Eitem Rhaglen

Uned Ddarparu AAA

·        Cyflwyno adroddiad ar weithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y Haf, 2013.

 

·        Cyflwyno gohebiaeth anfonwyd at Aelod Cynulliad Ynys Môn ac at Aelod Seneddol Ynys Môn ynglyn ag anawsterau mewn perthynas â hyfforddi Seicolegwyr Addysgol yng Nghymru.

Cofnodion:

3.1       Cyflwynwyd adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg yn amlinellu gweithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Haf, 2013.

 

Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysg at y prif ystyriaethau’n codi o’r adroddiad fel a ganlyn

 

           Newidiadau ymhlith staff sy’n gyfrifol am weinyddu prosesau asesu ac adolygu’r trefniadau a wnaed i gyflenwi’r gwaith. Nodir y penodwyd i swydd yr Uwch Swyddog Gweinyddol am gyfnod secondiad deilydd parhaol y swydd.

           Parthed y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol cafwyd trafodaethau ar ddechrau’r tymor i ystyried cyflogi athrawon newydd am ei bod yn ymddangos nad oedd modd cwrdd ag anghenion y cyfan o’r plant ar sail maint y tîm presennol a hefyd oherwydd bod nifer o’r athrawon yn agosáu at oed ymddeoliad. Cynhaliwyd ymarferiad ym mis Mai a ddangosodd pa mor anodd ydyw i’r athrawon sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion addysgol yr holl blant. Er enghraifft, mae’r nifer o blant sy’n hysbys i’r Gwasanaeth Iaith a Chyfathrebu yn golygu byddai gofyn i athrawes llawn amser yn y maes weithio gyda 376 o blant yn flynyddol ac yn gyffelyb, byddai angen i athrawes yn y gwasanaeth anawsterau meddygol/corfforol ymwneud â 202 o blant yn flynyddol. Er nad yw’r niferoedd cyfuwch yn y gwasanaethau Clyw a Golwg, mae yna leiafrif pwysig o blant sydd angen mewnbwn arbenigol wythnosol gan athrawes i ddatblygu eu sgiliau arwyddo a Braille. Oherwydd yr anawsterau wrth recriwtio athrawon cymwys Cymraeg, yn hanesyddol mabwysidawyd trefn o gyflogi athrawon dan hyfforddiant gan drefnu iddynt wedyn fynychu cyrsiau hyfforddiant tra mewn cyflogaeth.

           Bod patrwm tebyg i’w weld yn y Gwasanaeth Seicoleg Addysg gyda’r gwasanaeth yn rhedeg yn ystod tymor yr Haf gyda nifer sylweddol yn llai o seicolegwyr. Llwyddwyd i gynnig gwasanaeth i bob ysgol ond bu raid lleihau ar nifer yr ymweliadau a gynhaliwyd. O ganlyniad roedd yn siomedig ond nid yn annisgwyl na chafwyd ymateb mor ffafriol â’r llynedd i gwestiynau’r holiadur ansawdd a gylchredwyd i’r ysgolion yn ôl yr arfer. Bu i 78% ddatgan eu bod yn fodlon neu’n falch o’r gwasanaeth a dderbyniwyd  o gymharu ag 85% y llynedd ac 83% yn y blynyddoedd cynt. Roedd nifer yr ysgolion wedi sgorio’r gwasanaeth yn is ar y sail nad oeddent yn gweld y seicolegydd mor aml ac nid oherwydd unrhyw anfodlonrwydd gyda safon y gwaith. Roedd 46% o’r ysgolion yn hapus gyda maint yr amser a ddynodwyd iddynt.Yng ngoleuni’r adborth hwn hysbysebwyd am seicolegwyr newydd am yr ail dro ond eto, ni chafwyd yr un cais gan seicolegydd cymwys gyda’r gallu i siarad Cymraeg. Dros y blynyddoedd, mae’r gwasanaeth wedi cyflogi seicolegwyr dan hyffoddiant ac wedi trefnu iddynt fynd ar gyrsiau wedyn. Ar hyn o bryd mae 7 o’r 9 seicolegydd o fewn y gwasanaeth yn seicolewgyr dan hyfforddiant. Cyflogwyd tair seicolegwraig gynorthwyol ar ddiwedd y tymor er mwyn lleihau’r baich a gyda golwg arnynt fynychu cyrsiau hyfforddiant o Fedi, 2014. Mae dwy ohnynt wedi dechrau gweithio i’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a disgwylir bydd y trydydd yn dechrau yn Ionawr, 2014.

 

3.2       Cyflwynwyd gohebiaeth yr arfaethir ei anfon at Aelod Cynulliad Ynys Môn ac Aelod Seneddol Ynys Môn i ymorol eu cymorth a’u cefnogaeth i fynd i’r afael â’r anawsterau trefnu hyfforddiant i seicolegwyr addysg yng Nghymru sydd ag oblygiadau wedyn i’r drefn recriwtio Seicolegwyr Addysg cymwysiedig Cymraeg a hefyd i ddarpariaeth gwasanaeth seicoleg addysg dwyieithog yn yr ysgolion.

Ystyriodd yr Aelodau y wybodaeth a gyflwynwyd trwy’r adroddiad a’r ohebiaeth ac yn y drafodaeth ddilynol bu iddynt godi’r materion canlynol arni

           Cyfeiriwyd at y nifer uchel o blant  yr oedd yna ddisgwyl i athrawes arbenigol Iaith a Chyfathrebu ymwneud â hwy’n flynddyol a gofynnwyd sut yr oedd y ddwy sir yn cymharu â siroedd eraill yn hyn o beth. At hynny holwyd beth oedd y drefn ar gyfer hyfforddi rhieni sydd angen datblygu eu sgiliau arwyddo.

           O ystyried yr anwawsterau mewn perthynas â recriwtio Seicolegwyr Addysg cymwysiedig sydd hefyd yn siaradwyr Cymraeg, awgrymwyd bod lle i ystyried cyflogi seicolegwyr Saesneg eu hiaith gyntaf a bod ganddynt hwy ofalaeth am ardaloedd megis Caergybi lle nad yw’r Gymraeg yn hanfodol. Gan ei bod yn ymddangos bod  54% o’r ysgolion yn anfodlon gyda lefel y ddarpariaeth, dywedwyd ei fod yn gonsyrn nad yw plant efallai yn derbyn y lefel o gefnogaeth maent ei angen a’i fod yn ymarferol felly i gyflogi seicolegwyr Saesneg a rhoi pob anogaeth iddynt ddysgu Cymraeg.

           Gofynnwyd a oedd pobl ifanc y ddwy sir yn ddigon ymwybodol  o seicoleg addysg fel llwybr gyrfaol ac awgrymwyd bod lle i wneud mwy i hyrwyddo’r maes ac i godi ei broffil mewn nosweithiau a sesiynau gyrfaoedd mewn ysgolion.

           Cyfeiriwyd at y ffaith bod nifer o fyfyrwyr yn dilyn cwrs Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ai fod yn bwnc poblogaidd. Gofynnwyd a oedd yna gyswllt rhyngddynt a’r Gwasanaeth Secicoleg Addysg o ran y posibilrwydd o ddarparu profiad gwaith ôl-gymhwyso.

           Awgrymwyd bod yna lunio dadansoddiad o’r bwlch rhwng y ddarpariaeth seicoleg addysg bresennol a’r ddarpariaeth sydd ei hangen a bod yna geisio agor deialog gyda cholegau yn Lloegr sy’n darparu cyrsiau proffesiynol i lacio’r gofyn bod darpar-seicolegwyr sydd wedi’u hyfforddi yn Lloegr yn ymgymryd â phrofiad gwaith mewn awdurdodau addysg neu mewn ysgolion yn Lloegr.

           Gofynnwyd a fyddai’n bosib ceisio ffyrdd amgen o ddatrys y broblem hyfforddi a recriwtio trwy ddefnydd o’r balansau.

 

Mewn ymateb i’r pwyntiau a godwyd, eglurodd y Swyddogion y sefyllfa fel a ganlyn

 

           Bod gan seicolegwyr eu llwyth gwaith penodol ac o edrych ar anghenion ardal Caergybi, tybir nad oes digon o alw i gyfiawnhau swydd llawn amser gogyfer yr ardal honno.Byddai hefyd yn golygu y byddai gweddill y seicolegwyr yn ysgwyddo mwy o’r baich.

           O safbwynt hyfforddi rhieni mewn iaith arwyddo, mae’r rhan fwyaf o rieni wedi cychwyn ar y broses cyn bod eu plant yn dechrau’r ysgol ac ychydig iawn sy’n gyfan gwbl ddibynnol ar arwyddo. Mae cefnogi plentyn hollol fyddar yn gofyn am gryn adnoddau tu allan i’r cwricwlwm.

           Mae trefn wedi bodoli lle mae yna waith ar y cyd arloesol yn digwydd rhwng Athrawon Arbenigol Iaith a Lleferydd a Therapyddion Iaith o ran darparu hyfforddiant i gymorthyddion i ddeall cyflyrrau ac anhwylderau iaith er mwyn rhoi rhaglen waith at ei gilydd. Ar ôl cyfnod o gyd-weithio buddiol a buddsoddi mewn hyfforddiant cyrhaeddwyd sefyllfa bellach lle nad oes rhagor o adnoddau hyfforddi gan y Gwasanaeth Iechyd ac mae yna frwydro dros ddiogelu’r  ffordd hon o weithio. Y ddelfryd oedd ymledu’r cyd-weithio ond y risg yn yr hinsawdd sydd ohoni yw y bydd yna grebachu ar hynny.

           Cadarnheir bod yna 1.3 therapydd iaith a lleferydd yn gweithio gydag ysgolion cynradd Ynys Môn ar hyn o bryd.

           Parthed yr awgrym o ddefnyddio Seicolegwyr Addysg Saesneg lle mae’n bosibl, dywedwyd bod gwaith y Seicolegwyr yn ehangach na gweithio gyda phlant  a’i fod yn golygu gweithio gyda’r athrawon gan fwyaf mewn mewn amgylchfyd yn yr ysgolion lle mae’r ethos yn bennaf Gymraeg. Felly mae yna ofynion Cymraeg pendant ynghlwm wrth y gwaith. Ceisir rhoi pob cyfle i Seicolegwyr di-Gymraeg ddatblygu a gloywi eu Cymraeg.

 

Penderfynwyd

 

           Derbyn yr adroddiad tymhorol a nodi ei gynnwys.

          Bod yr ohebiaeth parthed yr anawsterau trefnu hyfforddiant i Seicolegwyr Addysg yng Nghymru yn cael ei hanfon at Aelodau Seneddol Ynys Môn a Gwynedd ynghyd ag Aelodau Cynulliad Ynys Môn a Gwynedd.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: