Eitem Rhaglen

Ceisiadau am grant i gefnogi mentrau adfywio economi Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas â’r uchod a derbyn cyflwyniad gan y mudiadau a nodwyd yn yr adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â cheisiadau am grantiau a dderbyniwyd i gefnog mentrau i adfywio economi Ynys Môn. 

 

Dywedwyd mai cylch gorchwyl y Pwyllgor Adfywio yw ystyried sut y gellir defnyddio adnoddau’r Ymddiriedolaeth i wella ansawdd bywyd dinasyddion yn Ynys Môn, drwy adfywiad economaidd, creu swyddi cynaliadwy a fydd yn caniatáu i bobl Ynys Môn (yn arbennig felly’r bobl ifanc) i aros ac ennill bywoliaeth yn eu cymunedau, a defnyddio’r adnoddau hynny er budd y gymuned.  Dros y blynyddoedd, mae'r Ymddiriedolaeth wedi darparu cyllid cyfatebol i gefnogi prosiectau megis Cynlluniau Ewropeaidd Menter Môn, sy'n denu adnoddau ychwanegol ar gyfer yr Ynys o amryfal ffynonellau allanol sydd ar gael ar gyfer adfywiad economaidd.  Mae'r gweithgaredd hwn yn ychwanegol at y grantiau a roddwyd yn rheolaidd i sefydliadau gwirfoddol sy'n ymwneud â gweithgaredd yn y gymuned.

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd y derbyniwyd 3 o geisiadau gan Menter Môn, Cymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn a GeoMôn.

 

·           Menter Môn – cais am gyllid cyfatebol ar gyfer Cynllun LEADER – Partneriaeth Wledig Ynys Môn

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd fod Rheolwr-gyfarwyddwr Menter Môn eisoes wedi rhoddi cyflwyniad ar y cais hwn i’r cyfarfod o’r Ymddiriedolaeth lawn a gyfarfu ar 22 Ebrill 2014.  Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth bryd hynny i gefnogi’r cais mewn egwyddor a gofynnodd i’r mater gael ei ohirio er mwyn cael trafodaeth fanylach yn y Pwyllgor Adfywio.  Y rheswm am wneud hynny oedd mai cais amlinellol oedd yr un a gyflwynwyd i’r Ymddiriedolaeth nid oedd wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig.  Ar 6 Chwefror 2015, cafwyd gwybodaeth bod y cais wedi bod yn llwyddiannus yn amodol ar sicrhau cyllid cyfatebol. 

 

Rhoes Rheolwr-gyfarwyddwr menter Môn gyflwyniad manwl i’r Pwyllgor Adfywio.   Y fid am gyllid cyfatebol dan gynllun LEADER Menter Môn i’r Ymddiriedolaeth Elusennol yw £330,000 yn seiliedig ar yr £110,000 y flwyddyn am dair blynedd.

 

Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn eu bod yn cefnogi bid Menter Môn am gyllid cyfatebol ar gyfer y rhaglen LEADER sef £110,000 y flwyddyn am dair blynedd.

 

·           Cymdeithas Sioe Amaethyddol Ynys Môn – cais i wella cyfleusterau er mwyn denu gweithgareddau pellach

 

Rhoes Mr. John Adshead gyflwyniad manwl i’r Pwyllgor Adfywio.  Roedd cynrychiolwyr o Bwyllgor y Sioe hefyd yn bresennol a chafwyd ganddynt wybodaeth gefndirol ar weithgareddau’r sioe a’r manylion ariannol.  Mae Cymdeithas Sioe Amaethyddol ynys Môn yn gofyn am gyllid cyfatebol o £60k i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ei bod yn cefnogi bid Cymdeithas Sioe Amaethyddol ynys Môn am gyllid cyfatebol £60k ar yr amod fod y Gymdeithas yn cael cyllid cyfatebol arall o ffynonellau lleol a dod a’r mater yn ôl i’r Ymddiriedolaeth pan fydd canlyniad y fid hon yn hysbys fel y gellir gwneud penderfyniad terfynol.

 

·           GeoMôn cais GeoBarc Ynys Môn

 

Rhoes Dr. Margaret Wood a Mr. John Pinnington gyflwyniad manwl i’r Pwyllgor Adfywio.  Roedd GeoMôn yn gofyn am £125k yn 2015/16 yn codi i £132k yn 2018 ynghyd â £50k yn 2015/16 fel cyfalaf hwylus ar gyfer datblygu a rheoli prosiectau yn seiliedig yn y gymuned.

 

Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb, PENDERFYNWYD, oherwydd nad oes gan GeoMôn ffynonellau cyllido eraill ar hyn o bryd, gohirio ystyried cais GeoMôn ac awgrymu eu bod yn trafod opsiynau posibl ar gyfer cyllid cyfatebol gyda phrosiect LEADER Menter Môn a ffynonellau eraill.  Bydd y mater yn cael sylw pellach gan yr Ymddiriedolaeth unwaith y bydd canlyniad y trafodaethau hyn yn hysbys.