Eitem Rhaglen

Yr Uned Ddarparu AAA

Cyflwyno adroddiad ar weithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymhorau’r Hydref a Gwanwyn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu Anghenion Addysgol Arbennig a materion perthynol yn ystod tymhorau’r Hydref, 2013 a Gwanwyn, 2014.

 

Adroddodd Mrs Mair Read, Swyddog Addysg AAA Cyngor Sir Ynys Môn ar y prif ystyriaethau yn codi o’r adroddiad fel  a ganlyn –

 

           Mewn perthynas â gweinyddu prosesau asesu ac adolygu, bod y tîm gweinyddol bellach yn gweithredu i’w lawn gapasiti yn dilyn penodi dau gymhorthydd clerigol am gyfnod o flwyddyn hyd at ddiwedd Mawrth, 2015. Bu’n gyfnod heriol i’r gwasanaeth gweinyddol a gwerthfawrogir ymdrech y staff a gymrodd arnynt faich gwaith sylweddol yn ystod yr amser hwn.

           Cwblhawyd y cyfan o’r asesiadau statudol o fewn y terfynau amser lle na fu eithriadau.

           Llwyddwyd i brosesu nifer sylweddol o adolygiadau blynyddol yn amserol er mwyn gosod cyllidebau datganoledig i ysgolion.

           Bod datblygiadau rhanbarthol ynglyn ag unioni prosesau busnes yn ymwneud â’r gyfundrefn gofnodi Capita ONE yn parhau. Bydd mabwysiadu’r newidiadau arfaethedig yn golygu arbedion amser sylweddol i’r cymorthyddion clerigol.

           Cyflwynwyd model gwasanaeth gweinyddol newydd i’r Swyddogion Cleient gyda golwg ar gyfarch yr angen i ail-strwythuro’r sefydliad gweinyddol ar gyfer 2015/16 i adlewyrchu newidiadau i ofynion gweithredol yr Uned Ddarparu.Cymeradwywyd yr egwyddor ym mis Tachwedd.

           Mewn perthynas â’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol, hysbysebwyd am dair swydd sef – un llawn amser mewn iaith, cyfathrebu ac awtistiaeth lle gwelwyd y twf mwyaf mewn achosion ynghyd â dwy swydd 0.6 yr un ym maes golwg ac ym maes clyw. Yn hanesyddol, cafwyd anawsterau recriwtio athrawon arbenigol sydd hefyd yn rhugl yn y Gymraeg ac i oresgyn hyn buwyd yn cyflogi athrawon dan hyfforddiant ac yn trefnu iddynt fynychu cyrsiau tra mewn cyflogaeth.Penderfynwyd y tro hwn i hysbysebu am athrawon cymwys gyda chymal ategol y byddir yn ystyried ceisiadau gan athrawon profiadol sy’n awyddus i hyfforddi. Llwyddwyd i benodi’n fewnol i’r swydd llawn amser ym maes iaith a chyfathrebu ond nid i’r ddwy swydd rhan amser, ac felly aethpwyd ati i hysbysebu’n allanol am y swyddi hyn.

           Mewn perthynas â’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol parhawyd yn ystod y tymor i weithredu gyda nifer sylweddol yn llai o seicolegwyr o fewn y tîm yn sgîl absenoldebau oherwydd mamolaeth ac oherwydd ymadawiad dau seicolegydd rhan amser. Llwyddwyd i gynnig gwasanaeth i bob ysgol ond gyda llai o ymweliadau na’r arfer. Oherwydd hyn cyflogwyd tair seicolegwraig gynorthwyol i lenwi’r bwlch yn y gwasanaeth. Er nad oedd modd i un ohonynt ddechrau yn y gwaith tan y Nadolig maent wedi gwneud cyfraniad gyda nifer o dasgau ac wedi cyflwyno dau gwrs ar feysydd penodol.

