Eitem Rhaglen

Strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad

Cyflwyno adroddiad ynglyn â’r uchod.

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd yn ymgorffori Strategaeth ddrafft y Cyngor ar gyfer trawsnewid y maes Anghenion Dysgu Ychwanegol er mwyn cyflawni’r deilliannau canlynol gogyfer y plant a’r bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

 

           Bod plant yn derbyn y math cywir o gefnogaeth ac ymyrraeth yn y blynyddoedd cynnar

           Bod plant yn cael y profiadau addysgol gorau posibl, ac yn sgîl hynny, yn cyflawni eu potensial ac yn cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd

           Bod plant yn derbyn gwasanaeth o ansawdd gan dimau aml-ddisgyblaethol ac aml-asiantaethol ar draws Gwynedd, sy’n cyd-weithio, cyd-gynllunio ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth eglur i rieni bob plenty.

           Bod plant yn derbyn eu haddysg mewn amhylchedd dysgu ac ansawdd uchel (yn enwedig y plant efo anghenion dwys a chymhleth) a bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud o ddatblygiad newydd y Ganolfan Rhagoriaeth ADY.

 

Adroddodd Aelod Portffolio Addysg Cyngor Gwynedd mai ffrwyth adolygiad o’r maes ADY cyfan yw’r strategaeth ddrafft a gyflwynir. Bydd y strategaeth yn destun ymgynghori yn y cyfnod o 19 Ioanwr tan ddiwedd  Chwefror, 2015 cyn iddi gael ei chyflwyno’n derfynol i’r Cyd-Bwyllgor a wedyn Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystod Ebrill, 2015. Bu sawl ffactor yn ysgogiad i lunio’r strategaeth yn cynnwys newidiadau deddfwriaethol; y dymuniad i roi mwy o sylw i blant yn eu blynyddoedd cynnar a sicrhau ynmyrraeth briodol yn gynt ; y rhaglen ar gyfer datblygu’r Ganolfan Rhagoriaeth yng Ngwynedd a’r angen i wneud y mwyaf a’r defnydd gorau o adnoddau prin. Y desiyfiad yw tynnu’r holl agweddau o ddarpariaeth ADY ynghyd mewn tîm integredig.

 

Ategodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd y sylwadau uchod ac fe fanylodd ar y rhesymau tu cefn i’r adolygiad a’r hyn y bwriedir ei gyflawni trwy ei weithredu o ran creu gwasanaeth sy’n effeithiol ac yn effeithlon ac un sy’n ymateb yn briodol ac yn amserol i anghenion plant a phobl ifanc yng Ngwynedd.

 

Rhoddodd Uwch Gyflenwr Trawsnewid Gwasanaethau ADY a Chynhwysiad Cyngor Gwynedd gyflwyniad gweledol oedd yn ymhelaethu ar y camau unigol y byddir yn eu cymryd i  wireddu’r pedwar amcan/deilliant allweddol a nodir uchod.

 

Dywedodd  Prif Seicolegydd Addysgol y Cyd-Bwyllgor ei fod yn siomedig gyda’r cynnig yn y Strategaeth i ddad-gomisiynu’r Cyd-Bwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig yn enwedig o ran sicrhau eglurder mewn perthynas â chyfrifoldebau ac atebolrwydd; teimlai bod hynny’n bosib o fewn strwythur y Cyd-Bwyllgor a’i fod eisoes yn gweithredu fel canolfan arbenigol i’r ddwy sir.

 

Mynegwyd siomedigaeth o du cynrychiolwyr Ynys Môn hefyd na chafwyd y cyfle i  siapio’r strategaeth ar sail cyd-gynllunio fel partneriaid. Nodwyd bod Adroddiad Williams yn annog cyd-weithio rhwng awdurdodau ar raddfa ehangach, sef yr hyn mae’r Cyd-Bwyllgor wedi bod yn ei gyflawni’n adeiladol ers ei sefydlu. Awgrymwyd bod yma wanhau’r bartneriaeth trwy fod Cyngor Gwynedd yn gosod allan ei weledigaeth ei hun ar gyfer y ddarpariaeth o fewn y sir honno yn benodol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Ynys Môn bod y Strategaeth yn cynnwys syniadau cychwynnol y mae angen eu hystyried o ran eu heffaith ar Ynys Môn ac er mwyn canfod ffordd ymlaen. Mae’r egwyddorion y mae’r ddwy sir yn eu coleddu ar gyfer y maes yn gyffredin yn yr ystyr bod y ddwy sir yn awyddus i sicrhau’r profiadau a’r deilliannau gorau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Amlygwyd safbwynt Ynys Môn yn y cyfarfod blaenorol, sef na ddymunai weld diddymu’r Cyd-Bwyllgor ond yn hytrach tynhau ar ei waith trwy gyfrwng Cytundeb Lefel Gwasanaeth grymusach a mwy manwl. Er bod y farn hon yn parhau, byddid yn dymuno edrych ar y cynigion sydd yn y Strategaeth ddrafft gan Gyngor Gwynedd i chwilio am dir sy’n gyffredin  er mwyn symud ymlaen. Sefydlwyd y Cyd-Bwyllgor yn 1996 fel peirianwaith ar gyfer cyd-weithio ar lefel eang yn y maes ac er mwyn rhannu arbenigeddau dwyieithog prin ym maes anghenion addysgol arbennig. O ddidoli’r cyswllt mae yna berygl bydd y ddau awdurdod yn cystadlu am yr un staff. O ran Ynys Môn, mae’r ymrwymiad i geisio cyd-weithio yn parhau ond bod hynny yn digwydd i bwrpas. I’r perwyl hynny cytunwyd i gynnal cyfarfod pellach i ganfod pa elfennau o weledigaeth y Strategaeth mae’r ddwy sir yn eu rhannu a sut bydd hynny o fantais i Ynys Môn.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd codwyd y pwyntiau cyffredinol canlynol

 

           Bod yna dderbyn yr egwyddorion sylfaenol tu cefn i’r strategaeth parthed cael y canlyniadau gorau i blant ag anghenion addysgol ychwanegol a gwneud hynny mewn ffordd effeithiol ac effeithlon. Fodd bynnag, mynegwyd amheuaeth ynglyn â chost ei weithredu yn enwedig yng nghyswllt ymrwymiadau’r ddogfen e.e. y buddsoddiadau mewn dwysáu’r ddarpariaeth yn y blynyddoedd cynnar  ac uwch sgilio staff. Nodwyd nad oedd yna dystiolaeth amlwg o le byddid yn canfod yr arbedion.

           Nad oedd y ddogfen yn glir o ran trefniadau llywodraethu’r gyfundrefn newydd ac a fyddai hynny yn digwydd ar sail y ddwy sir ar wahân.

           Bod yna bryder y gallai’r ddau awdurdod gael eu hunain mewn sefyllfa o fod yn cystadlu am   staff arbenigol a bydd yna chwalu’r tîm presennol a’r arbenigeddau sydd ynddo.

           Tra’n croesawu o du Gwynedd, y cysyniad o gael un pwynt canolog , mynegwyd pryder y byddai yna bwysau ychwanegol ar ysgolion a disgwyliadau ar y ddarpariaeth feithrin heb fod yna fuddsoddi yn y ddarpariaeth honno fyddai yn ei dro yn ei gwneud yn anodd i ddal plant ag anghenion arbennig yn gynt fel yw’r dymuniad yn y strategaeth.

           Gofynnwyd a fyddai’r drefn newydd yn gwella’r berthynas gyda’r Gwasanaeth Iechyd a sicrhau mewnbwn cynt ganddynt.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwynedd nad oedd y strategaeth mewn unrhyw ffordd yn feirniadaeth ar effeithiolrwydd y Cyd-Bwyllgor ond yn hytrach yn ceisio adeiladu ar gryfderau’r endid hwnnw trwy sefydlu tîm canolog aml-asiantaethol ac aml-ddisgybledig. Mae’r adolygiad yn un bwriadus a systematig o’r maes cyfan ac yn un sydd wedi’i gynllunio’n ofalus. Cydnabyddir y bydd yna gostau ynghlwm wrth rai o’r cynigion ond mae Cyngor Gwynedd yn dymuno buddsoddi ar sail unwaith ac am byth er mwyn gweithredu elfennau o’r strategaeth e.e. hyfforddi staff ac uwch sgilio’r gweithlu. Mae rhai o’r cynigion hefyd yn golygu newid  ac addasu’r ffordd y defnyddir adnoddau fel eu bod yn adlewyrchu blaenoriaethau’r Cyngor yn well megis trwy dargedu’r blynyddoedd cynnar. Amcangyfrifir y bydd gweithredu cynigion y Strategaeth yn arwain at arbedion blynyddol parhaol o £1.1m erbyn 2021/22, a bydd elfen o’r arbedion hynny yn dod o gyfraniad Cyngor Gwynedd i’r Cyd-Bwyllgor. Dywedodd y Swyddog bod cyfle i gyflwyno sylwadau pellach ar y ddogfen yn ystod y cyfnod ymgynghori pe dymunir gwneud hynny.

 

Penderfynwyd nodi Strategaeth ddrafft Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad a nodi hefyd y bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal rhwng y ddwy sir yn ei chylch.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI.