Eitem Rhaglen

Adolygiad Strategol Anghenion Addysgol Ychwanegol a Chynhwysiad - Cyngor Gwynedd

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r adolygiad strategol o Anghenion Addysgol Ychwanegol a Chynhwysiad gan Gyngor Gwynedd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad er ystyriaeth y Cyd-Bwyllgor yn amlinellu gweledigaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer meysydd  Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad .

 

Adroddod Aelod Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd bod trawsnewid gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc yn enwedig rhai bregus, yn un o brif flaenoriaethau Cynllun Strategol y Cyngor. Bydd cynllunio o gwmpas anghenion plant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn ganolog i unrhyw gynlluniau fydd yn cael eu datblygu o’r newydd. Un o’r cynlluniau trawsnewidiol hynny yw’r Adolygiad Strategol Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad sy’n rhoi sylw i faes darpariaeth sy’n gymhleth, sensitif ac aml-asiantaeth. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg at amcan yr adolygiad a’r cyd-destun y’i cynhelir ynddo a hwnnw yn cynnwys newidiadau ar sail cenedlaethol megis y Papur Gwyn ac ar sail lleol megis y rhaglen ar gyfer adeiladu ysgol arbennig newydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn sir Gwynedd. Crybwyllodd yr Aelod Portffolio y math o ddeilliannau y byddid yn deisyfu  eu gwireddu drwy’r adolygiad ar gyfer yr  unigolion fel defnyddwyr y gwasanaethau ac ar gyfer yr awdurdodau fel darparwyr a chomisiynwyr ac fe soniodd am y broses ymgysylltu a’r casgliadau y bu i’r broses honno arwain atynt.

 

Ategodd Cyfarwyddwr Datblygu Cyngor Gwynedd y sylwadau ac fe ddywedodd bod y Gwasanaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol yn faes y buddsoddir bron i £15m arno yn flynyddol.Y bwriad  trwy gynnal adolygiad yw sicrhau’r deilliannau gorau i blant yr ardal y mae ganddynt anghenion dysgu ychwanegol fel eu bod yn cyflawni at eu llawn botensial. Edrychwyd ar y maes yn ei gyfanrwydd ac ar wasanaethau i blant a theuluoedd ac fe luniwyd cynigion cychwynnol gyda golwg ar  wella effeithiolrwydd y gwasanaeth a’i effeithlonrwydd er mwyn sicrhau  y ceir y gwerth gorau o’r adnoddau  a fuddsoddir ynddo. Mae’r rhaglen waith ar ddiwedd yr adroddiad yn crynhoi’r ffrydiau gwaith presennol o dan y prif benawdau canlyniad y deisyfir i’r adolygiad eu cyflawni. Ymhlith y tasgau a adnabyddwyd mae adolgu swyddogaeth y Cyd-Bwyllgor fel y corff y comisiynir darpariaeth ganddo ac yng ngoleuni’r  newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yn y maes. Bydd rhai o’r gweithgareddau yn y rhaglen waith yn gyffredin i’r ddau awdurdod.

 

Nododd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ynys Môn y meysydd hynny o fewn rhaglen waith yr Adolygiad Strategol yr oedd yr Awdurdod ym Môn yn cydsynio iddynt ac eisoes yn symud i’r un cyfeiriad ac fe amlygodd y gweithgaredd lle’r oedd ymagwedd Ynys Môn yn wahanol. Cytunodd bod angen bod yn fwy eglur o ran comisiynu gwasanaethau’r Cyd-Bwyllgor ond bod Ynys Môn yn gweld hynny’n digwydd trwy ehangu’r Cyd-Bwyllgor a chomisiynu’n galetach.

 

Dywedodd Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd bod yr adolygiad strategol wedi awgrymu bod yna le i ystyried cyfuno swyddogaeth rheolwr addysg a chynhwysiad yng Ngwynedd gyda rôl seicolegydd addysgol yn yr ystyr bod gan y swydd ddeilydd arbenigedd ym maes seicoleg addysg. Mae’r maes Anghenion Addysgol Ychwanegol yn un eang o ran y niferoedd a ddaw o fewn cwmpawd ei wasanaethau yng Nghwynedd a chredir  bod angen cefndir penodol i’r swydd  fel y gall roddi’r arweiniad priodol i’r gwasanaethau yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth  newydd a hefyd o ran gweithredu fel y prif swyddog comisiynu ar gyfer y Cyd-Bwyllgor.

 

Mynegwyd pryder gan gynrychiolaeth Ynys Môn ar y Cyd-Bwyllgor  o ystyried prinder seicolegwyr addysgol cymwys dwyieithog tu allan i sefydliad y Cyd-Bwyllgor,  y gellir diwallu’r gofyn hwn ond drwy dynnu ar yr arbenigeddau o fewn y Cyd-Bwyllgor a thrwy hynny o bosib, gwanio’r Cyd-Bwyllgor  a‘r ddarpariaeth ar draws y ddwy sir. Nodwyd y sefydlwyd y Cyd-Bwyllgor i oresgyn prinder arbenigeddau yn y maes yn lleol ac i gyd-weithio i  sicrhau pwll o arbenigeddau ar draws ystod anghenion addysgol arbennig ar gyfer y ddwy sir.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Cyngor Gwynedd bod yna wariant cyhoeddus sylweddol yn cefnogi’r Cyd-Bwyllgor a bod yna ofyn dangos y ceir y gwerth gorau o’r buddsoddiad hwnnw a’r deilliannau gorau i blant yn lleol. Mae angen monitro’r ddapariaeth a’r gwariant a gosod disgwyliadau clir ar waith y Cyd-Bwyllgor a’i ddiffinio’n well fel ei fod yn glir ynglyn â sut mae’n gwneud gwahaniaeth. Oherwydd y cyd-destun ariannol a’r wasgfa ar gyllid cyhoeddus ynghyd â’r disgwyliadau newydd, mae gofyn datblygu’r berthynas rhwng darparu a chomisiynu a’i wneud yn fwy pendant.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Ynys Môn bod yr Awdurdod ym Môn hefyd wedi adnabod y gofyn o ran tynhau ar brosesau ac ar drefn monitro’r Cyd-Bwyllgor o safbwynt cyfiawnhau’r gwariant arno a bod angen ail edrych ar y comisiwn a roddir i’r Cyd-Bwyllgor fel bod yna dynhau ar reolaeth rhai achosion. Fodd bynnag, gwêl Ynys Môn hynny’n digwydd trwy ehangu swyddogaeth y Cyd-Bwyllgor yn hytrach na thrwy swydd benodol. Byddid yn dymuno cael trafodaeth i ganfod a yw’n ymarferol cynnwys yr elfen hon o fewn gwaith y Cyd-Bwyllgor.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Cyngor Gwynedd mai un elfen o’r rhaglen drawsnewid yw rôl y Cyd-Bwyllgor a bod nifer o’r ffrydiau gwaith yn y rhaglen waith yn rhai y gellir cyd-weithio a chyd-gynllunio arnynt gydag Ynys Môn. Fel y ddau gleient mae’n bwysig bod yr awdurdodau’n cyd-weithio ar y brîff i’r Cyd-Bwyllgor.

 

Cytunodd y Cadeirydd bod yna le i drafod ymhellach a bod y Cyd-Bwyllgor yn gytun ynglyn â chael y deilliannau gorau i blant y ddwy sir.

 

Dygodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ynys Môn sylw’r  Cyd-Bwyllgor hefyd at y ffaith bod pob gwasanaeth ym Môn gan gynnwys y Gwasanaeth Addysg  wedi derbyn cais i adnabod arbedion hyd at 10% ar gyfer  2015/16 a bod cynigion i’r perwyl yn cael eu llunio a’u cyflwyno. Ymhlith yr opsiynau mae cwtogi ar gyllideb y Cyd-Bwyllgor. Dywedodd y Swyddog ei fod yn awyddus i godi ymwybyddiaeth y Cyd-Bwyllgor o’r posibilrwydd hwn ac i gael trafodaeth yn ei gylch.

 

Penderfynywd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

GWEITHREDU PELLACH:

 

           Cyfarwyddwr Datblygu Cyngor Gwynedd i adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor ar gynnydd mewn perthynas ag adolygu’r ffordd ymlaen ar gyfer anghenion addysgol arbennig a chynhwysiad yng nghyd-destun y trafodaethau pellach sydd i’w cynnal.

           Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ynys Môn i adrodd yn ôl ar yr sefyllfa gyllidol a’r arbedion y bydd gofyn eu gwneud.