           Cyfeiriodd yr Uwch Seicolgeydd Addysgol at yr atodiad i’r adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu oedd yn amlinellu’r trefniadau arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol o fis Medi, 2014 ymlaen. Mae’r cynllun a gynigir wedi’i seilio ar gais i’r Cyd-Bwyllgor hyrwyddo hyfforddi seicolegwyr, ac yn benodol rhoi cefnogaeth i ddwy seicolegwraig gynorthwyol ddilyn cwrs hyfforddi proffesiynol a fyddai’n galluogi sicrhau gwasanaeth seicoleg addysgol priodol i  ysgolion y ddwy sir i’r dyfodol. Dywedodd y Swyddog yn dilyn dwyn pwysau gan nifer o wasanaethau ac awdurdodau gan gynnwys y Cyd-Bwyllgor, ail agorwyd y cwrs hyfforddi proffesiynol ar gyfer seicolegwyr a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd sy’n golygu bod modd i’r seicolegwyr cynorthwyol wneud cais i fynd ar y cwrs o fis Medi eleni ymlaen. Maent hefyd wedi gwneud cais i fynychu cyrsiau yn Lloegr ac ym Mhrifysgol  Dundee yn yr Alban. Cynigir hysbysebu dwy swydd seicolegydd dan hyfforddiant i gychwyn ym mis Medi, 2014 wedi i’r tair swydd seicolegydd cynorthwyol ddod i ben. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn mynychu cwrs naill ai yng Nghaerdydd am dair blynedd neu yn yr Alban am ddwy flynedd gan weithio wedyn i’r Cyd-Bwyllgor ar delerau 0.8 llawn amser. Ceir yn yr atodiad fanylion am y costau byddai gofyn i’r Cyd-Bwyllgor eu talu am gynnal dau seicolegydd dan hyfforddiant p’run ai yng Nghaerdydd am dair blynedd neu yn yr Alban am ddwy flynedd neu un yng Nghaerdydd a’r llall yn yr Alban. Mae’r costau gan fwyaf yn llai na’r arian a fyddai fel arall wedi cael ei ddefnyddio  i gyflogi 1.4 seicolegydd llawn a lle mae’r costau’n uwch, nid yw’r gwahaniaeth yn un sylweddol. Bydd cymal yn nghytundebau’r seicolegwyr hyfforddedig i’r perwyl y byddant yn ad-dalu’r arian pe na  baent am ba bynnag reswm yn parhau i weithio i’r Cyd-Bwyllgor yn y dyfodol.

           Dygodd yr Uwch Seicolegydd Addysgol sylw at y ffaith bod y cynllun yn perthnasu i gynnal dwy seicolegwraig dan hyfforddiant yn unig a’u cyflogi wedyn fel seicolegwyr 0.8 llawn amser. Mae hyn oherwydd nad oes cyllid i gyflogi mwy na chyfanswm o 1.6 seicolegydd llawn amser. Ceir yn yr atodiad amlinelliad o’r llwybrau fyddai ar gael i’r drydedd seicolegwraig cynorthwyol gan gynnwys parhau yng nghyflogaeth y Cyd-Bwyllgor am flwyddyn arall fel seicolegwraig gynorthwyol a gwneud cais arall am gwrs hyfforddiant ym mhen blwyddyn. Dywedodd yr Uwch Seicolegydd Addysgol mai trwy fuddsoddiad yn y ffordd yr awgrymir y cryfheir y gwasanaeth i’r dyfodol.

 

Awgrymodd Swyddog Addysg AAA Cyngor Sir Ynys Môn ei fod yn gwestiwn i’r Cyd-Bwyllgor ei ystyried a yw am ddefnyddio arian o’i falanasau i barhau i gyflogi’r drydedd seicolegwraig fel seicolegwraig gynorthwyol ac iddi wneud cais arall am gwrs hyffordiant mewn blwyddyn.

 

Dywedodd Uwch Gyfrifydd Addysg Gwynedd y dymunai drafod y costau mewn mwy o fanylder gyda’r Swyddogion Cleient a’r Prif Seicolegydd Addygsol cyn i’r Cyd-Bwyllgor dderbyn y ffigyrau terfynol gan gymryd i ystyriaeth  costau ategol cyflogaeth y seicolegwyr.

Yn y drafodaeth ddilynol ynghylch y wybodaeth a gyflwynwyd fe godwyd y materion canlynol:

 

           Cydnabuwyd cyfraniad y gweinyddwyr ar adeg anodd yn ystod cyfnod lle’r oedd y tîm yn gweithredu tan gapasiti a diolchwyd iddynt am ysgwyddo’r faich.

           Holwyd am ddatganoli cyllid i ysgolion, y trefniadau ar gyfer gwneud hynny a’r graddau yr oedd wedi digwydd yn y ddwy sir.  Dywedodd Swyddog Addysg AAA Ynys Môn bod y ddwy sir yn edrych ar ddatganoli cyllid i ysgolion  gogyfer darparu anghenion addysgol ychwanegol ond bod gofyn bod y gwaith o asesu lefel yr angen fod wedi’i gwblhau yn gyntaf. Ymwelwyd â phob ysgol gynradd ym Môn cyn y Nadolig ac ystyrir  eu bod yn barod ac yn aeddfed i dderbyn y cyfrifoldeb. Byddant yn parhau i fod angen cefnogaeth a rhaid sicrhau bod y Cyd-Bwyllgor yn gryf ar gyfer hynny. Y disgwyliad yn genedlaethol yw y bydd canran uchel o’r gyllideb addysg yn cael ei datganoli i’r ysgolion. Eglurodd Uwch Gyfrifydd Addysg Cyngor Gwynedd bod yr Awdurdod yng Ngwynedd yn datganoli cyllid i 14 ysgol uwchradd ac 14 o’r ysgolion cynradd mwyaf. Cynhelir Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r gweddill.

           Croesawyd y cynllun hyfforddi seicolegwyr gan Aelodau’r Cyd-Bwyllgor fel cam rhagweithiol i ddiogelu a chryfhau’r gwasanaeth i’r dyfodol. Nodwyd yng ngoleuni’r buddsoddiad y byddir yn ei wneud ynddynt y byddid yn dymuno gweld grymuso’r cymal i ymrwymo’r seicolegwyr hyfforddedig i wasanaethu’r Cyd-Bwyllgor tu hwnt i’r ddwy flynedd yr awgrymir yn amodol ar reolau cyflogaeth. Nodwyd hefyd y byddai’n ymarferol ystyried dod â phwysau i geisio ehangu’r mynediad i’r cwrs hyfforddi proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd i gynnwys nifer uwch o hyfforddeion er mwyn lleihau costau’r cwrs. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth am y cwrs hyfforddi  yng Nghaerdydd ac yn enwedig y trefniadau mynediad iddo.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn cydnabod y gwaith a wnaed gan wleidyddwyr ac eraill i sicrhau ail-gyfodi’r cwrs Hyfforddi Proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe fynegodd werthfawrogiad am y gefnogaeth a gafwyd ar gyfer yr ymgyrch.

 

Penderfynwyd bod y Cyd-Bwyllgor -

 

           Yn derbyn yr adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu ac yn nodi ei gynnwys.

           Yn cefnogi hysbysebu dwy swydd seicolegydd tan hyfforddiant i gychwyn ym mis Medi, 2014 wedi i’r tair swydd seicolegydd cynorthwyol ddod i ben.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:

 

           Uwch Gyfrifydd Addysg i drafod costau’r cynllun hyfforddi seicolegwyr ymhellach gyda’r Swyddogion Cleient a’r Prif Seicolegydd Addysgol a chyflwyno’r ffigurau terfynol i’r Cyd-Bwyllgor.

           Prif Seicolegydd Addysgol i ddarparu gwybodaeth am y cwrs hyfforddi proffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dogfennau ategol: