Eitem Rhaglen

Yr Uned Ddarparu AAA

Cyflwyno adroddiad ar weithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y Gwanwyn, 2014. (Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol yn amlinellu gweithgareddau’r Uned Ddarparu yn ystod tymor y Gwanwyn, 2014.

 

Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysgol at y prif ystyriaethau fel a ganlyn

 

           Trefniadau gweinyddu prosesau asesu ac adolgu yn ystod y cyfnod. Ar ddechrau’r tymor roedd gan y tîm gweinyddol gyflenwad staff llawn a manteisiwyd ar hyn i ymateb yn dda i ddatblygiadau newydd gan gynnwys gweithredu fersiwn newydd o’r bas data ONE.Ym mis Mawrth, gadawodd yr Uwch Swyddog Gweinyddol a oedd wedi’i secondio i’r swydd, ac fe ddychwelodd i’w swydd flaenorol. Ail drefnwyd y dyletswyddau swyddfa yn y cyfamser  ac fe ddechreuwyd ar y broses o hysbysebu i lenwi’r swydd tan fis Mawrth, 2015.

           Mewn perthynas â’r Gwasanaeth Athrawon Arbenigol, hysbysebwyd am athrawon arbenigol ym meysydd anawsterau iaith, cyfathrebu ac awtistiaeth; anawsterau golwg, ac anaswsterau clyw. Penodwyd athrawes newydd i ymuno â’r tîm anawsterau iaith, cyfathrebu ac awtistiaeth i gychwyn ar gwrs hyfforddiant ym mis Medi ond bu raid ail hysbysebu’n allanol am y swyddi yn y ddau faes arall. Cafodd absenoldeb salwch un o’r ddwy athrawes arbenigol nam ar y golwg effaith ar y gwasanaeth yn enwedig o du’r athrawes arall oedd yn ysgwyddo’r gwaith ychwanegol. Dwysawyd y sefyllfa gan nifer uchel y plant gyda nam ar y golwg yn trosglwyddo i’r sector uwchradd a hwythau angen mewnbwn rheolaidd dwys am eu bod angen mynediad i’r cwricwlwm trwy gyfrwng Braille.

           Parthed y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol, ceir yn yr adroddiad ddadansoddiad o oblygiadau cyllidol y penderfyniad a wnaethpwyd yn y cyfarfod blaenorol i fwrw ymlaen i drefnu i’r tair seicolegwraig cynorthwyol sydd ar hyn o bryd yn gweithio i’r gwasanaeth fynychu cwrs hyfforddi er mwyn sicrhau cyflenwad o seicolegwyr cymwysiedig i’r dyfodol. Mae dwy o’r seicolegwyr cynorthwyol wedi cael lle ar y cwrs hyfforddi tair blynedd yng Nghaerdydd o fis Medi ymlaen, un ar sail heb ei gyllido a’r llall ar le wedi’i gyllido. Penderfynodd y drydedd seicolegwraig cynorthwyol i beidio gwneud cais am le hyfforddi a pharhau i weithio yn ei swydd bresennol gyda’r Cyd-Bwyllgor am flwyddyn arall. Dengys yr adroddiad y gost o gefnogi’r ddwy seicolegwraig fel seicolegwyr dan hyfforddiant am y cyfnod tair blynedd. Bydd gofyn i’r gwasanaeth weithredu gyda 1.4 seicolegydd yn llai am y dair blynedd ond bernir bod y buddsoddiad yn un gwerthfawr i’w wneud ac y bydd yn dwyn ffrwyth yn y dyfodol. Bydd rhan o waith maes y ddwy fyfyrwraig yn cael ei wneud yn lleol.

           Mewn perthynas â hyfforddiant y tîm seicolegwyr addysgol, yn ystod y tymor fe fynychodd rhan fwyaf y seicolegwyr gwrs yn y dull o drefnu cyfarfodydd a elwir yn Gynllunio Person-Ganolog (Person Centred Planning - PCP).

           Mae’r data ar gyfer Gwynedd yn awgrymu bod llai o ddatganiadau wedi’u cwblhau o fewn y cyfnod statudol na’r arfer am y tymor hwn.

 

Cadarnhaodd Swyddog Addysg Anghenion Arbennig Ynys Môn bod ffigyrau Ynys Môn o ran y datganiadau sydd wedi’u cwblhau o fewn y cyfnod  26 wythnos yn ymdebygu i rai Gwynedd yn yr ystyr eu bod yn adlewyrchu tan berfformiad. Mae’r canlyniadau hyn i’w priodoli i raddau i’r anawsterau a wynebwyd gan yr Uned Weinyddol o ddechrau’r flwyddyn ymlaen o safbwynt trosiant staff gydag aelodau staff newydd yn dod i mewn i’r uned gan olygu ei bod yn anodd rhoi arweiniad i’r tîm. Mae’r rhain bellach wedi’u datrys. Un o’r problemau hir sefydlog mewn perthynas â chwblhau asesiadau yw’r anhawster am ba bynnag reswm i dderbyn gwybodaeth amserol gan asiantaethau eraill. Felly, fe gytunwyd y byddid yn dod i benderfyniad ar asesiadau ar sail y wybodaeth sydd ar gael ar y pryd. Hyderir y bydd y cam hwn yn arwain at godi’r perfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol am y tymor a’r cyfnod adrodd nesaf. Adroddodd y Swyddog y gwnaed penodiad i swydd Uwch Swyddog Gweinyddol yr Uned Ddarparu tan fis Mawrth, 2015 ac fe ddywedodd y bu i ddeilydd blaenorol  y swydd ddechrau ar waith moderneiddio systemau gweinyddol yr Uned a hyrwyddo cyflwyno system bas data ONE. At hynny, bydd yr Uned yn ymdrin ag achosion statudol yn unig yng nghyswllt Ynys Môn am fod y drefn ariannu ysgolion wedi newid bellach gyda chyllid anghenion addysgol arbennig wedi’i ddatganoli i’r ysgolion ym Môn.

 

Ystyriwyd y wybodaeth a gyflwynwyd gan aelodau’r Cyd-Bwyllgor ac fe wnaed y sylwadau canlynol yn y drafodaeth ddilynol arni

 

           Gyda gweithredu trefn ddatganoli cyllid anghenion addysgol arbennig i’r ysgolion gofynnwyd a fydd yna barhau i ddarparu cymorth iddynt. Dywedodd Swyddog Addysg Ynys Môn y bydd y cymorth yn parhau ar lefel statudol ac mai o ran y weinyddiaeth fydd y gwahaniaeth gyda’r Cyd-Bwyllgor yn ymwneud gyda’r drefn statudol yn unig.

           Tra’n croesawu’r camau hyfforddi y byddir yn eu cymryd mewn perthynas â’r ddwy seicolegwraig cynorthwyol fel gweithredu blaengar pwysleisiwyd y pwysigrwydd o ymrwymo’r seicolegwyr hyfforddedig i wasanaeth y Cyd-Bwyllgor am gyfnod wedi hynny.

           Holwyd am ymarferoldeb cymryd camau pellach i geisio denu unigolion ac yn yn enwedig siaradwyr y Gymraeg i’r proffesiwn trwy gynnal presenoldeb mewn sesiynau gyrfaoedd a/neu trwy gynnig bwrsari fel anogaeth i’r maes. Ymatebodd y Swyddogion trwy ddweud bod y broses hyfforddi ar gyfer cymhwyso fel seicolegydd addysgol yn un hir iawn. Mae gan y Cyd-Bwyllgor draddodiad o ddod â seicolegwyr addysgol yn eu blaen trwy hyfforddiant.

 

Dygodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd sylw’r Cyd-Bwyllgor at y materion isod:

 

           Dywedodd bod diolch yn ddyledus i’r Prif Seicolegydd Addysgol am y gwaith yn gysylltiedig â dod â’r cynllun hyfforddi seicolegwyr ymlaen ac i Uned Gyllid Cyngor Gwynedd am roi’r  sicrwydd ariannol yn yr ystyr bod y gefnogaeth gyllidol ar gael i alluogi gwireddu’r cynllun.

           Awgrymodd bod y Prif Seicolegydd Addysgol yn cylchredeg i benaethiaid ysgolion y ddwy sir  lythyr byr o gyflwyniad yn ymgorffori gwybodaeth ar ffurf tablau yn gosod allan ddyletswyddau tri thîm yr Uned Ddarparu yn ogystal â’r camau sydd wedi cael eu cymryd i atgyfnerthu’r timau ac i ddenu unigolion addas iddynt.

           Awgrymodd bod y Prif Seicolegydd Addysgol yn ystyried sut orau i gyflwyno i’r Cyd-Bwyllgor gynnwys Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ynglyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol y mae’n destun ymgynghori tan 25 Gorffennaf,  o ran sut mae’r newidiadau arfaethedig am effeithio’r maes anghenion addysgol arbennig fel bod y Cyd-Bwyllgor yn deall beth yw’r goblygiadau mewn perthynas â sut fydd yn gweithredu ar ran yr awdurdodau  ac yn darparu gwasanaethau i’r dyfodol.

 

Gofynnwyd gan Aelod a fyddai Aelodau’r Cyd-Bwyllgor yn cael gweld yr ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn. Awgrymodd Pennaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn bod yr ymateb proffesiynol i’r ymgynghoriad yn cael ei rannu gyda’r Cyd-Bwyllgor trwy’r Weinyddiaeth a bod yna gyflwyno adroddiad ffurfiol i gyfarfod y Cyd-Bwyllgor ym mis Medi i amlinellu goblygiadau’r newidiadau deddfwriaethol bwriedig i’r Cyd-Bwyllgor yn neilltuol gan gynnwys unrhyw oblygiadau ariannol perthnasol. Cytunwyd ar y ffordd hon o weithredu.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:

 

           Y Prif Seicolegydd Addysgol i gylchredeg i benaethiaid ysgolion Gwynedd a Môn wybodaeth ynglyn â chyfansoddiad tri thîm yr Uned Ddarparu a’u dyletswyddau yn ogystal â’r camau a gymerwyd i atgyfnerthu’r timau o ran denu unigolion addas iddynt.

           Y Prif Seicolegydd Addysgol

 

           I anfon ymlaen i’r Swyddog Pwyllgor yr ymateb proffesiyol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn ynglyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i’w rannu gydag aelodau’r Cyd-Bwyllgor ac

           I baratoi i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor adroddiad ar oblygiadau’r Papur Gwyn i’r Cyd-Bwyllgor yn neilltuol, gan gynnwys unrhyw oblygiadau ariannol.

Dogfennau ategol: