Eitem Rhaglen

Uned Ddarparu AAA

Cyflwyno adroddiad ar waith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y Gwanwyn, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Seicolegydd Addysg ar waith yr Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor y gwanwyn 2015 i’r Cyd-bwyllgor ei ystyried.

 

Adroddodd y Prif Seicolegydd Addysg ar yr agweddau a ganlyn

 

           Gweinyddu prosesau asesu ac adolygu.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y sefyllfa staffio a’r ffaith fod yr Uwch Swyddog Gweinyddol wedi gadael ar ôl i’w chyfnod secondiad ddod i ben. Dywedodd y Swyddog hefyd fod y broses Arfarnu Swyddi wedi dod i’w therfyn yn Ynys Môn ac y rhoddwyd gwybod am ganlyniad y broses i staff yn gynharach yr wythnos honno.  Cyfeiriodd y Swyddog hefyd at ddiwedd y broses Arfarnu Swyddi ym Môn yng nghyswllt  ei oblygiadau i staff gweinyddol a chefnogol yr Uned. 

 

           Y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol

 

Adroddodd y Prif Seicolegydd Addysg fod gan yr Uned Ddarparu dîm cryf o athrawon arbenigol ar hyn o bryd sy’n gweithio ym mhob maes arbenigedd, gan gynnwys athrawon profiadol; athrawon sydd wedi cael eu penodi i gymryd cyfrifoldeb am ddyletswyddau staff sydd bron ag ymddeol, a chymorthyddion arbenigol sy’n gallu gwneud agweddau penodol o’r gwaith gan felly ryddhau athrawon i wneud dyletswyddau eraill.  Mae’r Cyd-Bwyllgor yn gorfod cystadlu â chyllideb sy’n lleihau am fod Ynys Môn wedi dyrannu llai o arian i’r Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn ariannol 2015/16 ynghyd â chanlyniadau tebygol hynny.  Mae angen i’r Cyd-Bwyllgor fod yn ymwybodol o effeithiau posib ar ddarpariaeth gwasanaethau oherwydd ffactorau sydd y tu hwnt i’w reolaeth.

 

           Y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol

 

Dywedodd y Prif Seicolegydd Addysg fod y gwasanaeth yn gweithio gyda llai o staff nag arfer oherwydd bod dau seicolegydd rhan amser wedi gadael y gwasanaeth a bod dau seicolegydd dan hyfforddiant yn cael eu cefnogi ar y cwrs proffesiynol yng Nghaerdydd.  Mae un o’r uwch seicolegwyr hefyd ar secondiad i Gyngor Gwynedd i gynorthwyo gyda datblygu systemau’r Cyngor ar gyfer trefnu a darparu addysg anghenion arbennig.  Mae’r gwasanaeth yn parhau i weithredu system lle caiff seicolegydd ei ddyrannu i bob ysgol ac mae seicolegydd cynorthwyol wedi bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ac yn gweithio gydag ysgolion gyda phlant unigol.

 

           Data Perfformiad

 

Cyfeiriodd y Prif Seicolegydd Addysg at y tablau yn adran 4 yr adroddiad oedd yn dangos nifer y datganiadau terfynol a gynhyrchwyd o fewn yr amserlen statudol o 26 wythnos yn ystod blwyddyn ysgol 2013/14.  Mae’r ffigurau’n dangos bod y tîm gweinyddol wedi cynhyrchu nifer sylweddol fwy o ddatganiadau yn 2013/14 nag a wnaeth yn 2012/13 gyda chynnydd o 75% i Wynedd a chynnydd o 64% i Ynys Môn.

 

Rhoddodd y Cyd-Bwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chododd y materion a ganlyn

 

           Nododd y Cyd-bwyllgor y byddai’n fuddiol iddo, er mwyn deall y sefyllfa staff, dderbyn gwybodaeth ar ffurf tabl yn dangos y gofynion staffio yn erbyn sefyllfa wirioneddol y staff.  Dywedodd Pennaeth Dysgu Ynys Môn ei bod yn anodd recriwtio staff dwyieithog sydd wedi cymhwyso’n briodol, felly er mwyn goresgyn hynny a phontio unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth mae’r Cyd-Bwyllgor wedi penodi hyfforddai ar ôl cytuno a chynllunio i ddefnyddio arian wrth gefn y Cyd-Bwyllgor.  Dywedodd y Prif Seicolegydd Addysgol, er bod y sefyllfa staffio yn foddhaol ar hyn o bryd, mae cynnal y sefyllfa honno’n golygu mynd tu hwnt i gyllideb y Cyd-bwyllgor yn enwedig gan fod Ynys Môn wedi lleihau ei gyfraniad i’r Cyd-bwyllgor gan felly olygu y bydd angen gwneud toriadau.

           Nododd y Cyd-Bwyllgor eu bod wedi colli gwasanaeth un Uwch Seicolegydd i Wynedd oherwydd secondiad.

           Roedd y Cyd-Bwyllgor yn bryderus ynghylch y gostyngiad yng nghyllideb y Cyd-bwyllgor a’r risg allai ddeillio o hynny o ran y posibilrwydd o beidio â gallu cwrdd ag anghenion carfan fregus o blant.  Dywedodd Pennaeth Dysgu Ynys Môn fod y Cyd-bwyllgor wedi cael gwybod yn ei gyfarfod ym mis Medi 2014 fod gwasanaethau trwy Gyngor Sir Ynys Môn wedi cael cais i adnabod arbedion o 10% er mwyn paratoi at yr ymgynghoriad ar gyllideb 2015/16 a bod gostyngiad yng nghyllideb y Cyd-bwyllgor yn un o’r opsiynau oedd yn cael eu hystyried.  Cadarnhawyd y byddai’r opsiwn hwn yn cael ei weithredu yn y cyfarfod diwethaf ym mis Ionawr 2015 a daeth i rym ar 1 Ebrill 2015.  Er gwaethaf hyn, gwnaed pob ymdrech i sicrhau na fyddai’n ymyrryd â’r ddarpariaeth a wneir i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol.

           Bu i’r Cyd-Bwyllgor nodi gweithredu arfarnu swyddi gan Gyngor Môn  fel risg bosibl yn nhermau cadw staff a effeithiwyd yn negyddol gan y broses.  Dywedodd Pennaeth Dysgu Ynys Môn fod y Cyngor ym Môn yn yr un modd ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru wedi symud i weithredu’r Cytundeb Statws Sengl.

           Nododd y Cyd-Bwyllgor fod y perfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad statudol wedi dirywio’n sylweddol yng Ngwynedd ac Ynys Môn o ran canran yr achosion a gaiff eu cwblhau o fewn 26 wythnos.  Awgrymodd Pennaeth Dysgu Ynys Môn fod hyn yn arwydd o’r diffyg meddygon plant sy’n arwain at oedi wrth gael mewnbwn gan Iechyd i achosion y Cyd-Bwyllgor. Golyga hyn na chaiff asesiadau eu cwblhau yn unol ag amserlenni.  Dywedodd fod methu â chwblhau gwaith ar amser yn fater o bryder.

           Nododd y Cyd-Bwyllgor y byddai’n fuddiol iddo gael gwybod faint o blant mae’r canran yn ei gynrychioli fel ei bod yn haws iddo benderfynu a yw’r dirywiad yn y lefelau perfformiad o ganlyniad i feini prawf mwy llym ynteu o ganlyniad i gynnydd yn nifer y plant sydd angen asesiad.  Dywedodd Swyddog Cynhwysiad Cyngor Gwynedd fod BIPBC nawr wedi cynnig gwasanaeth gan feddyg plant i’r paneli cymedroli fel y gallai’r gwasanaeth iechyd roi mewnbwn mwy prydlon a dylai hynny roi sylw i’r pryderon mwyaf difrifol.  Fodd bynnag, mae’r adolygiad o ADY a Chynhwysiad a wnaed gan Gyngor Gwynedd fel rhan o ddatblygu strategaeth newydd wedi ceisio ailasesu effeithiolrwydd y system gyfan, gan gynnwys nifer y datganiadau a gaiff eu cynhyrchu, yn hytrach nag edrych ar faterion penodol oddi mewn iddi megis y rhesymau pam na chaiff datganiadau eu cwblhau oddi mewn i amserlenni.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

GWEITHREDU’N CODI: Y Prif Seicolegydd Addysgol i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â nifer y plant / achosion y mae’r canran perfformiad dan DP 15a a DP 15b yn eu cynrychioli.

Dogfennau ategol: