Cyflwyno adroddiad y Prif Seicolegydd Addysgol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd er ystyriaeth y Cyd-Bwyllgor, adroddiad gan y Prif Seicolegydd Addysgol yn crynhoi’r prif newidiadau arfaethedig a gyflwynir gan Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru yn nghyswllt y ddeddfwriaeth sydd yn gosod allan y trefniadau ar gyfer diwallu plant a chanddynt anawsterau addysgol a’u hoblygiadau i’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a’i ffordd o weithredu.
Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysgol at y newidiadau mwyaf arwyddocaol fel a ganlyn –
• Egwyddorion – rhoddir pwyslais ar bwysigrwydd diwallu anghenion bob plentyn
• Terminoleg – cynigir defnyddio’r term, “Anghenion Dysgu Ychwanegol” yn lle “Anghenion Addysgol Arbennig”.
• Cydweithio a Gwrthdaro – cryfhau prosesau cyd-weithio fel bo llai o wrthdaro rhwng awdurdodau a defnyddwyr.
• Ymestyn Ystod Oed – cynigir bod y drefn yn cael ei hymestyn i gynnwys bob plentyn a pherson ifanc rhwng 0 a 25 oed y nodwyd bod ganddo/ganddi Anghenion Dysgu Ychwanegol ac sy’n derbyn neu’n dymuno derbyn addysg neu hyfforddiant. Rhoddir y cyfrifoldeb am hyn ar yr awdurdodau addysg lleol.
• Cynllun Datblygu Unigol i gymryd lle’r Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig i gynnwys plant sydd ar hyn o bryd yn dilyn Cynlluniau Addysg Unigol anstatudol o fewn yr ysgolion a chynlluniau ôl-16 sy’n golygu y gall y Cynllun Datblygu Unigol fod yn eang iawn a gall amrywio yn ôl oed, lleoliad a dwyster anghenion yr unigolyn.
• Côd Ymarfer Newydd - i’w gyhoeddi. Bydd yn darparu arweiniad ar weithredu’r newidiadau a bydd yn fandadol.
• Barn y Plant a’u rheini – rhaid ymgynghori gyda’r rhiant a’r plentyn ei hun a gwrando ar eu barn.
• Asiantaethau Eraill – mae’r pwyslais ar ymwneud yn gynnar ac ar rannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill.
• Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol i’w leoli ym mhob ysgol.
• Hawl apelio yn cael ei ymestyn i’r plant a phobl ifanc eu hunian a phobl ifanc oed 16 a mwy.
• Cost – gyda chynllunio manwl, barn y Llywodraeth yw na ddylai’r gyfundrefn newydd gostio mwy na’r un bresennol. Fodd bynnag, mae yna botensial am gostau uwch yn deillio o apeliadau ynglyn â phlant nad ydynt ar ddatganiad ac wrth greu trefn mwy cynhwysfawr ar gyfer datrys anghydfodau.
Adroddod y Prif Seicolegydd Addysgol ar y ffyrdd y bydd y Papur Gwyn yn debygol o effeithio ar y Cyd-Bwyllgor yn enwedig o du cynyddu’r llwyth gwaith yn sgîl ymestyn oedran y garfan o blant a phobl ag anghenion addysgol arbennig y bydd y Cyd-Bwyllgor yn gyfrifol am eu diwallu. Dywedodd mai’r newid mawr fydd y gofyn i weithio gyda cholegau addysg bellach nad oes gan y Cyd-Bwyllgor bresenoldeb ynddynt ar hyn o bryd. Rhagwelir y posibilrwydd y bydd angen cynyddu’r gweithlu o 20%, sy’n gyfystyr â hanner seicolegydd ac un a hanner athrawes deithiol arbenigol er mwyn cynnal y bobl ifanc yma. O du’r adrannau addysg bydd y ddau awdurdod addysg yn gyfrifol am fonitro cynlluniau addysg unigol llawer mwy o blant a phobl ifanc. Er fod gan y Cyd-Bwyllgor systemau i wneud hyn bydd ffurfioli cymorth cynhaliaeth ysgol a mwy ac ymestyn hyn i blant iau ac i fyfyrwyr coleg addysg bellach yn golygu mwy o waith swyddfa yn ymwneud â phrosesu ceisiadau a phenderfynu ar ddilysrwydd rhaglenni a darpariaethau. Gellir rhagweld cynnydd o 20% o leiaf yn yr amser y bydd ei angen ar dîm gweinyddol y Cyd-Bwyllgor sy’n cyfateb i oddeutu un person a hanner. At hynny, mae yna botensial i gynyddu’r nifer o achosion apêl neu o leiaf y nifer o achosion fydd yn mynd trwy’r system datrys anghytundebau.
Ystyriodd y Cyd-Bwyllgor y wybodaeth a bu i’r Aelodau fynegi pryder ynghylch yr effaith ar y Cyd-Bwyllgor, ei wasanaethau a’i weithlu o ymestyn ystod oed yr unigolion bydd gofyn cwrdd â’u hanghenion o blant ifanc iawn ar y naill begwn i bobl ifanc hyd at 25 oed ar y pegwn arall.
Dywedodd Pennaeth Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn bod i gynigion y Papur Gwyn oblygiadau sylweddol i wasanaethau lleol o safbwynt cynllunio, penderfynu, cyd-ddarparu ac ysgwyddo’r costau y rhagwelir y byddant yn fawr. Bydd gofyn arall-gyfeirio costau presennol yn y Gwasanaethau Oedolion. Fe all bydd y gofynion yn golygu cynyddu’r gweithlu yn fwy na’r un a hanner seicolgeydd ac un a hanner athrawes arbenigol y rhagamcanir. Mae yna hefyd oblygiadau o ail-alinio cyllidebau lleol i gyfarfod â’r gofynion.
Dywedodd Uwch Reolwr Cyllid Cyngor Gwynedd os rhagwelir y bydd y costau gymaint yn uwch ar ôl i’r Papur Gwyn ddod i rym y flwyddyn nesaf yna bydd angen cynnal gwaith i asesu hynny gan y bydd cynghorau Gwynedd a Môn yn dymuno gwybod maint yr ymrwymiadau ariannol ychwanegol y bydd gofynion y Papur Gwyn yn eu rhoi arnynt yn y flwyddyn gyllidol i ddod.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.
DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI
Dogfennau ategol: