Eitem Rhaglen

Gweinyddu yr Ymddiriedolaeth Elusennol

Derbyn arweiniad gan Mr. Philip Health, Weightmans LLP mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr. Phillip Heath, Weightmans LLP i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd yr Ysgrifennydd adroddiad cefndirol i’r cyfarfod ar y rhesymau pam fod Mr. Heath wedi’i wahodd i annerch y cyfarfod. Nododd bod gan Aelodau’r Ymddiriedolaeth bryderon ynglŷn â gweinyddu’r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol ac ynglŷn â diogelu asedau’r Ymddiriedolaeth er budd preswylwyr Ynys Môn.

 

Rhoddodd Mr. Phillip Heath amlinelliad o’r materion y bydd angen cael eglurder arnynt er mwyn diogelu asedau’r Ymddiriedolaeth:-

 

Roedd Gweithred wreiddiol yr Ymddiriedolaeth yn dyddio o 1990 ac mae’n cyfeirio at Ynys Môn felBwrdeistref’ ac o fewn termau diffinio’r ddogfen mae’n diffinio’r Ymddiriedolwyr fel y ‘Cyngor’ ac unrhyw bersonau eraill sy’n dal swydd fel Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth. Yn 1996 fe wnaedGweithred Amrywiogyda’r awdurdod lleol yn cysylltu â’r Comisiwn Elusennol i ddweud mai’r awdurdod lleol erbyn hyn oedd Cyngor Sir Ynys Môn. Fodd bynnag mae’n ymddangos ar wefan y Comisiwn Elusennol nad ydynt wedi diwygio eu dogfennau. Mae’rardal sydd yn elwayn cael ei nodi felBwrdeistref Ynys Môn’ ar wefan y Comisiwn Elusennol.

 

Pe bai yna newid yn y dyfodol yn strwythur llywodraeth leol byddai unrhyw Aelod o’r Cyngor hwnnw yn dod yn Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth boed ef/hi yn byw neu’n cynrychioli pobl ar yr ynys a’i peidio. Roedd Mr. Heath o’r farn y dylai’r Ymddiredolaeth bresennol ystyried mynd i gyswllt â’r Comisiwn Elusennol i gyflwyno Gweithred Amrywio i ddileu’r cyfeiriad at y ‘Cyngor’ a sicrhau mai’r ardal i elwa fyddai Ynys Môn yn hytrach na’rBwrdeistrefneu’rCyngor’.

 

Dylid hefyd ystyried yr amcanion elusennol er mwyn eu diwygio i fod er budd cyffredinol rhai oedd yn byw ar Ynys Môn.

 

Roedd Aelodau’r Ymddiredolaeth Elusennol yn unfrydol yn eu dymuniad i Mr. Heath weithredu ar ran yr Ymddiredolaeth drwy gysylltu â’r Comisiwn Elusennol ynglŷn â’r materion a nodwyd uchod.

 

Wedi hynny rhoddodd Mr. Health amlinelliad o faterion yn ymwneud â gweinyddu’r Ymddiredolaeth Elusennol. Fe allai’r Comisiwn Elusennol ystyried bod y gwahaniad mewn diddordeb rhwng y Cyngor a’r Ymddiredolaeth Elusennol yn cyfateb i wrthdaro o ran diddordeb. Roedd angen i’r Ymddiriedolwyr ystyried fel a ganlyn:-

 

Datgan bod y Cyngor yn darparu cefnogaeth weinyddol i’r Ymddiredolaeth. Byddai angen ymchwilio i gost y gefnogaeth ac adrodd yn ôl ar hynny i’r Ymddiredolaeth;

• Bod yr Ymddiredolaeth yn sefydlu ei Ysgrifenydd/ion ei hun i ddarparu cefnogaeth i’r Ymddiredolaeth;

Allanoli gweinyddiaeth yr Ymddiredolaeth i sefydliad allanol.

 

Gofynnodd Aelodau’r Ymddiredolaeth Elusennol am i adroddiad gael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Ymddiredolaeth yn rhoi amlinelliad o’r costau a hefyd risgiau’r 3 opsiwn uchod.

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd bod cwestiynau wedi’u codi yn y cyfarfod diwethaf o’r Ymddiriedolaeth ynglŷn â chymhwyster Amlwch i allu cyflwyno ceisiadau am gyllid gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Nododd fod Amlwch wedi derbyn etifeddiaeth ariannol gan Shell UK pan fu i’r cwmni adael yr ardal a chredir bod Cyngor Tref Amlwch wedi sefydlu grŵp i ddosbarthu grantiau wedi hynny er budd ardal Amlwch ar y cyfnod arbennig hwnnw. Roedd aelodau’r Ymddiriedolaeth yn gefnogol iawn i Amlwch gael ei ystyried fel unrhyw ardal arall ar yr Ynys i bwrpasau cyflwyno ceisiadau am gyllid grant gan yr Ymddiriedolaeth. Fodd bynnag, roeddent yn credu y dylid casglu gwybodaeth ynglŷn â’r sefydliadau oedd wedi elwa a bod angen cael mantolenni gan Gyngor Tref Amlwch cyn y gallai’r Ymddiredolaeth Elusennol lawn wneud penderfyniad ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:-

 

Gofyn i Mr. Heath gysylltu â’r Comisiwn Elusennol yng nghyswllt y gofynion yn y Weithred Amrywio fel a nodwyd uchod.

 

Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno gan yr Ysgrifennydd a Mr. Heath ar y costau a hefyd y risgiau oedd ynglŷn â gweinyddiaeth yr Ymddiredolaeth Elusennol yn y dyfodol.

 

Gwneud cais i’r Ysgrifennydd gysylltu â Chyngor Tref Amlwch am wybodaeth ynglŷn â mantolen a gwybodaeth am y rhai a fu’n elwa oddi wrth etifeddiaeth Shell UK i’r dref a bod adroddiad yn cael ei gyflwyno wedi hynny i’r cyfarfod nesaf o’r Ymddiredolaeth Elusennol llawn.