Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  12C49P/DEL – Casita, Biwmares

7.2  15C30H/FR – Pen y Bont Farm, Malltraeth

7.3  18C225B – Bron Castell, Llanfairynghornwy

7.4  33C190Q/VAR – Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen

7.5  34C304K/1/EIA/ECON – Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Llangefni

7.6  47C153 – Plas Newydd, Llanddeusant

7.7  47C154 – Plas Newydd, Llanddeusant

Cofnodion:

7.1       12C49P/DEL - Cais o dan Adran 73 i dynnu amod (09) (cyfyngu oedran y preswylydd) o ganiatâd cynllunio rhif 12C49M/VAR (codi 35 o fflatiau preswyl) yn Casita, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2017 fe benderfynodd y Pwyllgor wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. Mae’r cais yn cael ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfnod statudol o fis ar gyfer “cnoi cil”.   

Nododd yr Arweinydd Tîm Datblygiadau Cynllunio y gwrthodwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Ebrill 2017 gan na ystyriwyd fod y cynnig yn bodloni anghenion yr ardal leol, a bod angen tai o’r math hwn er mwyn bodloni anghenion pobl hŷn. Roedd adroddiad ysgrifenedig pellach y Swyddog yn cyfeirio at y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor am wrthod y cais. Yn ychwanegol at hynny, roedd gohebiaeth wedi’i chyflwyno gan asiant yr ymgeisydd yn nodi, ers cwymp y farchnad dai yn 2008, bod prynwyr posibl wedi bod yn amharod i brynu eiddo sydd ag unrhyw fath o gyfyngiadau oherwydd y goblygiadau wrth ail-werthu sydd felly yn codi amheuon am ddichonoldeb y prosiect. Mae’n rhaid i’r amod hefyd fodloni’r prawf yn y ddeddfwriaeth gynllunio o ran ei fod yn angenrheidiol, yn rhywbeth y gellir ei orfodi a’i fod yn fanwl gywir; rhaid gallu dangos bod rhesymau cynllunio dros osod cyfyngiad ar oedran y preswylwyr. Dywedodd y Swyddog, yn dilyn ymgynghori â’r Adran Dai, y cadarnhawyd nad oes unrhyw wir angen yn lleol am dai â chyfyngiad oedran ar gyfer preswylwyr dros 55 oed. 

    

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cynnal ymweliad safle ar y sail nad yw hwn yn ddatblygiad arferol.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio na fyddai ymweliad safle yn debygol o gynorthwyo’r Pwyllgor gan nad yw hwn yn ddatblygiad newydd ond yn gais i gael gwared ar amod penodol ar ganiatâd cynllunio sydd eisoes wedi’i roi ar gyfer codi 35 o fflatiau preswyl. Cefnogodd y Swyddog Cyfreithiol sylwadau’r Swyddog a chynghorodd na fyddai ymweliad safle yn cynorthwyo yn yr achos hwn. O ganlyniad, tynnodd y Cynghorydd Lewis Davies ei gais am ymweliad safle yn ôl. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau hynny a oedd yn erbyn y cais at y ffaith bod nifer sylweddol o bobl dros 55 oed yn byw yn yr ardal ac roeddent yn bryderus, heb y cyfyngiad oedran, y gallai’r safle gael ei ddatblygu mewn ffordd wahanol iawn i’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol ac na fyddai modd i’r boblogaeth leol fforddio eu prynu. Mae safle’r cais mewn ardal hynod ddeniadol sydd â photensial sylweddol y gallai’r datblygwr efallai geisio manteisio arno. Tynnwyd sylw at y ffaith hefyd fod y farchnad dai wedi gwella er 2008 a bod Ynys Môn yn ardal lle mae prisiau eiddo wedi cynyddu.

  

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio fod angen ystyried a oes rhesymau cynllunio dilys dros gadw’r cyfyngiad oedran dros 55 oed. Mae’r safle o fewn ffin anheddiad Biwmares fel y’i nodir yn y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. O ganlyniad, mae’r egwyddor o ddatblygu’n cael ei dderbyn. Nid oes cyfeiriad mewn unrhyw bolisïau Cynlluniau Datblygu at gyfyngu datblygiadau preswyl derbyniol i bobl o oedran penodol. O ganlyniad, nid oes gofyniad cynllunio dros osod amod o’r fath. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i wrthod y cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans. Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts. Yn y bleidlais a ddilynodd, cadarnhawyd y cynnig i wrthod y cais o bum pleidlais i dair ac ymataliodd y Cynghorydd John Griffith ei bleidlais.    

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y pwyllgor i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

7.2       15C30H/FR - Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn ymestyn y maes carafanau presennol i leoli 14 o garafanau symudol ychwanegol ynghyd â gosod tanc septig ar dir yn Pen y Bont Farm, Touring and Camping, Malltraeth.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2016, penderfynodd y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 16 Tachwedd, 2016. Yn ei gyfarfod ar 7 Rhagfyr, 2016, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd yn ystod y drafodaeth ar y cais hwn er mwyn siarad fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr hysbyswyd y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 4 Ionawr, 2017, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i ohirio’r cais tra ei fod yn ystyried a ddylid galw’r cais i mewn ar gyfer ei benderfynu gan Weinidogion Cymru ai peidio. Hysbyswyd y Pwyllgor bod modd iddo un ai ohirio’r cais neu ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Penderfynodd y Pwyllgor ohirio’r cais nes y byddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid galw’r cais i mewn ai pheidio. Cafodd y mater ei ohirio unwaith eto gan y Pwyllgor yn ei gyfarfodydd a gynhaliwyd ym mis Chwefror, mis Mawrth ac ar 5 Ebrill a hynny am yr un rheswm. Dywedodd y Swyddog bod cadarnhad bellach wedi’i dderbyn mewn llythyr gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 19 Ebrill, 2017 fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi y bydd y cais yn cael ei benderfynu arno gan Weinidogion Cymru a hynny am y rhesymau a nodwyd yn yr ohebiaeth flaenorol a ddarllenodd allan yn y Pwyllgor. Cynhelir ymchwiliad cyhoeddus ac yn dilyn hynny bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn dod i benderfyniad ar y cais. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ffurfio barn ar y cais yng ngoleuni cynnwys y llythyr gan Lywodraeth Cymru ac i benderfynu a fyddai wedi cymeradwyo’r cais, ac os mai dyna’r sefyllfa bydd angen i ddau o Aelodau’r Pwyllgor gyflwyno rhesymau’r Pwyllgor i’r Ymchwiliad Cyhoeddus, neu a fyddai wedi gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.    

 

 

Siaradodd y Cynghorwyr Peter Rogers ac Ann Griffiths fel Aelodau Lleol gan nodi fod y cais ar gyfer carafanau symudol tymor byr yn unig ac nid carafanau statig; nid yw safle’r cais wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol; er gwaethaf y ffaith ei fod wedi’i leoli mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae’r SoDdGA yn ardal helaeth sy’n cael ei gofalu amdani yn dda gyda chydweithrediad perchnogion tir ac ni effeithir arni yn andwyol gan y cais, mae’r ymgeisydd yn ceisio arallgyfeirio er mwyn sicrhau bod y fferm yn parhau i fod yn broffidiol; nid yw’r ymgeisydd wedi ymgymryd ag Asesiad Canlyniadau Llifogydd o ganlyniad i’r gost; byddai cymeradwyo’r cais yn helpu’r busnes i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw gwybodaeth leol yn yr achos hwn. 

 

Roedd barn y Pwyllgor yn rhanedig am y cais hwn. Roedd rhai Aelodau o’r farn bod TAN15, sy’n delio â datblygiadau a risg llifogydd, yn fwy perthnasol i safleoedd ger afonydd lle mae’r risg llifogydd yn uwch na gyda safleoedd megis safle’r cais lle mai dim ond ar adegau prin iawn y bydd yr afon yn codi i lefel y tir ac os oes gan y perchennog tir drefniadau ar gyfer cysylltu â’r carafanwyr ar y safle, nid yw’r sefyllfa cynddrwg â’r hyn a fynegir yn yr adroddiad ysgrifenedig. Mae maes carafanau ar y safle eisoes. Hefyd, mae’r amodau o ran risg llifogydd mewn perthynas â busnesau yn wahanol i’r rhai hynny sy’n berthnasol i ddatblygiadau preswyl. Tynnodd Aelodau eraill sylw at y ffaith bod y safle wedi’i leoli o fewn Parth Llifogydd C1 a bod manylion a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses ymgynghori yn nodi fod mapiau llifogydd yn cadarnhau bod y safle yn gorwedd o fewn yr amlinell llifogydd eithafol. Roeddent o’r farn y dylai barn arbenigol gael blaenoriaeth dros wybodaeth leol.  

 

Awgrymodd yr Aelodau hynny a oedd â thueddiad i gymeradwyo’r cais y dylid rhoi cyfle pellach i’r ymgeisydd gyflwyno Asesiad Canlyniadau Llifogydd.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm Datblygu Cynllunio fod amserlen Llywodraeth Cymru yn annhebygol o ganiatâu amser i allu mynd yn ôl at yr ymgeisydd ar gyfer Asesiad Canlyniadau Llifogydd. Mae polisïau cynllunio yn glir lle mae datblygiadau yn cael eu cynnig ym Mharth C a lle byddant yn cydymffurfio â’r prawf yn Adran 6 o TAN 15, mae angen Asesiad Canlyniad Llifogydd ac mae hyn yn cael ei gadarnhau yn yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn asesiad technegol sy’n mynd y tu hwnt i wybodaeth leol ac mae’r ymgeisydd wedi cael cyfle i ddarparu’r asesiad. Hefyd gyda pharciau carafanau, er eu bod yn gweithredu fel busnes fe’u nodir o dan TAN 15 fel datblygiad bregus oherwydd yr elfen breswyl sy’n perthyn iddynt. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylai’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes. Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylai’r Pwyllgor wrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies. Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Vaughan Hughes a Nicola Roberts i wrthod y cais; pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, Kenneth Hughes, Victor Hughes a W.T. Hughes i gymeradwyo’r cais. Gwrthodwyd y cais ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. 

 

7.3       18C225B - Cais llawn i godi annedd, creu mynedfa ynghyd â gosod paced trin carthffosiaeth ar dir ger Bron Castell, Llanfairynghornwy.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 1 Mawrth, 2017, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle ac fe’i cynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2017. Yn ei gyfarfod ar 5 Ebrill, 2017 penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd yr ystyriwyd bod y safle yn safle mewnlenwi a oedd yn ffurfio rhan adeiledig o’r pentref na fyddai’n achosi niwed i’r tirlun. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod adroddiad pellach y Swyddog yn ateb y rheswm a roddwyd gan y Pwyllgor am gymeradwyo’r cais yn groes i argymhellaid y Swyddog ac mae’n cyfeirio at ddwy apêl yn yr un ardal sy’n cynnwys cynigion sy’n codi materion tebyg i’r rhai a ddiddymwyd gan yr Arolygydd ar y sail eu bod yn ymwthiol o fewn y tirlun ac yn achosi niwed i gymeriad, edrychiad a harddwch naturiol y AHNE. O ganlyniad i hyn ac oherwydd y farn nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad mewnlenwi derbyniol, mae argymhelliad y Swyddog yn parhau i fod yn un o wrthod.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Aelod Lleol, y safbwyntiau a fynegodd yn y cyfarfod diwethaf bod y datblygiad yn ddatblygiad mewnlenwi sydd ag anheddau bob ochr i safle’r cais. Mae’r Cyngor Cymuned yn cefnogi’r cais ac mae’r ceisiadau a nodir yn adroddiad y Swyddog sydd wedi bod yn destun apeliadau yn wahanol i’r cais a gyflwynwyd.

 

Cytunodd y Cynghorydd Kenneth Hughes â’r Aelod lleol a chynigiodd y dylid cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd W.T.Hughes.

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. 

 

7.4 33C190Q/VAR Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (03) o ganiatâd cynllunio cyf 33C190 (Adolygiad o amodau cynllunio yn unol á Deddf yr Amgylchedd 1995) er mwyn cael defnyddio'r fynedfa wreiddiol i gerbydau i'r safle yn Chwarel Bwlch Gwyn, Gaerwen.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Ebrill, 2017, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 19 Ebrill, 2017. 

 

Nododd yr Uwch Swyddog Cynllunio (Mwynau a Gwastraff) fod y datblygiad arfaethedig wedi bod yn rhan o’r broses “cyn-ymgeisio” lle'r oedd sylw’r ymgeisydd wedi’i dynnu tuag at faterion mewn perthynas â’r fynedfa wreiddiol (sef testun y cais presennol) a’r briffordd yn ogystal ag agosrwydd yr eiddo preswyl Graig Fawr. Yn dilyn yr wybodaeth “cyn-ymgeisio” ac fel rhan o’r broses ymgeisio ffurfiol, mae’r ymgeisydd yn cynnig gwneud gwelliannau i’r ffordd a’r fynedfa er mwyn eu gwneud yn addas at ddibenion traffig chwarel ac mae cynlluniau perthnasol wedi’u cyflwyno er mwyn cefnogi’r cais. Mae’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais ar sail lles ac iechyd a diogelwch ac mae 17 llythyr arall o wrthwynebiad wedi dod i law ac mae’r prif faterion a godwyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Mae’r materion wedi eu hystyried ac wedi derbyn sylw yn llawn yn yr adroddiad ysgrifenedig. Mae’r Swyddog yn casglu bod y cais yn bodloni gofynion polisïau lleol a chenedlaethol fel y nodir yn yr adroddiad ac yn destun a chyda’r amodau yn yr adroddiad ynghyd ag amodau gwreiddiol y caniatâd cynllunio 33C190 a ddiweddarwyd yn ôl yr angen, yr argymhelliad yw y dylid cymeradwyo’r cais. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Victor Hughes, fel Aelod Lleol, at y pryderon o fewn y Cyngor Cymuned at ba mor addas yw’r ffordd o'r pentref ei hun gyda’r bont gul yn croesi’r A55 a hefyd ei ddymuniad i weld traffig trwm yn cael ei gyfeirio i ffwrdd o’r pentref i’r brif ffordd drwy’r ffordd isaf i gyfeiriad Pentre Berw. Gofynnodd y Cynghorydd Hughes a allai’r gwaith o wella’r ffordd fod yn destun  amod Grampian er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn cychwyn defnyddo’r fynedfa.

 

Cadarnhaodd y Swyddog bod amod (07) yn bodloni’r angen hwn. Mae’r ymgeisydd, o’i wirfodd, wedi cynnig yn y Cynllun Rheoli Traffig bod traffig y chwarel yn gadael yr A55 yng nghyffordd Llangefni ac yn gweithio’i ffordd yn ôl i Bentre Berw ac yn teithio i’r chwarel y ffordd honno. Yn dilyn trafodaethau pellach, mae’r ymgeisydd a’r Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff yn fodlon ymrwymo i gynnal cyfarfodydd chwarterol neu gyfarfodydd dwywaith y flwyddyn o Grŵp Ymgysylltiad â’r Chwarel, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gynghorau Tref a Chymuned, er mwyn trafod unrhyw faterion yn ymwneud â’r chwarel; byddai hyn yn cael ei wneud ar sail wirfoddol yn hytrach na thrwy amod cynllunio ac mae’n arfer cyffredin gyda chwareli ledled Gogledd Cymru. Mae amodau ar y caniatâd cynllunio ar gyfer y chwarel ei hun yn mynnu bod adroddiad ar reolaeth y chwarel yn cael ei gynhyrchu bob 3 blynedd ac y gallai’r Grŵp Ymgorffori gael ei gynnwys o fewn y ddarpariaeth hon. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad o’r gwaith gwella ffyrdd arfaethedig ac a fydd y ffordd yn cael ei lledaenu’n ddigonol er mwyn  caniatáu i ddwy lori allu pasio ei gilydd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd bod y gwelliannau i’r ffordd yn bodloni gofynion yr Awdurdod Priffyrdd. Mae’r ffordd o’r fynedfa bresennol i’r fynedfa wreiddiol wedi ei thirfesur a bydd yn cael ei lledaenu ar ei hyd er mwyn bodloni’r gofyniad sylfaenol a osodwyd gan yr Awdurdod Priffyrdd.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd y cais gan y Cynghorydd W.T.Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

7.5 34C304K/1/EIA/ECON - Cais hybrid am ganiatâd cynllunio llawn i greu canolfan beirianneg newydd, maes parcio, lle chwarae i blant a gwaith cysylltiedig â chais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer datblygiad preswyl o 153 o anheddau, gwesty a chyfleuster bwyd a diod ynghyd a lle parcio cysylltiedig â gwaith ar dir yn Coleg Menai, Ffordd y Coleg, Langefni.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gael ei fod yn destun Asesiad Effaith Amgylcheddol ac mae’r cynigion yn cynrychioli gwyriad o bolisïau’r Cynllun Datblygu lle mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu.

Holodd y Cynghorydd W.T.Hughes a oedd hi’n briodol i’r Pwyllgor fod yn ystyried y cais yn ystod y cyfnod cyn etholiad gan ei fod yn gais sylweddol ac arwyddocaol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod gan y Cyngor yr hawl i ddelio â busnes arferol y Cyngor yn ystod y cyfnod cyn-etholiad beth bynnag yw maint y cais - nid yw hynny’n ffactor, nid ystyrir bod y cais o dan sylw yn gais anarferol na chynhennus ac felly nid yw’n cael ei gynnwys o dan y protocol cyn-etholiad.

 

Roedd nifer o Aelodau’r Pwyllgor yn rhannu amheuon y Cynghorydd W.T.Hughes ynglŷn â pha mor addas oedd hi i ystyried y cais ar hyn o bryd. Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies bod argymhelliad i ohirio cais 6.1 ar yr agenda am yr rheswm yn union ac roedd o'r farn y dylai penderfyniad ar y cais hwn hefyd gael ei ohirio oherwydd ei faint a’i arwyddocâd. Cyfeiriodd y Cynghorydd Nicola Roberts, er ei bod yn anfodlon gohirio gwneud penderfyniad ar y cais, at y Protocol cyn etholiad sy’n cynghori “yn ystod y cyfnod etholiad, bod yn rhaid i’r Cyngor sicrhau ei fod yn amhleidiol. Ni ddylai’r Cyngor ddefnyddio na rhoi’r argraff eu bod yn defnyddio arian cyhoeddus i hyrwyddo un ymgeisydd/plaid wleidyddol neu ei /bolisïau/pholisïau dros un arall.”  Roedd o’r farn bod y cais yn disgyn i’r categori hwn, ei fod yn gynhennus ac y byddai’n agor y drws i roi mantais wleidyddol i un grŵp dros y llall. Dywedodd nad oedd wedi gallu ymateb drwy roi barn ar gwestiynau a godwyd gan ei hetholwyr ar y cais gan ei bod yn aelod o’r Pwyllgor ac oherwydd amodau’r Protocol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gohiriwyd 6.1 oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn un anarferol gan fod y cais yn un ar gyfer un o’r ffermydd solar mwyaf yng Nghymru; mae’r cais o dan sylw, er ei fod yn fawr yn eithaf arferol ac yn dilyn trafodaethau â’r Prif Weithredwr, ystyrir yn ei fod yn fater o “fusnes fel arfer ar gyfer y Cyngor”.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylai’r cais gael ei ohirio ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd W.T.Hughes. Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid delio â’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones. Yn y bleidlais a ddilynodd, cadarnhawyd y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais o bum pleidlais i dair.

 

Penderfynwyd gohirio gwneud penderfyniad ar y cais gan fod y Pwyllgor yn ei ystyried yn fater cynhennus ac anarferol a'i fod felly yn gais amhriodol i’w benderfynu arno yn ystod y cyfnod cyn-etholiad. 

 

7.6 47C153 Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa ynghyd â chreu estyniad i'r fynwent bresennol ar dir gyferbyn â Plas Newydd, Llanddeusant.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan iddo gael ei alw i mewn gan Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth, 2017 fe benderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle; ymwelwyd â’r safle ar 15 Mawrth, 2017. Yn y cyfarfod mis Ebrill fe benderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail ei fod yn ystyried y cais fel estyniad bach i ran o’r pentref nad oedd yn achosi niwed i’r tirlun.  

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod adroddiad ysgrifenedig pellach y Swyddog yn dal i nodi y byddai’r datblygiad arfaethedig yn golygu ymwthiad i gae agored a gwyrdd yn Llanddeusant; mae gan y pentref ffin amlwg lle mae safle’r cais ar hyn o bryd ac felly mae’n mynd yn groes i bolisïau cynllunio. Roedd yr Swyddog yn ei adroddiad hefyd yn cyfeirio at geisiadau tebyg ar draws Ynys Môn lle mae’r Arolygiaeth Gynllunio, wrth ystyried apeliadau,  wedi cadarnhau safbwyntiau’r Awdurdod Cynllunio lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Aelod Lleol, bod tystiolaeth o angen lleol ar gyfer y datblygiad hwn. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cael ei weithredu cyn hir gan olygu na fydd unrhyw ddatblygu pellach yn y pentref lle bydd Llanddeusant yn cael ei ddynodi’n glwstwr penodedig. Mae’r polisïau yn rhoi cyfle i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau ac i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

 

Cynigiodd y Cynghorydd W.T.Hughes y dylid cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gadarnhau’r cais ac fe eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Ken Hughes.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Lewis Davies a fyddai’n bosibl gosod amod er mwyn sicrhau nad yw’r cae lle mae safle’r cais yn gorwedd yn gallu cael ei ddatblygu ymhellach. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd hynny’n ddefnydd priodol o amodau cynllunio ac mai’r unig ffordd o sicrhau bod datblygiadau pellach yn cael eu hatal yw drwy wrthod y cais.

 

Roedd mwyafrif Aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y cais yn dderbyniol am y rhesymau a nodwyd yn flaenorol.

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. (Ymataliodd y Cynghorwyr Lewis Davies a Victor Hughes atal eu pleidlais).

 

7.7 47C154 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd sydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa newydd ar dir gyferbyn â Plas Newydd, Llanddeusant.

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan iddo gael ei alw i mewn gan yr Aelod Lleol. Yng nghyfarfod 1 Mawrth, 2017 fe benderfynodd y Pwyllgor gynnal ymweliad safle; ymwelwyd â’r safle ar 15 Mawrth, 2017. Yng nghyfarfod mis Ebrill y Pwyllgor, penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyriwyd bod y cais yn fân estyniad o’r datblygiad presennol nad oedd yn achosi niwed i’r tirlun.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd W.T. Hughes.  

 

Penderfynwyd cadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i gadarnhau’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog. 

Dogfennau ategol: