12.1 12C266N/FR – Penrhyn Safnas, Biwmares
12.2 20C290A/FR/RE – Towyn, Cemaes
12.3 22LPA987/CC – Eglwys Sant Iestyn, Llanddona
12.4 39C541 – Toiledau Cyhoeddus, Ffordd Cynan, Porthaethwy
12.5 42C114A – Tai’n Coed, Pentraeth
12.6 46C147D – Tan y Graig, Trearddur
12.7 46C523 – Bodfair, Ffordd Ravenspoint, Trearddur
Cofnodion:
12.1 12C266N/FR – Cais llawn ar gyfer codi adeilad mwynderau ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares
Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor am y cais gan ei fod ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
(Fel Aelod Lleol ni phleidleisiodd y Cynghorydd Lewis Davies ar y cais).
12.2 20C290A/FR/RE – Cais llawn ar gyfer y llwybr ceblau arfaethedig a’r is-orsaf yng nghyswllt ‘Anglesey Skerries Tidal Array’ yn ‘Towyn’, Cemaes
Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais oherwydd bod rhan o’r safle (maes parcio a’r traeth) ym mherchenogaeth / dan reolaeth y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
(Fel Aelodau Lleol ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Richard Owain Jones a W T Hughes ar y cais).
12.3 22LPA987/CC – Newid defnydd tir er mwyn creu estyniad i’r fynwent bresennol yn Eglwys Sant Iestyn, Llanddona
Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais gan iddo gael ei wneud gan yr Awdurdod Lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
(Fel Aelod Lleol ni phleidleisiodd y Cynghorydd Lewis Davies ar y cais).
12.4 39C541 - Cais llawn i newid defnydd yr adeilad presennol o fod yn doiled cyhoeddus i fod yn garej breifat yn Nhoiledau Cyhoeddus, Ffordd Cynan, Porthaethwy
Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchymynion am y cais oherwydd bod yr adeilad ym mherchenogaeth y Cyngor.
Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor bod y Cyngor Tref yn cefnogi’r bwriad.
Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans a fyddid wedi caniatáu codi garej breifat ar y safle hwn dan unrhyw amgylchiadau eraill.
Ceisiodd y Cynghorydd John Griffith eglurhad pam oedd y cais yn cael ei gyflwyno rŵan pan mai 16 Hydref oedd y dyddiad cau ar gyfer sylwadau.
Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod rhaid ei ystyried o fewn yr amserlen statudol o wyth wythnos gan ei fod yn gais oedd yn ymwneud ag adeilad ym mherchenogaeth y Cyngor. Yng nghyswllt a fyddai’r cais wedi cael ei ganiatáu dan amgylchiadau eraill, rhaid oedd ymdrin â’r cais fel y’i cyflwynir.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 42C114A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd amaethyddol ynghyd â gosod tanc septig yn ‘Tai’n Coed’, Pentraeth
Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio wybod i’r Pwyllgor ei fod yn argymell gohirio ystyried y cais oherwydd iddo dderbyn llythyr hwyr yn gwrthwynebu oedd yn codi sawl ffactor newydd yr oedd yn rhaid eu hymgorffori yn adroddiad y Swyddog.
Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.
12.6 46C147D - Cais ôl-weithredol ar gyfer defnyddio’r padog fel safle carafanau teithiol a chadw dau gynhwysydd a ddefnyddiwyd fel bloc cawod a thoiled, defnydd tir a chadw’r man caled ar gyfer storfa fasnachol i garafanau, cychod ac ôl-gerbydau, defnydd preswyl o un garafán deithiol a chadw portacabin gyda defnydd swyddfa ynghyd ag ailosod tanc septig presennol gyda system trin carthffosiaeth newydd yn ‘Tan y Graig’, Trearddur.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod o’r farn y byddai o les i bawb ymweld â’r safle ac awgrymodd ymweliad safle er mwyn gwerthfawrogi’n well faterion traffig a mynediad yng nghyswllt y datblygiad. Roedd y Cynghorydd Raymond Jones yn cefnogi ymweliad safle.
Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas bod gan y Cyngor Cymuned bryderon ynghylch y datblygiad hwn a’i fod yn cefnogi ymweliad safle.
Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rheswm a roddwyd.
12.7 46C523 - Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd newydd yn ei lle yn ‘Bodfair’, Ffordd Ravenspoint, Trearddur
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais wedi ei alw i mewn gan Aelod Lleol ac, ers hynny, bod e-bost wedi ei dderbyn gan yr un Aelod yn dweud ei fod bellach yn fodlon bod y pryderon a godwyd wedi eu datrys, bod y cymdogion yn hapus ac nad oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes ganiatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.
Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: