweddol i’w llwyddiant yn enwedig yng nghyfnod y blynyddoedd cynnar ac mae wedi datblyu ethos a diwylliant a dulliau dysgu cadarnhaol. Ni fwriadwyd yr un o’r strategaethau na chynlluniau a fabwysiadwyd gan Ysgol Glancegin i fod yn ddatrysiad dros nos i’w phroblemau – yn hytrach maent wedi ymsefydlu ac wedi cael effaith dros gyfnod o amser gan gario pob aelod o staff pob cam o’r ffordd. Mae’r ysgol yn awr yn ysgol lle mae’r disgwyliadau yn uchel.

 

Cydnabu  Aelodau’r Cyd-Bwyllgor yr ymroddiad a’r ymdrechion a’r dyfalbarhad a aeth i mewn i wyrdroi sefyllfa Ysgol Glancegin a thrwy hynny i roi’r cyfle gorau i blant yr ysgol a’r gymuned wireddu eu potensial, ac fe longyfarchwyd y Pennaeth a’i staff a’r gwasanaethau cefnogol am hynny. Ar y llaw arall, gwnaed y y pwynt hefyd ei bod yn  anodd iawn i blant mewn unrhyw ardal sy’n cael ei hadnabod fel un ddifreintiedig ryddhau eu hunain o’r dylanwadau economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgîl hynny er cymaint y mewnbwn i’w datblygiad, ac yn aml oherwydd hynny nid yw plant o gymunedau tebyg yn cyflawni i’r un graddau â phlant o gymunedau llewyrchus. Mae’r disgwyliadau ar gyfer cymunedau llai breintiedig yn is a chan amlaf ni wna’r cymunedau hyn gyrraedd tu hwnt i’r disgwyliadau. Serch hynny, mae anogaeth a chefnogaeth i blant tebyg i’r hyn a welwyd yn Ysgol Glancegin yn gam ymlaen.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Glancegin os llwyddir i arfogi plentyn sy’n gadael yr ysgol i feddwl y gall lwyddo yna mae’r tebygrwydd y gwneith hynny gymaint yn fwy.

 

Dywedodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd y gwahoddwyd Pennaeth Ysgol Glancegin i wneud cyflwyniad i’r Cyd-Bwyllgor yn sgîl y drafodaeth a gododd yn y cyfarfod blaenorol yn ymwneud â’r holiadur ysgolion pryd yr amlygwyd bod y proffesiwn dysgu’n teimlo ei fod yn wynebu mwy a mwy o’r math o faterion a welwyd yn codi yn Ysgol Glancegin mewn perthynas ag  ymddygiad a chyrhaeddiadau. Mae Ysgol Glancegin yn enghraifft o waith arloesol gyda chymuned yr ysgol yn ei chyfanrwydd i symud plant yn eu blaenau pa beth bynnag yr amgylchiadau.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a roddwyd trwy’r cyflwyniad a diolch i Bennaeth Ysgol Glancegin am roi o’i hamser i fod yn bresennol yn y cyfarfod hwn o’r Cyd-Bwyllgor.