Derbyn cyflwyniad gan Kirsty Williams, yr Eglwys yng Nghymru yn rhinwedd ei swydd fel Galluogwr Gweinidogaeth Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr Eglwys.
Cofnodion:
Cafwyd cyflwyniad gan Kirsty Williams i’r CYSAG yn rhinwedd ei swydd fel Galluogydd Gweinidogaeth Plant, Ieuenctid a Theuluoedd i’r Eglwys yng Nghymru a rhoddodd gerbron adroddiad oedd yn rhoi crynodeb o’r syniadau a gyflwynwyd. Yn ei chyflwyniad awgrymodd Ms Williams y ffyrdd canlynol y gallai'r Eglwys yng Nghymru gynnig cefnogaeth ymarferol i ysgolion mewn AG –
• Hyrwyddo sesiynau hyfforddi i athrawon mewn themâu perthnasol o fewn AG o fewn neu y tu allan i’r ysgol.
• Darparu pecynnau addysgol i athrawon sydd yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio e.e. bocsys adnoddau yn cynnwys arteffactau, cynlluniau gwersi a deunyddiau cefnogi eraill y gall athrawon eu harwyddo i mewn ac allan.
• Systemau mentora i blant mewn perthynas â’r hyn y maent yn ei ddysgu yn y gwersi Addysg Grefyddol a allai yn ei dro ddarparu prosiect mentora drwy’r ysgol gyfan.
• Darparu llecynnau gweddïo i’w defnyddio yn unigol gan blant neu fel rhan o ymarfer dosbarth fel sy’n briodol.
• Darparu lleoliadau gwirfoddoli i bobl ifanc sydd efallai yn ei chael yn anodd i gael at gyfleon gwirfoddoli.
• Gwasanaeth cwnsela i ategu’r ddarpariaeth bresennol o fewn ysgolion.
• Dyddiau symud ymlaen i blant a phobl ifanc i roi iddynt y sgiliau ar gyfer symud ymlaen i’r cyfnod nesaf yn eu bywydau.
Roedd Aelodau’r CYSAG yn cydnabod yr awgrymiadau a wnaed ac roeddent am bwysleisio na all y CYSAG fel corff ond hwyluso’r broses o rannu gwybodaeth am wasanaethau ac adnoddau i ysgolion er mwyn iddynt hwythau weithredu arnynt fel y byddant yn barnu’n briodol, ac mai mater i ysgolion unigol yw a fyddant yn derbyn y cynnig o wasanaeth ai peidio.
Tynnodd yr Arweinydd Systemau sylw at y ffaith bod rhai o’r gwasanaethau y mae’r Galluogydd Gweinidogaeth Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr Eglwys yn ei awgrymu y gallai’r Eglwys eu cynnig eisoes yn cael eu darparu o fewn ysgolion ac amlygodd y meysydd canlynol fel rhai y byddai’r Galluogydd efallai yn dymuno eu hystyried er mwyn osgoi dyblygu’r ddarpariaeth ac adnoddau:
• Canolfan Adnoddau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Addysg Grefyddol sy’n darparu ystod o adnoddau yn cynnwys bocsys adnoddau sy’n ymdrin â rhai o’r themâu a grybwyllwyd.
• Adran y plant yng Ngwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn sy’n benthyca bocsys o arteffactau yn ogystal â llyfrau i ysgolion.
• Bod prinder o adnoddau ar gael i ysgolion sy’n adlewyrchu’r cwricwlwm Cymreig o ran diffinio ffydd ac ymlyniad i ffydd yng Nghymru o safbwynt Cymreig. Dylai’r adnoddau a ddarperir gan yr Eglwys yng Nghymru adlewyrchu’r dimensiwn hwnnw.
• Mae rhai gwasanaethau fel cwnsela, mentora a gwasanaethau hyfforddi eisoes wedi eu sefydlu’n dda mewn nifer o ysgolion uwchradd y sir. Efallai y byddai’r Eglwys yng Nghymru felly yn dymuno ystyried pa anghenion penodol y mae’n gallu ymateb iddynt a bod ei chynrychiolydd yn gwneud pobl ifanc a’u rhieni’n ymwybodol mai’r eglwys sy’n darparu’r gefnogaeth i ysgolion lle bo hynny’n berthnasol.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylai Galluogydd y Weinidogaeth Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr Eglwys adolygu’r adroddiad yng ngoleuni’r sylwadau a wnaed a’i ailgyflwyno i’r CYSAG yn y cyfarfod nesaf.
Penderfynwyd –
• Nodi’r wybodaeth a diolch i Kirsty Williams fel y Galluogydd Gweinidogaeth ar gyfer Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr Eglwys yng Nghymru am eu hawgrymiadau a,
• Gofyn iddi adolygu’r cynigion yng ngoleuni’r sylwadau a wnaed yn ystod y drafodaeth a ddilynodd.