Eitem Rhaglen

Cwrdd â'r Heriau - Ymgynghori ar y Gyllideb 2014-15

Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2014-15 fel y’u hamlinellir yn y Ddogfen Cwrdd â’r Heriau  - Ymgynghori ar Gyllideb 2014 -15.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor, gynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2014/15, gan gynnwys gostyngiadau gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd fel yr amlinellwyd yn y ddogfen Ymgynghori o’r enwCwrdd â Heriau’r Gyllideb”.

 

Dosbarthwyd yn y cyfarfod y cynigion arbedion manwl a wnaed gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn y meysydd Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Anableddau Dysgu a Gwasanaethau Plant ac na chawsant eu hymgorffori yn y ddogfen Ymgynghori.  Esboniwyd y cynigion hynny gan y Cyfarwyddwr Cymuned a dywedodd hithau y byddai blwyddyn ariannol 2014/15 yn un heriol iawn o ran y gyllideb ac nad oedd y sefyllfa ond wedi ei gwella i ryw raddau oherwydd bod y broses ymgynghori a chynllunio wedi cychwyn yn llawer cynt.  Bu llawer o drafodaethau ynghylch cyflwyno cynigion sy’n gyraeddadwy er mwyn ceisio osgoi patrwm o orwariant, yn arbennig felly o ran Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac mae’r cynigion hynny yn parhau i gael eu trafod a’u diwygio.  Gwahaniaethwyd rhwng y targedau arbedion a osodwyd ar wasanaethau, gyda rhai gwasanaethau yn gorfod cwrdd â thargedau uwch nag eraill.  Mae trafodaeth yn parhau hefyd mewn perthynas â chyllid grant, gyda Llywodraeth Cymru yn ceisio newid y defnydd o grantiau mewn ffordd sy’n arddel mwy o weithio rhanbarthol.  Gall y newid pwyslais hwn effeithio cytundebau lleol.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud, er bod y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael mwy o  ddiogelwch cyllidebol na rhai gwasanaethau eraill , roedd yr Adran yn parhau i fod o dan y targed arbedion ac roedd angen gwneud gwaith pellach.  Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch mwy o gydweithio mewn perthynas â’r ddarpariaeth anabledd dysgu ym Mryn y Neuadd, dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned fod y gwasanaeth yn integredig iawn o ran rheolaeth a chynllunio.  Mae’r gwaith sydd angen ei wneud yn y gwasanaeth hwn yn ymwneud â gwell arferion cadw ond, o gofio bod y contractau yn ymwneud â chleientiaid unigol, rhaid ymagweddu’n bwyllog a gosod allan gynllun a disgwyliadau’r gwasanaeth yn glir ac yn ofalus.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sgriwtineiddio eu gofynion statudol yn ofalus wrth lunio eu cynigion arbedion a’u bod wedi edrych ar yr holl ddarpariaethau eraill ar sail fforddiadwyedd.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn fod y gostyngiad yn y cymorth cyllidol tuag at y Trydydd Sector wedi bod yn seiliedig ar swm penodol yn hanesyddol.  Mae angen cael trafodaeth bellach ynghylch y cynigion a gyflwynwyd o ran eu goblygiadau i’r Trydydd Sector yn arbennig mewn perthynas â’r ystyriaethau isod

 

           P’un a oes modd cynllunio ymlaen i baratoi’r sector ar gyfer gostyngiadau yn y dyfodol.

           Pu’n a oes modd rhoi arwydd o’r rhagolygon ar gyfer cyllido’r sector yn seiliedig ar y math o batrwm yr oedd yr adolygiad o’r contractau wedi ei ddatgelu ac er mwyn galluogi cynllunio ymlaen llaw ac i nodi cyfleon.

           Yr angen i gael trafodaeth ynghylch comisiynu grantiau er mwyn egluro bwriadau comisiynu’r Awdurdod mewn perthynas â Trydydd Sector.

           Y potensial i ymchwilio i gapasiti’r Trydydd Sector i gefnogi a chyfrannu at fathau eraill o ddarpariaeth mewn perthynas â gwasanaethau dewisol, gan roi cyfle felly i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ddiogelu gwasanaethau y maent yn ystyried eu bod yn bwysig ond nad ydynt yn rhai mandadol.

 

Penderfynwyd nodi cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb a chan  gyfeirio’n benodol at gynigion effeithlonrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI.

Dogfennau ategol: