Eitem Rhaglen

Materion yn Codi

·        Kirsty Williams, Yr Eglwys yng Nghymru i adrodd yn ôl mewn perthynas â’r Eglwys yng Nghymru yn cefnogi ysgolion ym Môn.

 

·        Ymgynghorydd Her GwE i adrodd yn ôl ar yr adolygiad o’r Cwricwlwm (Araith y Gweinidog Addysg ynghlwm)

 

·        Ymgynghorydd Her GwE i adrodd yn ôl ar Gynllun Gweithredu’r CYSAG (Ynghlwm)

 

 

 

 

 

Cofnodion:

3.1       Cafodd aelodau’r CYSAG ragor o wybodaeth gan Kirsty Williams o’r Eglwys yng Nghymru ynghylch bwriadau’r Eglwys mewn perthynas â chynnig cymorth sy’n gysylltiedig ag Addysg Grefyddol ar gyfer ysgolion yn dilyn cynnig a wnaed yn wreiddiol i’r cyfarfod o’r CYSAG a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2014.

 

Cyfeiriodd Miss Williams at lythyr yr oedd bwriad i’w anfon at ysgolion uwchradd yr Ynys i ofyn iddynt pa gymorth y maent yn ei gael gyda dysgu Addysg Grefyddol a sut fath o gymorth fyddai’n ddefnyddiol iddynt.  Dywedodd fod gan yr Eglwys swyddog sy'n ymweld ag ysgolion uwchradd i ddarparu rhywfaint o Addysg Grefyddol o enwad Cristnogol ond ei fod yn cyfuno’r swyddogaeth honno gydag addysg chwaraeon fel Cristion hefyd.  Mae prosiectau yn digwydd yn y sector cynradd gan gynnwys y prosiect Llyfr Agored sy'n cyflwyno Addysg Grefyddol trwy ddrama.  Esboniodd Miss Williams fod gan yr Eglwys yng Nghymru fwy o berthynas un i un gydag ysgolion cynradd ac er y bwriedir i’r llythyr fynd at yr ysgolion cynradd hefyd byddai’n well ganddi, oherwydd y berthynas gyfredol gyda nhw, pe cysylltid â nhw ar sail un i un i geisio sefydlu pa gymorth ychwanegol y byddent yn dymuno ei gael.  Cyfeiriodd at ddau brosiect arall yr oedd yr Eglwys yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd gyda disgyblion Blwyddyn 6 - roedd un yn cynnwys sioe deithiol y gall disgyblion Blwyddyn 6 ei mynychu gyda thiwtoriaid cyswllt Blwyddyn 7 i'w cynorthwyo gyda’r pontio i’r ysgol uwchradd a’r llall yn brosiect lle cydweithir gyda sefydliadau eraill i ysgrifennu cwricwlwm blwyddyn o hyd ar symud ymlaen fel thema AG mewn ysgolion cynradd.

Er bod y CYSAG yn croesawu argaeledd yr adnodd gan yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer ysgolion, pwysleisiodd mai mater i’r ysgolion yn lleol yw penderfynu a fyddent yn manteisio ar gynnig yr Eglwys o gymorth ai peidio.  Awgrymwyd a chytunwyd y dylid cynnwys yr ohebiaeth i ysgolion y cyfeiriwyd ati gan Miss Williams fel eitem er gwybodaeth ar raglen cyfarfod nesaf y CYSAG.

 

Cytunwyd i nodi’r wybodaeth.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI:   Swyddog Pwyllgor i gynnwys gohebiaeth yr Eglwys yng Nghymru i ysgolion ar y mater cymorth fel eitem er gwybodaeth ar raglen cyfarfod nesaf y CYSAG.

 

3.2       Adroddodd Miss Bethan James, Ymgynghorydd Her GwE  fel a ganlyn mewn perthynas â’r adolygiad o’r Cwricwlwm:

 

           Bod y Datganiad a wnaed gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru ac yr oedd copi ohono wedi ei ddarparu ar gyfer aelodau'r CYSAG, yn cyfeirio at drawsnewid datblygiad proffesiynol i hwyluso cyflawni’r cwricwlwm newydd a safonau uwch o fewn y dosbarth.  Fodd bynnag, ni fydd Llywodraeth Cymru o angenrheidrwydd yn darparu hyfforddiant ar gyfer Athrawon AG oherwydd nad yw'n bwnc cwricwlwm cenedlaethol ac efallai y bydd yn rhaid rhoi sylw i ffyrdd eraill o ddarparu cymorth ar gyfer disgyblion AG yn lleol.  Mae NAPFfRE eisoes wedi trafod nifer o fodelau y gellid eu mabwysiadu ac mae’r gwaith hwnnw’n parhau.

           Bod y Datganiad yn crybwyll ei bod yn amserol caeltrafodaeth fawrarall yn y byd addysg yng Nghymru ynghylch newid y cwricwlwm.  Mae'r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol yn ddiweddarach o gryn dipyn na’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pynciau eraill ac felly mae’n fwy cyfredol.  Y cyngor proffesiynol yw y dylid adolygu’r cwricwlwm bob 5 mlynedd fel ei fod yn adlewyrchu datblygiadau a'r gymdeithas y mae disgyblion yn byw ynddi.  Mae'r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol cyfredol yn rhoi pwyslais ar sgiliau AG a dealltwriaeth o gysyniadau a themâu - o gymharu â phynciau cwricwlwm eraill, mae’r Fframwaith AG yn ddrafft cyntaf ac mae angen gwneud mwy o waith o ran diffinio sgiliau AG.  Gobeithir y bydd modd datblygu Maes Llafur Cytûn Lleol yn Ynys Môn sy'n adlewyrchu’r Cwricwlwm ac sy’n ymatebol i anghenion disgyblion.

           Mae'r Datganiad yn dweud bod tystiolaeth ryngwladol yn glir nad yw safonau uwch yn cael eu cyflawni o angenrheidrwydd trwy wario mwy, gan olygu y bydd disgwyliadau uwch ar athrawon ac ysgolion i fabwysiadu’r Cwricwlwm ar sail sgiliau, dysgu a phedagogiaeth yn hytrach na thrwy adnoddau ychwanegol.

           Mae Adolygiad yr Athro Graham Donaldson o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a’r trefniadau asesu yng Nghymru a gyhoeddir ar 25 Chwefror wedi esgor ar nifer o ymatebion gyda rhai ohonynt yn cefnogi AG ar y Cwricwlwm ysgol ac eraill yn erbyn.  Bydd rownd arall o ymgynghori ar yr adroddiad a gyhoeddwyd.

 

Rhoddodd y CYSAG sylw i’r wybodaeth ac ystyriodd hefyd, gan ddibynnu ar yr amser a neilltuir ar gyfer yr ymgynghoriad diweddaraf, a fyddai angen efallai gynnull cyfarfod arbennig o'r CYSAG i ymateb i'r adroddiad Adolygiad Donaldson o gofio nad oes cyfarfod arall o’r pwyllgor wedi ei drefnu tan fis Mehefin.  Cytunwyd i wneud hynny os byddai angen.

 

Cytunwyd i nodi’r wybodaeth ac, os oes angen, i gynnal cyfarfod arbennig o’r CYSAG i ymateb i’r adroddiad Donaldson.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

3.3       Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd ei fod wedi ysgrifennu, yn unol â dymuniadau’r CYSAG, at yr holl ysgolion y rhoddwyd sylw i’w hadroddiadau hunanwerthuso yn y cyfarfod diwethaf er mwyn cydnabod yr adroddiadau ac i ddiolch iddynt am y wybodaeth.

 

3.4       Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd fod yr Awdurdod Addysg Lleol wedi adnewyddu tanysgrifiad y CYSAG i Gymdeithas CYSAGau Cymru ar gyfer 2014 am ffi o £422.

Dogfennau ategol: