Eitem Rhaglen

Adolygu Swyddogaeth a dulliau gweithredu

Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â thrafodaethau sy’n parhau ynghylch adolygiad o swyddogaethau ac agweddau gweithredol yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Nodwyd bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol eisoes wedi penderfynu mewn egwyddor bod angen iddi edrych ar ei chyfansoddiad a’i pherthynas gyda’r Cyngor Sir gyda golwg ar:-

 

·        Gostwng dibyniaeth ar y Cyngor mewn perthynas â gweinyddiaeth ac arweinyddiaeth strategol a phroffesiynol;

·        Diogelu’r cyfalaf o fewn yr Ymddiredolaeth er budd Ynys Môn pe bai strwythurau llywodraeth leol yn newid neu’n cael eu had-drefnu yn y dyfodol.  Cafwyd cyngor proffesiynol gan Gyfreithwyr allanol ar y materion hyn a bydd angen rhagor o arweiniad a chyngor pan fydd yr Ymddiredolaeth yn glir ynghylch y cyfeiriad strategol y mae’n dymuno ei fabwysiadu i’r dyfodol.

 

Cafwyd adroddiad cefndir gan yr Ysgrifennydd ar sefydlu Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ers y 1990au, ynghyd â throsolwg cyffredinol o’i chyfansoddiad, yr agweddau ariannol ac amcanion yr Ymddiredolaeth.

 

Nodwyd bod gan yr Ymddiredolaeth Elusennol lawn dri o Is-Bwyllgorau sy’n cefnogi’r broses gwneud penderfyniadau.  Roedd cylchoedd gorchwyl y Pwyllgorau hyn wedi eu hatodi yn AtodiadAi’r adroddiad:-

 

Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau

Pwyllgor Adfywio

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

 

Nod y cyfarfod oedd adolygu’r gwaith a wnaed gan y Pwyllgorau yn y blynyddoedd diwethaf; ystyried a yw strwythurau’r Pwyllgorau yn addas i bwrpas yng nghyd-destun gofynion i’r dyfodol a chael barn y Pwyllgor ynghylch effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr Ymddiriedolaeth yn gyffredinol.

 

Materion a godwyd gan Aelodau’r Ymddiredolaeth:-

 

·        mae angenllawlyfrsy’n amlinellu pwrpas yr Ymddiredolaeth, y rheolau ar gyfer dyrannu grantiau, y pwerau gwneud penderfyniadau a phwrpas Elusennol yr Ymddiredolaeth;

·        materion ynghylch dyrannu grantiau i Oriel Ynys Môn;

·        yr angen i edrych ar sut y dylid gweinyddu’r Ymddiredolaeth i’r dyfodol.

 

Rhannwyd Aelodau’r Ymddiredolaeth wedyn yn 3 grŵp yn seiliedig ar y 3 Is-Bwyllgor yr oeddent yn aelodau ohonynt, a hynny  er mwyn trafod materion sy’n berthnasol i’r Pwyllgorau hynny.  Cafwyd sylwadau fel a ganlyn gan y 3 Is-Bwyllgor:-

 

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

 

·        Mae angen codi’r trothwy cyfredol o £6k ar gyfer dyrannu grantiau;

·        Angen i’r Ymddiriedolaeth lawn gael mwy o gyllid cyflaf i’w wario;

·        Mae’r cyfraniad o 30% o ran cyllid cyfatebol ar gyfer grantiau yn rhy uchel i’r sefydliadau ei fforddio.  Ystyriwyd y byddai 15% yn fwy fforddiadwy;

·        Mae angen edrych ar y Weithred Ymddiredolaeth i egluro materion penodol ynddi.

 

Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau

 

·        Trafodaethau ynghylch Buddsoddi’r Ymddiriedolaeth gyda HSBC Investment Management a’r angen i archwilio gwell perfformiad ar gyfer derbyniadau cyfalaf;

·        Trafodaethau ynghylch buddsoddi arian yn y dyfodol yn sgil gwerthiant posib y tir yn Rhosgoch;

·        Budd Cymunedol posib yn sgil prosiectau ynni mawr ar yr Ynys ac ymarferoldeb Ymddiredolaeth ar wahân i weinyddu gwaddol o’r fath;

·        Cwestiynau ynghylch yr angen i fonitro cyllid a dyraniadau grant;

·        Trafodaethau ynghylch Aelodaeth o’r Ymddiredolaeth Elusennol a’r posibilrwydd o estyn yr aelodaeth i gynnwys Aelodau Lleyg.

 

Pwyllgor Adfywio

 

·        Cytundeb bod Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol angenllawlyfr’ a fyddai’n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn;

·        Mae angen cynllun prosiect ac adnoddau penodol ar gyfer proses moderneiddio’r Ymddiredolaeth fel y gellir sicrhau cynnydd gyda phrosiectau heb oedi;

·        Sefydlwyd y Pwyllgor hwn i fonitro dyraniadau ariannol i Menter Môn fel cyllid cyfatebol ar gyfer eu Rhaglenni Ewropeaidd.  Dywedwyd bod pob £10 a roddir gan y Pwyllgor hwn yn golygu bod Menter Môn yn gallu denu £90 o Ewrop;

·        Ystyriwyd y dylid caniatáu i gynrychiolydd o’r Ymddiredolaeth Elusennol wasanaethu ar Fwrdd Menter Môn i fonitro’r dyraniadau ariannol a roddir gan yr Ymddiredolaeth;

·        Mae angen adolygu trefniadau gweinyddol ar gyfer y grantiau a chynyddu’r buddsoddiadau cyffredinol ar gyfer prosiectau lleol;

·        Awgrymwyd y dylid cynyddu aelodaeth yr Ymddiredolaeth er mwyn caniatáu i aelodau lleyg wasanaethu arni;

 

Diolchodd yr Ysgrifennydd i Aelodau’r Ymddiriedolaeth am eu sylwadau gan ddweud ei bod yn amlwg bod angenllawlyfrar gyfer yr Aelodau er mwyn gwella lefel y dealltwriaeth o’r polisïau a sut y dyrennir arian.

Dywedodd hefyd yr ymddengys bod yr Ymddiriedolaeth yn fodlon gyda’r trefniadau i barhau i wahoddiad ceisiadau am grantiau o fis nesaf ymlaen.  Fodd bynnag, roedd yn sylweddoli bod yr Ymddiriedolaeth yn dymuno i’r Swyddogion edrych ar y posibilrwydd o ryddhau rhagor o grantiau a chynyddu’r trothwyon o ran cyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau gyda Menter Môn.  Dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai’n paratoi adroddiad ar y mater.

 

Dywedodd hefyd y byddai Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn yn cael gwahoddiad i ddod i gyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth Elusennol i annerch y cyfarfod mewn perthynas â'i fwriadau mewn perthynas â Chynlluniau Ewropeaidd.

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai’n gwahodd Cyfreithiwr o Weightmans LLP i’r cyfarfod nesaf i arwain yr Aelodau ynghylch cwestiynau sy’n ymwneud â’r Weithred.

 

Gofynnwyd cwestiynau ynghylch y posibilrwydd o gynnwys Amlwch ar gyfer derbyn dyraniadau ariannol gan yr Ymddiriedolaeth.  Roedd Cyngor Tref Amlwch wedi cael swm penodol o arian pan adawodd Shell UK yr ardal.  Ar ôl hynny ni chaniatawyd i Amlwch wneud ceisiadau am gyfraniadau ariannol gan yr Ymddiriedolaeth.  Dywedodd yr Ysgrifennydd yn ei ymateb y byddai’r mater hwn yn cael ei godi yn ystod y drafodaeth gyda Weightmans LLP.

 

Codwyd materion pellach ynghylch gweinyddu’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn y dyfodol.  Ymatebodd yr Ysgrifennydd y byddai angen paratoi adroddiad mewn perthynas â manteision ac anfanteision sefydliad allanol yn cymryd drosodd y gwaith o weinyddu’r Ymddiriedolaeth.  Roedd yr Is-gadeirydd wedi gwneud ymholiadau gyda sefydliadau sy’n delio gydag Ymddiriedolaethau Elusennol o’r fath ac wedi rhoi copi o’r ymateb a gafwyd gan un sefydliad i’r Aelodau.  CYTUNWYD i atodi’r ymateb i gofnodion y Pwyllgor hwn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r argymhellion a’r sylwadau a nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: