Cyflwyno adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.
(Adroddiad Hwyr)
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad ar ran y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.
Dywedwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried ceisiadau oedd yn berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Gwneir y dyraniadau yn flynyddol o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r categorïau canlynol o brosiectau:-
· Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bychan)
· Grantiau Eraill (yn bennaf grantiau bychan unwaith yn unig)
Yn ei gyfarfod ar 24 Ebrill, 2014 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn i awdurdodi’r Pwyllgor hwn i gymeradwyo’r holl geisiadau a dderbyniwyd erbyn yr amser cau ac a oedd yn cydymffurfio â meini prawf cyllido’r Ymddiriedolaeth heb ragfarn i unrhyw benderfyniadau mewn blynyddoedd i ddod a bod rhan o’r gronfa gyfalaf yn cael ei defnyddio i’r pwrpas hwn pe bai angen hynny. Dywedodd yr Ysgrifennydd bod 5 cais wedi ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau am grant. Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn na ddylid ystyried y ceisiadau hyn.
Roedd y Swyddogion perthnasol o’r adrannau penodol wedi ystyried ac wedi blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd i’r graddau y gellid gwneud hynny ac yn gyson â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth, y meini prawf a sefydlwyd mewn blynyddoedd blaenorol ac o fewn swm y cyllid oed ar gael i bob dyraniad. Roedd argymhellion y Swyddogion i’w gweld yn Atodiadau A a B oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Roedd system gyfeirio ar y cyd wedi ei defnyddio ar gyfer y grantiau a roddwyd gerbron y pwyllgor hwn ac am geisiadau grant i Gronfa’r Eglwys yng Nghymru; bydd unrhyw fylchau yn y rhifau cyfeirnod wedi eu hachosi oherwydd i’r grantiau hynny gael eu rhoi ymlaen i Gronfa’r Eglwys yng Nghymru yn hytrach nag i’r Ymddiriedolaeth. Nodwyd bod y ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dyrannu Grantiau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol’ gyda chopi ohono ynghlwm fel Atodiad C i’r adroddiad.
Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf am 2014/15 fel a ganlyn:-
4. Digwyddiadau Carnifal Llanfairpwll |
Gwella safon yr ystafelloedd newid a chegin |
(NIL) (Nid y sefydliad yw perchennog yr adeilad ac nid oes ganddo brydles arno)
|
5. Canolfan Gymuned Brynsiencyn |
I uwchraddio’r system wresogi am un sy’n fwy ynni effeithlon a rhatach i’w redeg |
£1,844 (Yn amodol ar ymestyn eu prydles i 21 mlynedd neu fwy yn ystod y cwôt ariannol hwn)
|
6. Clwb Dinasyddion Hŷn Millbank |
Addasu tolied i’r anabl a thrwsio wal derfyn y tu allan
|
£6,000 (Hyd at 70% o’r cwôt isaf, uchafswm dyraniad fydd £6,000)
|
7. 2474 Cadetiaid Awyr (Cefni) |
Uwchraddio systemau cyfrifiadurol fel gall y cadetiaid astudio ac eistedd arholiadau ar y sylabws Cadetiaid Awyr, yn arwain at gymwysterau 4 BAETIWCH. Hefyd i wella’r profiad hedfan
|
£2,320
|
10. Cyfeillion Pentraeth
|
Creu ardal chwarae saff i’r gymuned leol |
(NIL) (Byddai’r ardal ar libart yr ysgol, ac nid yw felly’n gymwys i dderbyn cyllid)
|
11. Ffederasiwn Sefydliad y Merched Ynys Môn |
Uwchraddio’r neuadd yn Llanfairpwll (gorchudd rhag glaw i’r to) |
£2,520 (Neuadd Llanfairpwll yw cartref Sefydliad y Merched cyntaf ym Mhrydain a byddant yn dathlu eu can mlynedd yn 2015)
|
13. Parc Ffrindiau Pandy |
Llwybr a chylchfan i roi mynediad i gadair olwyn yn y lle chwarae |
(NIL) (Dim digon o wybodaeth gyda’r cais)
|
14. Clwb Rygbi Llangefni |
Prynu a gosod dugouts
|
(NIL) (Dim digon o wybodaeth gyda’r cais) |
16. Neuadd Eglwys Gymunedol Moelfre |
Uwchraddio’r system wresogi |
(NIL) (Dim yn gymwys oherwydd eu bod wedi derbyn)
|
18. Institiwt Pritchard Jones Cyf |
Gosod ffenestri newydd ym mwthyn rhif 4 |
(NIL) (Dim yn fath o gynllun y mae’r Ymddiriedolaeth wedi ei gefnogi o’r blaen)
|
19. Clwb Rygbi Porthaethwy |
Adeiladu ystafell ffitrwydd / storio offer |
£6,000 (Yn amodol ar iddynt ymestyn eu prydles i 21 mlynedd neu fwy yn ystod y flwyddyn ariannol hon)
|
20. Malltraeth Ymlaen Cyf |
I ddatblygu ardal chwarae yng nghymuned Bodorgan |
(NIL) (Dim yn gymwys oherwydd iddynt dderbyn grant yn 2012/2013)
|
22. Cymdeithas Chwaraeon Llanfairpwll |
Ystafelloedd Newid |
(NIL) (Dim digon o wybodaeth gyda’r cais)
|
23. Neuadd Gymuned Bryn Teg |
Uwchraddio’r ffenestri a’r drysau tân
|
£4,274
|
27. Cymdeithas Cae Cybi |
Gwelliannau i’r ardal chwarae |
70% o’r cwôt isaf, grant wedi’i chapio ar £3,720
|
28. Cyngor Cymuned Cwm Cadnant |
Gwaith trwsio allanol |
£6,000 (Cais i ail-rendro rhag i damprwydd ddod i mewn i’r eiddo sydd yn un Restredig Graddfa 2)
|
29. Canolfan Gymuned Llanfaes |
Gwelliannau i’r Ganolfan yn cynnwys ffenestri, dau ddrws a gwterydd |
£4,935 (Yn amodol ar adnewyddu’r brydles i 21 mlynedd neu fwy yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Y rhagamcan isaf a gyflwynwyd yw am £7,050)
|
30. Neuadd Bentref Talwrn |
Prynu offer, teledu Fawr, Chwaraewr DVD a System Gemau Cyfrifiadur i’r Ystafell Ysgol Feithrin ac OHP a Sgrin Fawr i’r Brif Neuadd. Ysgoldy’r Feithrinfa yw’r enw a roddwyd i’r ystafell a byddai defnydd cymunedol i’r offer
|
£1,284 |
32. Cymdeithasol Lenyddol Leinws |
Cyllid ar gyfer Siaradwyr / Darlithwyr |
(NIL) (Dim yn gymwys a’u cyfeirio at ffynonellau eraill o gyllid)
|
33. Canolfan Gymuned Moelfre |
Uwchraddio’r cyfleusterau i’r gymuned leol – y safle 5 bob ochr |
70% o’r cwôt isaf, y grant wedi’i chapio ar £4,756 (yn amodol ar dderbyn ail gwôt) |
34. Gwasanaeth Gwirfoddoli Arforol |
Prynu deunyddiau hyrwyddol, addysgol, i hyfforddi ac offer diogelwch ar gyfer rhaglen o hyfforddiant cymunedol am ddwy flynedd |
70% o’r cwôt isaf, y grant wedi’i chapio ar £2,850 (Wedi darparu dadansoddiad o’r costau ond angen cyflwyno rhagamcanion gan gyflenwyr)
|
38. Clwb Ieuenctid Newry |
I brynu offer chwarae i’r clwb |
70% o’r cwôt isaf, y grant wedi’i chapio ar £1,324 (Clwb ieuenctid Gwirfoddol i blant 5-11 oed. Yn amodol ar dderbyn ail gwôt)
|
39. Canol Llwyfan Boston |
Ail-beintio y tu allan i’r neuadd |
(NIL) (nid yw’r Ymddiriedolaeth yn rhoi grantiau tuag at ail-beintio)
|
40. Ysgol Parc y Bont – Cymdeithas Rhieni Athrawon |
Adeiladu llwybr coed a wal goed pêl-doed |
(NIL) (Mae’r caeau chwarae yn rhan o Ysgol Parc y Bont, ac felly nid ydyw'n gymwys i dderbyn cyllid)
|
41. Grŵp Rhwydwaith Cymru Dysgu Awyr Agored Ynys Môn |
I redeg 2 ddiwrnod addysgol a 2 ddiwrnod yng Ngŵyl Coedlan Ynys Môn |
(NIL) (Dim yn gais penodol ac felly ddim yn glir i beth y byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio)
|
45. Cae Chwarae Llangoed |
I brynu Ffrâm Ddringo |
(NIL) (Diffyg gwybodaeth yn y cais)
|
46. Canolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch |
Drysau newydd yn ffrynt yr adeilad |
(NIL) (Dim yn gymwys oherwydd iddynt dderbyn grant yn 2013/2014)
|
47. Neuadd Cymuned Benllech a Chyn-filwyr |
Uwchraddio a newid gwaith trydan y neuadd a gosod goleuni LED
|
£6,000
|
48. Clwb Cychod Cemaes |
Prynu RIB addas (cwch y gellir ei phwmpio) i’w defnyddio fel cwch diogelwch
|
£3,500
|
49. Pwyllgor Cae Chwarae Tregele |
Prynu offer chwarae |
£6,000 (Mae’r Pwyllgor wedi derbyn grantiau eraill o £24,000)
|
50. Cyngor Cymuned Llaneilian |
Wyneb diogelwch newydd yng nghaeau chwarae Penysarn
|
£2,923
|
52. Cae Chwarae Llanfaethlu |
Prynu seti a byrddau i’r parc |
£2,224 (Yr amcangyfrif rhataf a gyflwynwyd yw £3,177)
|
53. Menter Mechell |
I helpu i gyllido prynu’r hen Swyddfa Bost yn Llanfechell. Bydd yn cael ei adfer a’i addasu gan breswylwyr y pentref fel siop ym mherchnogaeth y gymuned a chanolfan gymdeithasol i’r gymuned
|
£6,000 (Mae’r grŵp wedi codi £123,000 tuag at brynu’r adeilad a byddai’r grant yn eu galluogi i bron iawn gyrraedd eu targed)
|
54. Cyngor Cymuned Kingsland |
Adnewyddu’r system gwres canolog |
£6,000 (Yn amodol ar dderbyn prawf o ddeiliadaeth)
|
55. Ffrindiau Parc y Gors |
Gwelliannau i’r cae chwarae |
70% o’r cwôt isaf, wedi’i gapio ar £6,000
|
56. Pwyllgor Cae Chwarae Bodffordd |
Trwsio’r wyneb diogelwch, ail-dywarchu ardal ar gyfer chwarae pêl-droed, seti newydd, goliau pren a bin sbwriel newydd
|
70% o’r cwôt isaf, wedi’i gapio ar £2,310 |
59. Cyngor Cymuned Tref Walchmai |
Adnewyddu a thrwsio cofeb/cloc y pentref |
£6,000 (Mae’r Cyngor Cymuned wedi sicrhau grantiau £16,922 o ffynonellau eraill. Gan nad oes ond un cwmni yn yr ardal hon sy’n gwneud gwaith o’r math hwn, nid ydynt ond yn gallu cyflwyno un dyfynbris)
|
60. Unigolyn Preifat |
Cyhoeddi llyfr o farddoniaeth |
NIL (Nid yw unigolion yn gymwys i dderbyn cyllid)
|
62. Clwb Pêl-droed Trearddur |
Fel y gall clwb pêl-droed cymunedol gweithredol barhau
|
(NIL) (Dim un cynllun penodol wedi ei nodi ar y cais a dim dyfynbrisiau wedi’u cyflwyno)
|
64. Cyngor Cymuned Bryngwran |
Ffensio newydd i ardal chwarae gymunedol |
£2,398 (Bwriad y Cyngor Cymuned yw newid yr hen ffens weiren gyda ffens newydd nid yn unig i wella’r cae chwarae ond i sicrhau diogelwch i’r ardal chwarae plant)
|
65. Cyngor Cymuned Penmynydd |
Meinciau i’w lleoli mewn gwahanol lefydd yn y gymuned i gerddwyr gael gorffwys ac i aelodau’r cyhoedd eu defnyddio
|
£945 |
67. Cyngor Cymuned Y Fali |
Darparu ystafell gymunedol/gyfarfod |
(NIL) (Wedi derbyn grant yn 2012/13)
|
68. Cymdeithas Rhandiroedd Bryn Du |
Prynu politwnel, offer garddio a ffensio er mwyn sefydlu grŵp tyfu llysiau
|
70% o’r cwôt isaf, wedi’i gapio ar £2,051 |
Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd i dderbyn grantiau bach 2014/2015 fel a ganlyn:-
|
||
15. Fforwm Anabledd Taran Cyf. |
I allu datblygu papur newydd llafar yn wythnosol ar CD i rhai a nam gweledol ym Môn a bydd hyn yn cynnwys cyrraedd pobl mewn lleoliadau gwledig. Byddai’r cyllid yn galluogi i’r gwasanaeth gael ei ddarparu am 12 mis gyda golwg ar ddod yn hunangynhaliol
|
£1,000 |
17. Ymgeisydd Unigol |
I helpu i gyllido’r rhent a threthi siop yng Nghaergybi gyda’r bwriad o werthu eitemau i godi arian i wahanol elusennau.
|
NIL (Nid yw unigolion yn gymwys i dderbyn cyllid grant) |
21. Pensiynwyr Llanfaethlu |
Fel y gall y grŵp gael gweithgareddau awyr agored h.y. tripiau dydd na allant fynd arnynt eu hunain. |
NIL (Byddai hyn yn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol ac yn lleihau unigedd. Foddbynnag nid yw’r cais yn darparu gwybodaeth ar sut y cafwyd y swm y gofynwyd amdano (dim dadansoddiad o amcanion cost) ac nid yw chwaith yn nodi’r deilliannau o unrhyw gyllid (dim gwybodaeth ar faint o dripiau / cyrchfanau posibl ac ati)
|
31. Yr Eglwys yng Ngymru – Plwyf Biwmares |
I wella profiad yr ymwelydd i’r saith eglwys ym Miwmares drwy ddarparu byrddau arddangos hanesyddol a chyhoeddi llyfryn
|
70% o’r costau gyda’r grant wedi’i chapio ar £1,000 |
35. Esgobaeth Bangor |
Cofnodiadau Archeolegol o Gladdfeydd Alabaster 14 Ganrif a darparu byrddau dehongli dwyieithog am y claddfeydd, hanes teulu’r Tuduriaid ac Eglwys St. Gredifael, Penmynydd
|
70% o’r costau gyda’r grant wedi’i chapio ar £1,000 |
44. Partneriaeth Gymunedol Porthyfelin |
Arian cyfatebol tuag at y prosiect CHIME (Community Heritage Initiative for Maritime Engagement)
|
70% o’r costau gyda’r grant wedi’i chapio ar £1,000 |
51. Cyngor Cymuned Llannerch-y-medd |
I osod cyflenwad dwr parhaol i’r fynwent yn Llannerch-y-medd |
(NIL)
|
58. Cyngor Tref Amlwch |
I ymestyn mynwent y dref |
(NIL) (Ni chyllidwyd gwaith ar fynwentydd o’r blaen) |
PENDERFYNWYD:-
· cymeradwyo’r symiau fel a nodwyd uchod (£x) [gyferbyn a’r symiau a argymhellwyd], gyda hynny ar raddfa grant o 70%.
· na fyddai’r ceisiadau hwyr a dderbyniwyd yn cael eu hystyried.
· Diolch i Swyddogion am eu gwaith caled yng nghyswllt y ceisiadau hyn.
Dangoswyd plac yn y cyfarfod, sef plac i gydnabod derbyn cefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Nododd yr Ysgrifennydd y byddai disgwyl i’r sefydliadau sy’n derbyn cefnogaeth ariannol arddangos y plac mewn cydnabyddiaeth o’r gefnogaeth a gawsant gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.
Dogfennau ategol: