Eitem Rhaglen

Cofnodion Cyfarfod 18 Chwefror, 2014

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2014 yn amodol ar gynnwys Mr Rheinallt Thomas (Is-Gadeirydd) yn y rhestr o rai oedd yn bresennol.

 

Materion yn codi

 

           Adroddodd yr Arweinydd Systemau yng nghyswllt nodi dulliau o hwyluso a chefnogi cyfleon hyfforddi i Athrawon AG a Chydlynwyr i godi safonau AG lle bo angen hynny a bod tair ystyriaeth wedi dod i’r amlwg sef

           Yr angen i ddod i ddealltwriaeth mewn egwyddor bod CYSAG Ynys Môn ynghyd â’r Awdurdod ym Môn yn barod i weithio ar y cyd gyda chyrff CYSAG eraill yng Nghymru i ffurfio rhaglen hyfforddi.  Cyfeiriodd yr Arweinydd Systemau at y cwrs hyfforddi i Athrawon CA3 ar ddeall safonau yn CA3 ac a gynhaliwyd y flwyddyn ddiwethaf, fel esiampl o’r manteision o weithio ar y cyd i ddarparu hyfforddiant ar amser pan nad yw grwpiau sy’n draddodiadol yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant i athrawon mewn AG mwyach ar gael.  Roedd y cwrs yn cynnwys o ran trefniadau, cyfraniad a chyfranogiad - gyrff CYSAG Gogledd Cymru, Cymdeithas CYSAGau Cymru, Cynghorau Môn a rhai eraill yng Ngogledd Cymru a’u hysgolion.  Dywedodd y Swyddog ei bod hi a’i chyd-aelodau o’r PYCAG yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y model hwn o weithio’n gydweithredol ac i’w ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.  Ei hargymhelliad hi fyddai bod Cyngor Ynys Môn yn cefnogi Cynghorau a chyrff CYSAG eraill o ran gweithio gyda’i gilydd i ddarparu rhaglen o hyfforddiant.  Roedd teimlad hefyd y dylid rhoi ystyriaeth i ddatblygu rhaglen o gyrsiau dros ddwy i dair blynedd ac a fyddai ar gael yn lleol, gyda hynny’n caniatáu amser i athrawon gynllunio ar eu cyfer ac a fyddai’n rhoi sylw dyledus i anghenion y sectorau cynradd a’r uwchradd ac yn mynd i’r afael â gofynion cyfredol fel llythrennedd a rhifedd.

           O safbwynt hwyluso a chefnogi athrawon i ddod at ei gilydd i drafod meysydd sy’n ymwneud ag Addysg Grefyddol gyda golwg ar rannu arfer dda a syniadau, dywedodd yr Arweinydd Systemau y gallai’r CYSAG, o safbwynt y sector cynradd yn arbennig, dderbyn y byddai’n rhaid i hon fod yn ddarpariaeth cost isel ar y cyd heb gynnwys grwpiau allanol ac a fyddai’n adeiladu ar y grwpiau cyfredol yn lleol.  Efallai y byddai gofyn i’r CYSAG fel corff ystyried gwneud ychydig o’r gwaith cefnogi gweinyddol ac fe ellid sefydlu rota o hwyluswyr gyda  Chyngor Ynys Môn efallai yn cyllido sesiwn gychwynnol.  Efallai wedi hynny y byddai’n bosibl cael cydlynwyr AG yn y sector cynradd i sefydlu eu rhwydwaith eu hunain o fewn y sir.

           I sefydlu cymorthfeydd ar ôl ysgol ar ddechrau pob tymor ar gyfer yr ysgolion y disgwylir iddynt gyflwyno eu hadroddiadau hunanarfarnu i’r CYSAG i’w hatgoffa hwy o rai o’r ystyriaethau allweddol wrth wneud hynny.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd wrth yr Aelodau bod llythyr ar ran Cynghorau Eglwysi Rhydd Cymru wedi ei anfon at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn ei longyfarch ar ei anerchiad i’r gynhadledd a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar ac am y gydnabyddiaeth a roddodd i Addysg Grefyddol tra ar yr un pryd yn dwyn i’w sylw ddwy ystyriaeth allweddol -

 

           Dyfodol y cyrff CYSAG yng Nghymru.  Roedd y llythyr yn gofyn i’r Gweinidog ail- ddatgan ac atgoffa pob Awdurdod Lleol bod ganddynt ddyletswydd statudol i sefydlu corff CYSAG.

           Oherwydd y gofyniad lleol o ran AG, bod camau’n cael eu cymryd i ailsefydlu rhyw system o gefnogaeth uniongyrchol a chyngor i ysgolion ac athrawon yn dilyn colli’r system flaenorol o ymgynghorwyr pwnc o ganlyniad i gyflwyno arweinyddion system fel rhan o GwE, ac i sicrhau cefnogaeth i’r system honno.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd bod y llythyr wedi ei anfon ymlaen i’r holl enwadau crefyddol gan ofyn iddynt fynd ar ôl y mater. 

 

Roedd cynrychiolydd yr athrawon ysgolion uwchradd yn cefnogi’r awgrym a wnaed dros gryfhau’r ddarpariaeth o gefnogaeth a chyngor i ysgolion ac i athrawon AG a dywedodd, o ystyried y pwyslais cyfredol ar wella llythrennedd a’r sgiliau rhifedd, fod yn awr lai o gyfle ar gyfer hyfforddiant pwnc penodol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Cynllun Gweithredu yr oedd yr Arweinydd Systemau wedi ei roi gerbron yn y cyfarfod gyda’r bwriad o sicrhau bod nodau ac amcanion adroddiad blynyddol CYSAG Ynys Môn 2012/13 yn cael eu darparu mewn ffordd effeithiol ac amserol ac awgrymodd y dylid ei ystyried fel rhan o’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf.  Dywedodd yr Arweinydd Systemau y dylid, yng ngoleuni sylwadau a wnaed yn yr adolygiad o Adroddiadau Blynyddol CYSAGau y dylai cyrff CYSAGau fabwysiadu agwedd fwy hunan-arfarnol i’w gwaith a byddai’n awgrymu bod yr Aelodau yn ystyried beth sy’n ymarferol o fewn y Cynllun Gweithredu a’u bod yn nodi deilliannau fel y gallant asesu eu hunain yn eu herbyn fel corff CYSAG o fewn blwyddyn neu ddwy er mwyn gallu dangos effeithlonrwydd y corff.

 

Penderfynwyd

 

           Cymeradwyo’r awgrymiadau a wnaed gan yr Arweinydd Systemau mewn perthynas â hwyluso a chefnogi cyfleon hyfforddi i Athrawon AG er mwyn codi safonau AG yn yr ysgolion.

           Bod y Cynllun Gweithredu yn cael ei gynnwys i’w ystyried ar raglen y cyfarfod nesaf o'r CYSAG

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Y Swyddog Pwyllgor i gynnwys y Cynllun Gweithredu ar raglen y cyfarfod nesaf o’r CYSAG.

 

           Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr awgrym a wnaeth yn y cyfarfod blaenorol y dylid cyflwyno elfen ysbrydol i gyfarfodydd y CYSAG drwy gael gweddi neu ennyd i adlewyrchu a dywedodd bod hyn wedi codi rhai ystyriaethau cyfreithiol ac roedd yntau wedi ceisio cael eglurhad ohonynt gan Swyddog Monitro’r Cyngor.  Yng ngoleuni cyngor y Swyddog Monitro, roedd yn awr am awgrymu bod pob cyfarfod o CYSAG Ynys Môn yn cael ei gau gyda gweddi wedi i fusnes ffurfiol y cyfarfod ddod i ben er mwyn caniatáu i unrhyw un fyddai’n dymuno gadael allu gwneud hynny.  Roedd Aelodau’r tri grŵp cynrychiadol yn cyd-fynd â’r awgrym hwn.

 

Penderfynwyd y dylid cloi pob cyfarfod o’r CYSAG gyda gweddi yn dilyn cwblhau busnes ffurfiol y cyfarfod.

Dogfennau ategol: