Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 16C119B – Pen yr Orsedd, Engedi

Cofnodion:

11.1 16C119B - Cais llawn ar gyfer codi adeilad ar gyfer darparu gweithdy a swyddfa yn ‘Pen yr Orsedd’, Engedi

 

  Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol ac     oherwydd bod yr ymgeisid yn perthyn i Gynghorydd.

    Anerchodd y Cynghorydd R G Parry OBE y Pwyllgor fel Aelod Lleol gan ddweud nad oedd modd gweld safle’r cais o’r A55 gan ei fod mewn dyffryn.  Cais oedd hwn am weithdy bychan i gadw tŵls, garej  a manion eraill y cartref - nid oedd cyfleuster storio ym Mhen yr Orsedd ar hyn o bryd.  Dyn ifanc oedd yr ymgeisydd ac roedd hefyd yn Saer ac yn grefftwr ac yn gweithio ar hyn o bryd o garej ei hen gartref.  Roedd yn arbenigo mewn gwaith coed.  Bwriad ei dad oedd dymchwel y garej gan olygu na fuasai gan yr ymgeisydd, o’r herwydd,  unrhyw le i gadw ei dŵls gwaith.  At hyn, buasai’r gweithdy yn ei gwneud yn bosib i’r ymgeisydd gadw ei fan dan do.  Dywedodd y Cynghorydd Parry nad oedd o’r farn bod yr adeilad arfaethedig yn fawr (oddeutu 10m wrth 10m wrth 4m) a phe bai’r cais wedi bod yn un am garej ddwbl, ni fuasai wedi bod  yn broblem o gwbl.  Roedd yr ymgeisydd wedi bod yn onest ynghylch ei fwriadau ar gyfer yr adeilad.  Nid oedd yr ymgeisydd yn medru fforddio rhentu uned ar stad ddiwydiannol a buasai medru gweithio yn agos i’w gartref o fantais fawr iddo.  Tynnodd y Cynghorydd Parry sylw at y ffaith bod sied ieir fawr yn y cyffiniau a bod cynnig am sied fawr i’r chwith o safle’r cais wedi ei ganiatáu.  At hyn, roedd iard adeiladu a ffarm gydag amrywiaeth o adeiladu nid ymhell o’r safle.  Ni fuasai’r datblygiad arfaethedig yn sefyll allan.  Dywedodd y Cynghorydd Parry ei fod o’r farn y ceid llai o draffig gan na fuasai raid i’r ymgeisydd deithio yn ôl ac ymlaen i’w waith. Nid oedd yr ymgeisydd yn bwriadu defnyddio’r safle at ddibenion gwerthu.  Gofynnodd i’r Pwyllgor gefnogi’r cais gan saer ifanc oedd yn dymuno aros yn ei gymuned i wneud ei waith.

Gofynnodd y Cynghorydd Victor Hughes a fuasai’r sied arfaethedig yng nghefn y tŷ.  Eglurodd y Cynghorydd R G Parry y buasai’r adeilad arfaethedig yn yr ardd ac nid yn sownd yn y tŷ.

Nododd y Cynghorydd Jeff Evans bod y bwriad i’w weld yn adeilad mawr iawn i sied a gofynnodd ai’r bwriad oedd ei ddefnyddio fel sied gwaith coed - os dyma’r achos, buasai’n hapus ei gefnogi fel busnes lleol.  Tynnodd y Cynghorydd Evans sylw at y ffaith bod yr adroddiad, fodd bynnag, yn dweud, bod y wybodaeth a roddwyd yn dangos y buasai’r gweithdy arfaethedig yn cael ei ddefnyddio’n rhannol at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r tŷ ac yn rhannol mewn cysylltiad â busnes gwaith coed yr ymgeisydd.  O’r herwydd, gofynnodd ai sied ynteu estyniad i’r tŷ oedd y datblygiad a dywedodd ei fod yn ceisio dychmygu beth oedd y bwriad a beth fuasai ynddo.  Dywedodd ei fod yn tueddu i edrych arno fel estyniad bychan yn hytrach na sied a gofynnodd pam y buasai angen adeilad mor fawr ar ymgeisydd.

Eglurodd y Cynghorydd R G Parry y buasai’r adeilad yn cynnwys gofod ar gyfer swyddfa mewn un gornel er mwyn cadw gwaith papur ac y buasid, hefyd, yn cadw beics ac eitemau eraill y cartref yn ogystal â mainc saer sy’n cymryd dipyn o le.

Dangosodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ddyluniad o’r gweithdy arfaethedig i’r Pwyllgor gan ddweud mai’r hyn oedd y bwriad oedd adeilad dur gyda swyddfa ac mai bwriad yr ymgeisydd oedd symud ei swyddfa.  Eglurodd y Swyddog pan fo bwriad o’r fath yn y cefn gwlad rhaid glynu wrth bolisïau penodol - roedd Polisi 2 Cynllun Lleol Ynys Môn yn ei gwneud yn ofynnol bod y Cyngor, yng nghyswllt safleoedd y tu allan i aneddiadau presennol, yn caniatáu datblygiadau cyflogaeth mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, a hynny lle'r oedd ymgeisydd wedi medru dangos gofynion lleoliad penodol a manteision economaidd  a fuasai’n cyfiawnhau caniatáu’r bwriad.  Fodd bynnag, amgylchiadau personol oedd y ddadl a gyflwynwyd yn yr achos hwn ac nid oedd yr amgylchiadau’n cydymffurfio gyda meini prawf y polisi.  Nid ystyriwyd bod amgylchiadau personol yn ffactor o bwys wrth benderfynu ar ddefnydd tir ac ni ddylid gwneud penderfyniad ar y sail honno.  Roedd yr Awdurdod Priffyrdd o’r farn nad oedd y rhwydwaith ffyrdd oedd yn arwain at y safle o’r ffordd fawr yn ddigon da o ran ei led ac nid oedd digon o fannau pasio lle'r oedd modd gweld ymlaen am ddigon o bellter.  O’r herwydd, roedd wedi argymell na ddylid cael mwy o draffig yn dod i’r safle ac eithrio’r ymgeisydd yn mynd yn ôl ac ymlaen i’r safle yng nghyswllt ei fusnes.  Dywedodd y Swyddog ei fod yn ei chael yn anodd derbyn yr honiad y ceid llai o draffig yn yr ardal wrth leoli busnes yno.  Yr argymhelliad oedd gwrthod am y rhesymau a roddwyd.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Lewis Davies at Bolisi 2 y Cynllun Datblygu Unedol ac at y ffaith mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y buasai datblygiadau megis yr hyn a fwriadwyd gan yr ymgeisydd yn cael eu caniatáu a dywedodd bod siediau amaethyddol mawr yn y cefn gwlad.  Roedd y gweithdy arfaethedig yn llai mewn cymhariaeth.  Awgrymodd osod amod ynghlwm wrth y caniatâd i’r perwyl mai at ddefnydd busnes yn unig yr oedd y datblygiad, a hynny am dragwyddoldeb, er mwyn hyrwyddo diwydiant.

Ategodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y polisi’n nodi nad yw datblygiadau o’r fath yn cael eu caniatáu ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol lle dangoswyd bod anghenion penodol.

Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes ei fod wedi ei dristáu gan safiad yr Awdurdod Cynllunio ar y cais.  Tynnodd sylw at y ffaith fod pob crefftwr angen gweithdy a bod angen cyfleuster mwy ar saer nac ar y rhan fwyaf o grefftwyr fel bod modd iddo weithio efo darnau mawr o goed.  Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes bod ganddo amheuon ynghylch y polisi a nododd bod yr ymgeisydd wedi bod yn onest o ran ei fwriadau.  At hyn, efallai y buasai’r ymgeisydd yn cyflogi prentis yn y dyfodol ac, felly, yn datblygu’r busnes.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei fod, felly, yn anghyfforddus gyda’r argymhelliad.

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans wrthod y cais.  Ni chafodd y cynnig ei eilio.

Cynigiodd y Cynghorydd Raymond Jones ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Victor Hughes, Vaughan Hughes a Raymond Jones o blaid y cais.  Pleidleisiodd y Cynghorydd Jeff Evans dros ei wrthod.

Y rheswm dros ganiatáu’r cais oedd ei fod yn diogelu ac yn cadw gwaith yn yr ardal ac ym Môn.

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog ar y sail ei fod yn diogelu ac yn cadw gwaith yn yr ardal ac ym Môn.

(Fel Aelod Lleol ni phleidleisiodd y Cynghorydd Nicola Roberts ar y cais).

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, buasai’r cais yn cael ei ohirio yn awtomatig i’r cyfarfod nesaf er mwyn caniatáu i swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

Dogfennau ategol: