Derbyn cyflwyniad gan Miss Bethan James, AS GwE.
Cofnodion:
Rhoddodd yr Arweinydd Systemau gyflwyniad ar ofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol drwy gyfeirio ar y Rhaglen Gefnogi Genedlaethol sy’n darparu cefnogaeth i ysgolion gyda gweithredu’r Fframwaith. Eglurodd y disgwyliadau y bydd y gofynion yn eu rhoi ar athrawon Addysg Grefyddol fel a ganlyn –
• Rhaid i’r Fframwaith gael ei hintegreiddio o fewn cynlluniau gwersi.
• Athrawon i ddefnyddio ystod o strategaethau dysgu i ddysgu ac addasu rhifedd, darllen, ysgrifennu a llafaredd i’r ystod lawn o lefelau sgiliau a gallu.
• Athrawon i fod â’r arbenigedd i ddysgu a gosod tasgau priodol fel y gall sgiliau llythrennedd a rhifedd gael eu hasesu ochr yn ochr â chynnwys pob maes pwnc.
• Athrawon i allu dehongli canfyddiadau’r asesiadau a’u defnyddio i ffurfio cynlluniau addysg unigol.
• Athrawon i ddeall bod profion llythrennedd a rhifedd yn seiliedig ar y Fframwaith ac y dylent fedru paratoi dysgwyr yn unol â hynny.
Aeth yr Arweinydd Systemau ymlaen i ddangos sut y gall Addysg Grefyddol fel pwnc gael ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau rhifedd, er enghraifft drwy ddefnyddio’r profiad o ymweld â chapel i gyfrifo faint o bobl all eistedd yn y capel a sut y gallai’r testun gael ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau llythrennedd er enghraifft drwy lunio poster i egluro ystyr yr ŵyl Hindŵ Diwali fyddai’n rhoi tystiolaeth o allu i ffurfio brawddegau, gramadeg, sillafu, atalnodi a llawysgrifen. Dywedodd y Swyddog bod yr her o ran rhifedd yn benodol yn gorwedd gyda cheisio nodi cyd-destun rhifedd o fewn AG sydd wedi ei osod ar lefel briodol o’r Fframwaith Rhifedd h.y. un nad yw’n rhy simplistig.
• O safbwynt yr adolygiad o’r Cwricilwm Cenedlaethol, cadarnhaodd yr Arweinydd Systemau ei bod hi a chyn ymgynghorwyr eraill yn y dyniaethau wedi cyfarfod fel grŵp ddechrau mis Ionawr i ffurfio ymateb ar ran NAPfRE a hefyd y CYSAG i’r cyfnod cyntaf o’r adolygiad gan ddweud y dylai Addysg Grefyddol gael ei chynnwys mewn unrhyw ddatblygiadau ac/neu esiamplau a rennir gydag athrawon. Roedd ail gyfnod yr adolygiad yn golygu cynnwys cwricwlaidd ac yn adlewyrchu nod Llywodraeth Cymru, sef bod y cwricwlwm yn un sydd ag amrywiaeth ac sy’n dysgu i ddisgyblion y sgiliau a’r wybodaeth sydd ei hangen i’w galluogi hwy i symud ymlaen yn y byd y tu hwnt i’r ysgol. Aeth yr Arweinydd Systemau ymlaen i egluro sut y gallai’r disgwyliadau hyn berthnasu i AG sydd â sail statudol iddo ac sy’n cael ei lywodraethu gan maes llafur cytunedig wedi ei benderfynu’n lleol, o ran sicrhau bod AG yn adlewyrchu’r datblygiadau sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r Cwricwlwm. Dywedodd y byddai’n ymateb i ail gyfnod yr ymgynghori, y disgwylir iddo fod ag amserlen dynn iawn, drwy bwysleisio’r angen i gynnwys AG mewn unrhyw ddatblygiadau, cyfarwyddyd, a deunyddiau enghreifftiol.
Yn y drafodaeth a ddilynodd, ystyriodd yr Aelodau’r mater o ymgysylltu â sefydliadau allanol er mwyn cynyddu diddordeb yn y dosbarth fel y cyfeiriwyd at hynny gan yr Arweinydd Systemau yn ei chyflwyniad a chrybwyllwyd yn benodol yr elusen Open the Book lle ceir grwpiau o wirfoddolwyr yn ymweld ag ysgolion cynradd i ddramateiddioio rhai storïau o’r Beibl. Ystyriodd y CYSAG a oedd ysgolion lleol yn gwneud defnydd o’r gwasanaeth hwn ac oni fyddai mwy o ysgolion yn dymuno gwneud defnydd o’r adnodd hwn pe baent yn gwybod ei fod ar gael?