Eitem Rhaglen

Cyfrifon Terfynol y Cyd-Bwyllgor AAA am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth, 2014

Cyflwyno cyfrifon cyn-archwiliedig terfynol y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn gyllidol yn diweddu 31 Mawrth, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Cyd-BwyllgorAdroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn ymgorffori adroddiad cyfrif inwcm a gwariant refeniw’r Cyd-Bwyllgor am 2013/14 ynghyd â datganiad o’r cyfrifon ar ffurf statudol wedi’i ardystio ond cyn archwiliad.

 

Adroddodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd bod gofynion adrodd penodol ynghylch cyfrifo ac archwilio cyfrifon cyd-bwyllgorau fel yr amlinellir yng nghorff yr adroddiad. Dywedodd bod y ddogfennaeth wedi’i rhannu’n ddwy fel a ganlyn

 

           Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2013/14 ynghyd â sylwadaeth ar y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant. Dywedodd y Swyddog mai  £110,805 oedd cyfanswm tanwariant net y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn 2013/14. O ychwanegu’r swm hwn at falans reserf y Cyd-Bwyllgor ar 31 Mawrth, 2013 sef £166,351 daw â chyfanswm y balans reserf i £277,156 ar ddiwedd Mawrth, 2014.

 

Ystyriodd Aelodau’r Cyd-Bwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd ac fe godwyd cwestiynau ynghylch y gwariant o dan rai penawdau gan gynnwys y cynnydd mewn costau post. Gofynnwyd a oedd yna gyllid ar gael o’r balansau i wella trefniadau’r swyddfa.Ymatebodd y Swyddogion bod ymdrech wedi cael ei wneud i foderneiddio‘r systemau swyddfa a bod lleihau costau post yn flaenoriaeth. Ar y llaw arall rhaid cadw mewn cof ofynion cyfrinachedd wrth drosglwyddo gwybodaeth a’r cyfrwng a ddefnyddir i wneud hynny ynghyd â’r ffaith bod rhai asiantaethau yn ymwneud trwy waith papur. Yn ogystal, er bod yna  gynllun mewn lle i leihau balansau’r Cyd-Bwyllgor cafwyd anawsterau wrth geisio recriwtio unigolion i swyddi arbenigol. Gan hynny, aethpwyd ati i o fewn y fframwaith weithredu i ystwytho ychydig ar y patrymau cyflogi i recrwitio staff lle bo’r angen a thrwy hynny lleihau’r balansau. Ar y llaw arall, fe all y Cyd-Bwyllgor wynebu toriadau i’w gyllideb flynyddol yn y dyfodol gan olygu bydd raid iddo  gynllunio yn yr hir dymor ar sail cyllidol llai.

 

Dywedodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd mai arian i bwrpas unwaith ac am byth yw balansau’r Cyd-Bwyllgor ac mai’n erbyn y gyllideb barhaol y gellir gwneud ymrwymiadau parhaol. Mae’r sefyllfa lle mae’r Cyd-Bwyllgor yn dal cyfwerth â chwarter o’i drosiant o £1m mewn reserfau yn un i gadw golwg arni er y gall fod yna resymau penodol dros wneud hynny.

 

Dywedodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd bod cael yr arian wrth gefn yn rhoi’r hyblygrwydd a’r sicrwydd ariannol i’r Cyd-Bwyllgor y gall weithredu i geisio denu unigolion addas i’w gyflogaeth a hefyd rhoi cymorth i mewn i sicrhau bod plant yn cael y sylw fel bo’r angen.

 

           Datganiad o’r cyfrifon ar ffurf statudol wedi’i ardystio ond cyn archwiliad.

 

Dywedodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd bod y datganiad wedi’i lunio a’i gyflwyno ar ffurf safonol statudol. Bydd y cyfrifon yn cael eu harchwilio gan Swyddfa Archwilio Cymru a bydd yr Archwilydd Penododig yn cynhyrchu adroddiad ISA260 yn amlinellu prif ddarganfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru o’r archwiliad fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyd-Bwyllgor ym mis Medi gyda’r cyfrifon archwiliedig. Mae sawl rhan i’r cyfrifon yn cynnwys nodiadau eglurhaol ynghylch y polisïau cyfrifo.

 

Penderfynwyd

 

           Derbyn y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2013/14 a nodi’i gynnwys.

           Derbyn y Datganiad o’r Cyfrifon am 2013/14 (cyn archwiliad) a nodi’i gynnwys.

Dogfennau ategol: