Trafod ymateb yr Awdurdod i’r argymhellion yn yr adroddiad.
Cofnodion:
Cafwyd cyflwyniad gan yr Arweinydd Systemau i’r CYSAG yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed gan CYSAG i’r Awdurdod Lleol fel roeddent i’w gweld yn ei Adroddiad Blynyddol 2012/13 mewn perthynas â hyrwyddo arfer dda a chynnal safonau o fewn y Ddarpariaeth o AG a threfniadau addoli ar y cyd ar draws ysgolion y sir ac mewn perthynas â hyrwyddo mynediad i athrawon AG ac ymarferwyr i gyfarwyddyd a deunyddiau cefnogol. Yn ei chyflwyniad, canolbwyntiodd yr Arweinydd Systemau ar sut y gellir sicrhau’r CYSAG bod yr argymhellion hynny’n cael eu gweithredu’n llawn gan yr Awdurdod Lleol a sut y gall wedi hynny werthuso ei effeithlonrwydd ei hun fel corff ymgynghorol.
Wrth drafod rôl y CYSAG yn cefnogi Cydlynwyr Addysg Grefyddol ac arweinyddion pwnc, fe wnaed y pwyntiau canlynol –
• Gan gofio bod y ffocws cenedlaethol ar Lythrennedd a Rhifedd fel meysydd blaenoriaeth yn y rhaglen gwella ysgolion a’r pwyslais a roddir ar wella’r sgiliau hynny ar draws pob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, fe all AG fod â goblygiadau o ran potensial ar gyfer dysgu’r rhain.
• Yr angen i athrawon ysgol / prifathrawon sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer AG yn cael ei gwneud mewn trefniadau hyfforddi athrawon.
• Yr angen i ystyried ffyrdd o alluogi’r CYSAG i fonitro a yw hyfforddiant wedi digwydd a’i effeithlonrwydd e.e. drwy gasglu safbwyntiau drwy holiadur blynyddol i athrawon allai fynd i’r afael â’r ystod a’r nifer o gyfleon a ddarperir ar gyfer hyfforddiant AG a’r gweithgareddau a wnaed.
• Yr angen i ystyried ffynonellau tebygol o hyfforddiant ar ffurf Eglwysi a sefydliadau trydydd parti fel Mudiad Addysg Grefyddol Cymru. Nodwyd bod MAGC ar hyn o bryd yn ystyried pa ran y gall ei chwarae fel cydlynydd hyfforddiant ar draws Cymru yn amodol ar gael cytundeb ynglŷn â chyllid a threfniadau eraill gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol, consortia addysg ac / neu ysgolion.
• Y posibilrwydd y gallai Aelodau’r CYSAG ymweld ag ysgolion unigol fel sylwedyddion fel ffordd o gyflawni cyfrifoldeb monitro’r corff mewn perthynas â threfniadau addoli ar y cyd yn yr ysgolion a sut y gellid cynnal ymweliadau o’r fath yn ymarferol. Awgrymwyd y gallai Aelodau o’r CYSAG gael eu cyfatebu gyda’u hysgolion lleol ac y dylai unrhyw ymweliadau a gynhelir fod ar sail gwahoddiad gan yr ysgol.
• Yr angen i ddatblygu protocol ar gyfer casglu gwybodaeth am ymweliadau i ysgolion ac o fwydo’r wybodaeth yn ôl wedyn i’r fforwm CYSAG. Awgrymwyd y dylid datblygu holiadur yn arbennig ar gyfer defnydd Aelodau’r CYSAG er mwyn sicrhau y ceir cysondeb o ran agwedd ac adrodd yn ôl mewn ymweliadau o’r fath.
• Bod ystyriaeth yn cael ei roi i ffurfio Cynllun Gweithredu i alluogi’r CYSAG i fonitro cynnydd yn rheolaidd parthed cyflawni nodau ac amcanion yr Adroddiad Blynyddol.
CAMAU GWEITHREDU’N CODI:
• Arweinydd Systemau i adrodd yn ôl i’r CYSAG ar opsiynau posibl ar gyfer rhoi sylw i’r canlynol:
• I nodi dulliau o hwyluso a chefnogi cyrsiau hyfforddi i athrawon/cydlynwyr AG.
• I nodi ffyrdd o gael atborth gan athrawon ar gyfleon i gael mynediad i hyfforddiant a rhannu arfer dda ac effeithlonrwydd hynny.
• I nodi ffyrdd i CYSAG gael gwybodaeth a dealltwriaeth o drefniadau addoli ar y cyd mewn ysgolion fel y gall y corff gyflawni ei gyfrifoldebau monitro yng nghyswllt hynny.
• Y Swyddog Addysg mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd Systemau i ddatblygu Cynllun Gweithredu fel y gall y CYSAG dracio cynnydd ar gyflawni amcanion yr Adroddiad Blynyddol.
Dogfennau ategol: