Eitem Rhaglen

Cynnal a Chodi Safonau TGAU

Mrs Mefys Edwards , Ysgol Syr Thomas Jones i roi cyflwyniad.

Cofnodion:

Rhoddodd Mrs Mefys Edwards gyflwyniad gyda sleids yn dangos y canlyniadau y llwyddwyd i’w cyrraedd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

 

Adroddodd ar sut mae’r Adran AG wedi cynnal a chodi safonau yn yr ystafell ddosbarth, ac wedi ymateb i’r adroddiad hunanarfarnu am y llynedd. Cyfeiriodd at ganlyniadau’r arholiadau TGAU ar gyfer 2014/15, a nododd fod Blwyddyn 10 ac 11 wedi gwneud yn eithriadol o dda ac wedi cyrraedd eu targedau disgwyliedig:-

 

           Blwyddyn 11 - 98% A*- C (dros hanner yn derbyn A - A*)

           Blwyddyn 10 - 91% A*- C (bron i hanner yn derbyn A – A*)

 

Dywedodd Mrs Edwards wedi iddynt ddadansoddi’r canlyniadau hynny, fod yr Adran wedi penderfynu canolbwyntio ar y bechgyn trwy Gynllun Gweithredu, ac wedi ceisio eu herio trwy ganfod gwahanol ffyrdd o gadw eu diddordeb yn y cwrs. Yr ail amcan oedd cynnal a chodi safonau. Nododd ar ddechrau’r flwyddyn gyda chymorth yr anogwyr dysgu, y rhoddir prawf i’r plant i ganfod trwy ba ffyrdd y maent yn dysgu orau, ac yn ei dro mae hynny’n rhoi gwybodaeth iddi hi ynghylch sut mae’r plant yn dysgu boed hynny’n weledol, ar lafar neu trwy ddulliau cinesthetig h.y. trwy wneud pethau. Roedd yr Adran yn gobeithio gwella’r gwersi trwy gynnal gweithgareddau a fyddai’n mynd â bryd y bechgyn, a thracio’r bechgyn yn fwy cyson. Penderfynwyd hefyd ceisio gwella’r cyfathrebu gyda’r anogwyr dysgu a rhieni e.e. negeseuon testun i atgoffa rhieni am brofion fyddai’n digwydd yn fuan, a thrwy gydnabod canlyniadau da.

 

Adroddodd Mrs Edwards ar sut maent wedi adnabod y ffyrdd mae disgyblion yn dysgu a chyfeiriodd at ddadansoddiad o arddulliau dysgu yn ei dosbarth ym Mlwyddyn 11 fel a ganlyn:-

 

Mae 5 yn dysgu’n weledol;

Mae 2 yn dysgu ar lafar;

Mae 12 yn dysgu trwy ddulliau cinesthetig. 

 

Dywedodd Mrs Edwards fod ganddi ddiddordeb mewn treialu gweithgareddau i ddisgyblion sy’n dysgu trwy ddulliau cinesthetig ac aeth ymlaen i ymhelaethu ar rai o’r dulliau dysgu a ddefnyddir yn yr ystafell ddosbarth i gynnal diddordeb y dysgwyr hynny sy’n dysgu mwy trwy wneud yn hytrach na gwrando e.e. trwy ddefnyddio clipiau teledu a ffilm cyfoes i annog disgyblion i ymateb ac i gyfleu eu barn ar lafar ac yn ysgrifenedig; gwneud defnydd o newyddion a digwyddiadau yn y gymuned; asesu ar gyfer dysgu lle mae’r disgyblion yn gyfrifol am asesu eu gwaith eu hunain a gwaith disgyblion eraill gan herio ei gilydd a hwy eu hunain ac ati. Cyfeiriodd at y system goleuadau traffig ar gyfer tracio cynnydd disgyblion a’r mewnbwn a wneir gan athrawon ac anogwyr dysgu ynglŷn â’r disgyblion hynny sydd angen cefnogaeth bellach.

 

Dywedodd Mrs Edwards ei bod yn hapus iawn gyda’r sgoriau AG a gafodd Ysgol Syr Thomas Jones yn arholiadau’r haf a bod Blwyddyn 10 ac 11 wedi llwyddo i gyrraedd eu targedau. Cadarnhaodd fod safonau’r bechgyn hefyd yn dda. Cadarnhaodd hefyd fod dulliau dysgu traddodiadol yn cael eu defnyddio ochr yn ochr ag arferion mwy arloesol.

 

Diolchodd y CYSAG i Mrs Mefys Edwards am ei chyflwyniad llawn gwybodaeth a nododd gyda diddordeb yr arferion addysgu a dysgu creadigol a ddefnyddir gan yr ysgol i wella safonau mewn AG.