Eitem Rhaglen

Cyllideb 2015/16

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro mewn perthynas â’r Alldro Dros Dro 2014/15 a Chyllideb 2015/16.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol a Thrawsnewid) bod angen i’r adroddiad gadarnhau dyraniadau cyllid ar gyfer 2015/16 ac i ddirprwyo’r pwerau cyllido i gyfleusterau cymunedol a chwaraeon a grantiau bychan i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol. Roedd y ffigurau o fewn yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcan o’r alldro ar gyfer 2014/15. Roedd yr alldro a ragamcenir am 2014/15 yn golygu y byddai arian refeniw wrth gefn ar 31 Mawrth 2015 yn dangos dyled o £25k. Gyda’r twf a ragamcenir mewn incwm buddsoddi, a chan dybio lleihad yng nghyllid Oriel Ynys Môn i £200k, a dychweliad cyllideb 2013/14 (£50k) a ddirprwywyd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol, rhagamcenir y bydd yr arian refeniw wrth gefn yn cynyddu i sefyllfa o warged o £7k yn 2015/16.

 

Y gyllideb grantiau sy’n cael ei hargymell ar gyfer 2015/16 yw:-

 

Oriel Ynys Môn £200k

Neuaddau Pentrefi £80k

Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan £50k (y pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gael awdurdod dirprwyedig i wneud y dyraniadau grant hyn).

 

Roedd sut yr oedd yr alldro dros dro a’r arian wrth gefn refeniw am 2014/15 yn gwahaniaethu oddi wrth y strategaeth a’r gyllideb wedi’i amlinellu yn yr adroddiad.

 

Cynigiwyd hefyd bod yr hysbyseb ar gyfer y grantiau blynyddol sydd i’w dyrannu gan y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol yn cael eu gosod ganol fis Chwefror 2015, gydag amser cau o ganol mis Mai 2015 ar gyfer cyflwyno ceisiadau.

 

Rhai materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

Mynegwyd pryderon bod yr argymhelliad o fewn yr adroddiad i ostwng y cyllid i Gyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan o £100k i £50k yn annerbyniol gan y bydd yn cael effaith ar sefydliadau bychan;

 

Roedd yr Aelodau o’r farn y dylai’r cyfyngiad grant ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan gael ei godi o £6k i £8k;

 

· Roedd rhai o aelodau'r Ymddiriedolaeth yn bryderus bod y cyllid i Oriel Ynys Môn i’w dorri. Dywedodd yr Ysgrifennydd bod penderfyniad i leihau dibyniaeth Oriel Ynys Môn ar gyllid gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi ei wneud ychydig flynyddoedd yn ôl gyda lleihad blynyddol fesul cam. Holodd Aelodau eraill a oedd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn gweithredu’n gywir yn gyfreithiol wrth gefnogi’r Oriel. Dywedodd yr Ysgrifennydd bod arian yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi’i ddefnyddio i sefydlu’r Oriel ac i dalu costau ei rhedeg dros y blynyddoedd. Bydd cyfrifon yr Ymddiriedolaeth yn cael eu hanfon yn flynyddol i’r Comisiwn Elusennol ac nid oedd unrhyw her wedi ei derbyn erioed.

 

PENDERFYNWYD:-

I fabwysiadu cyllideb ar gyfer 2015/16 fel a ganlyn:-

 

Oriel Ynys Môn £215k

Neuaddau Pentrefi £80k

Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan £125k

 

I ddirprwyo’r swm o £125k i’r Pwyllgor Grantiau cyffredinol ar gyfer delio â cheisiadau.

Bod uchafswm y grant yng nghyswllt Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan yn cael ei godi o £6k i £8k.

Dogfennau ategol: