Cyflwyno diweddariad ar y sefyllfa mewn perthynas â chyllideb gyfredol 2013/14 y Cyd-Bwyllgor.
Cofnodion:
Cyflwynwyd er ystyriaeth y Cyd-Bwyllgor, adroddiad gan Bennaeth Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori cyllideb 2013/14.
Amlinellodd Uwch Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd y sefyllfa fel a ganlyn –
• Bod cyllideb 2013/14 yn ymgorffori costau cytundebau cyflogi, incrementau cyflog, addasiad yswiriant gwladol a chwyddiant ar y gyllideb am 2013/14. Mae cyfraniad Awdurdodau Gwynedd ac Ynys Môn wedi cynyddu 1.2%.
• Bod sefydliad staffio gyfredol y Cyd-Bwyllgor yn cael ei nodi isod :
Nifer cymareb llawn amser:
• 8.1 seicolegwyr
• 7.6 athrawon cynhaliol
• 6.4 staff gweinyddol
• Bod nifer o swyddi wedi bod yn wag yn ystod y flwyddyn ynghyd ag absenoldebau mamolaeth Bu anhawster darganfod staff cyflenwol. Mae’r sefyllfa hon wedi arwain at amcangyfrif o danwariant sylweddol yng nghyfrifon y Cyd-Bwyllgor eleni wedi’i ddidoli rhwng y tri tîm staff fel a ganlyn –
• Seicolegwyr £99,950
• Athrawon Cynhaliol £24,200
• Staff Gweinyddol £14,050
Cyfanswm £138,200
At hynny, rhagwelir tanwariant o oddeutu £4,520 ar gostau hyfforddi yn ddibynnol ar argaeledd cyrsiau cyn diwedd Mawrth, 2014.
• Amcangyfrifir y bydd yna orwariant o oddeutu £1,700 o dan bennawd post a lleihad o oddeutu £5,890 yn yr incwm mae’r Cyd-Bwyllgor yn ei gynhyrchu trwy ddarparu hyfforddiant a gwerthu cyhoeddiadau i ysgolion a’r Awdurdodau.
• Gyda’i gilydd golyga hyn amcangyfrif o danwariant gwerth oddeutu £135,000 yng nghyfrifon y flwyddyn ariannol gyfredol. Ar ôl ychwanegu hynny at y balansau diwygiedig sy’n cario drosodd o 2012/13, amcangyfrifir bydd cyfanswm balansau’r Cyd-Bwyllgor oddeutu £300,000 ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2013/14 sef bron i 30% o gyllideb y Cyd-Bwyllgor.
• Mae staff y Cyd-Bwyllgor ynghyd â swyddogion o’r ddau awdurdod wedi rhoi trefniadau dros dro mewn lle i atgyfnethu’r lefel staffio ac maent yn parhau i ystyried y defnydd gorau o’r balansau sydd yn weddill er budd plant ac ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn.
Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd y bydd llenwi’r swyddi gwag yn dod â chostau ychwanegol felly nid yw’n bosibl i’r Cyd-Bwyllgor ymrwymo’i hun i wariant mewn ffordd sy’n ddibynnol ar y balansau.
Ystyriodd yr Aelodau’r Cyd-Bwyllgor y wybodaeth mewn perthynas â’r sefyllfa ariannol.Gwnaed awgrym y gallai rhywfaint o’r tanwariant gael ei ad-dalu i’r ddau awdurdod i fynd yn ôl i gyllideb blwyddyn nesaf.
Dywedodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd y byddai o fantais i’r Cyd-Bwyllgor dderbyn dadansoddiad pellach o’r sefyllfa ariannol gan gynnwys y balansau i ddangos beth sy’n gyllid parhaol, y gofynion o ran llenwi swyddi a’r balans ar ôl hynny. Os gwelir bod yna swm o sylwedd yn weddill yna efallai bod yna agoriad i drafod gydag Adran Seicoleg Prifysgol Bangor y posiblirwydd o gefnogi pobl ifanc yn eu cyrsiau gyda golwg ar iddynt ystyried ymrwymo i’r ardal. Pwysleisiodd bod yma gyfle i’r Cyd-Bwyllgor fod yn rhagweithiol yn enwedig ym meysydd seicolegwyr addysg a’r athrawon arbenigol ac i edrych ar ddulliau recriwtio gwahanol yn y meysydd hyn a gweithredu mewn ffordd amgenach na hysbysebu yn unig. Dywedodd y Swyddog ei fod yn hollbwysig i’r Cyd-Bwyllgor fel cam cyntaf ddeall yn well beth sydd ganddo i’w gynnig. Mae’n rhaid archwilio opsiynau i ddenu pobl ifanc i’r proffesiwn er mwyn cynnal y gwasanaeth ac i wneud hynny mae’n rhaid bod mewn sefyllfa i egluro iddynt pa fath o gefnogaeth sydd ar gael a hynny ar sail gwybodaeth gadarn o beth sy’n gyllidol bosib.
Ategodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ynys Môn y sylwadau uchod a dywedodd bod yn rhaid yn gyntaf ddatrys y sefyllfa lle bo gofyn i ddarpar seicolegwyr sy’n dilyn cyrsiau seicoleg yn Lloegr weithio wedyn fel seicolegwyr addysg mewn awdurdod addysg neu ysgolion yn Lloegr. Awgrymodd hefyd bod lle i gryfhau proffil seicoleg addysg yn yr ysgolion.
Awgrymodd yr Aelodau bod gofyn cynllunio’n fwriadus o fewn cyllideb y Cyd-Bwyllgor fel bo yna ddarpariaeth yn cael ei hadeiladu yn y gyllideb i’r perwyl hwn fel na bo’n rhaid tynnu ar falansau. Dygwyd sylw at y ffaith na fyddai’r balansau wedi cynyddu i’r fath raddau onibai bod yna swyddi gwag ar y sefydliad. Nodwyd ei bod yn bwysig bod yna ddapariaeth benodol yn cael ei gwneud yn y gyllideb os cytunir bod yna ffordd amgen o symud ymlaen mewn perthynas â chefnogi a recriwtio darpar seicolegwyr ac athrawon arbenigol.
Atgoffodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg y Cyd-Bwllgor mai arian unwaith ac am byth yw’r balansau.
Penderfynwyd –
• Cymeradwyo a mabwysiadu’r gyllideb am 2013/14 gan nodi y ceir diweddariad pellach ynglyn â’r sefyllfa parthed defnydd o’r balansau yn y cyfarfod nesaf.
• Bod y Cyd-Bwyllgor yn derbyn dadansoddiad o’r balansau i ddangos faint o gyllid sydd ar gael i’w ddefnyddio i hyrwyddo cynlluniau amgen i ddenu seicolegwyr addysg/ athrawon arbenigol i weithio yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
CAM GWEITHREDU: Swyddogion y Cyd-Bwyllgor i ymgynghori i dynnu allan dadansoddiad pellach o’r sefyllfa gyllidol erbyn y cyfarfod nesaf.
Dogfennau ategol: