Eitem Rhaglen

Cofnodion Cyfarfod 3ydd Hydref, 2013

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 3ydd Hydref, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2013.

 

Materion yn codi

 

           Mewn ymateb i gwestiwn gan gynrychiolydd y sector gwirfoddol ynglŷn â chynnydd yn nodi’r gwirfoddolwyr sydd o fewn y system ar hyn o bryd a’r meysydd lle maent yn gweithredu, dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod y polisi gwirfoddoli wedi ei gyflwyno i Dîm Penaethiaid y Cyngor gyda’r bwriad o gynnal archwiliad a chyfuno hynny gydag archwiliad o ddiogelu plant.  Gwelwyd llithriad ar y trefniadau hyfforddi a drefnwyd ar gyfer yr wythnos i ddod mewn paratoad ar gyfer yr archwiliad a hynny oherwydd materion arfarnu swyddi ac roedd y trefniadau hynny yn awr wedi eu haildrefnu i fis Mawrth ac/neu Ebrill.  Dywedodd y Swyddog y gallai gadarnhau bod y gwaith wedi ei gynllunio ac y byddai adroddiad yn cael ei rhoi yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cyswllt.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Y Cyfarwyddwr Cymuned i adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf ar ddatblygiadau gyda mynd â’r Polisi Gwirfoddoli a materion cysylltiol yn eu blaenau.

 

           Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn - yn dilyn cyfarfod gyda’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) roedd yn gobeithio y gellid dod i gytundeb ynglyn â’r Côd Ariannu erbyn y cyfarfod nesaf.  Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n edrych i frysio’r mater yn ei flaen.

           Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod gwaith wedi ei wneud mewn ymateb i ofynion dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar Fframwaith ar gyfer darparu Gofal Cymdeithasol a Iechyd Integredig ac roedd Bwrdd Integredig wedi ei sefydlu.  Cynhaliwyd gweithdy yr wythnos cyn hynny oedd yn cynnwys rhoi ystyriaeth i ymgysylltu â’r trydydd sector.

           Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod y cyfnod cyntaf y gwaith o adolygu contractau’r trydydd sector bellach wedi ei gwblhau ac y byddai’n fodlon iawn i gyfarfod â Phrif Swyddog Medrwn Môn i drafod y canlyniad mewn manylder.  Roedd yr adolygiad wedi arwain at benderfyniadau penodol oedd yn dod i rym ar unwaith ac roedd hefyd wedi nodi materion fydd yn cael sylw y flwyddyn nesaf oherwydd bod angen mwy o amser cyn y gellid gwneud penderfyniad ynglyn â hwynt.  Yn ogystal â thrafod y materion hyn gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn bydd yn rhaid cael trafodaeth ynglyn â hwyluso’r materion hyn ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Iechyd.  Roedd yr adolygiad wedi edrych ar gontractau o safbwynt tynhau trefniadau, ailwerthuso’r comisiwn ac/neu fuddsoddiad gyda ffocws fydd yn golygu cynnal trafodaethau gyda sefydliadau unigol.  Eisoes fe ddywedwyd wrth y trydydd sector ei bod yn debygol y ceir gostyngiad 5.2% mewn cyllid ac y mae clwstwr bychan o gontractau wedi dod i ben tra bo rhai eraill yn destun toriad mwy.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymunedol ym Mwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn comisiynu £1.5m o wasanaethau trydydd sector a’i fod yn cynnal adolygiad datblygiad strategol i helpu’r sefydliad i benderfynu ar natur a math y ddarpariaeth y mae’n dymuno ei chomisiynu o Ebrill 2015.  Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn ymgynghoriad â holl awdurdodau lleol Gogledd Cymru a chyda’r trydydd sector a bydd yn golygu hefyd ymgysylltu gydag ystod o gydranddeiliaid.  Yn ychwanegol i hyn, mae’r Bwrdd hefyd yn ceisio ailddiffinio’r gwasanaethau y mae eu hangen gan sefydliadau/mudiadau unigol.

Dogfennau ategol: