Cyflwyno drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2014/15.
Cofnodion:
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2014/15 i’r CYSAG ei ystyried a’i gymeradwyo.
Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE ar yr agweddau a ganlyn -
• Mae’r adroddiad yn ceisio rhoi’r cyd-destun ynghylch sut mae’r CYSAG ar Ynys Môn yn sgriwtineiddio safonau mewn AG e.e. Tudalen 4 yr Adroddiad – mae adroddiadau hunanarfarnu 8 o ysgolion wedi cael eu trafod rhwng 2014/2015. Mae cofnodion y cyfarfodydd CYSAG yn dangos bod mwy nag 8 adroddiad hunanarfarnu wedi cael eu trafod, ond mae rhai o’r rhain yn cyfeirio at ysgolion a arolygwyd yn y blynyddoedd cynt. Roedd yr 8 Adroddiad a gyflwynwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon ac mae’r rhai eraill wedi cael sylw yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
• Mae'r Awdurdod Addysg ar Ynys Môn wedi bod yn gefnogol i hunanarfarnu ac mae wedi gofyn i ysgolion hunanfarnu Addysg Grefyddol o fewn y flwyddyn ond, er gwaethaf hynny, dim ond 15% o’r ysgolion sydd wedi ymateb.
Cafwyd trafodaeth wedyn ynghylch a ddylai'r Adroddiad Blynyddol adlewyrchu'r gyfradd ymateb. Y farn gyffredinol oedd y dylid cynnwys y wybodaeth honno, er ei bod yn siomedig, ond gan dynnu sylw yn yr adroddiad ar yr un pryd at y ffaith fod y system wedi newid eleni.
Dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd y byddai'n ysgrifennu at ysgolion nad ydynt wedi ymateb o gwbl i gyfleu siom y CYSAG nad oedd eu hadroddiadau hunanarfarnu wedi cael eu cyflwyno hyd yma a'i fod yn edrych ymlaen at eu derbyn cyn gynted ag y bo modd. Ar ben hynny, mae’r Awdurdod Addysg yn annog ysgolion i fod yn "barod ar gyfer arolwg" sy'n golygu felly y dylai beth bynnag y mae ysgolion wedi ei baratoi o ran hunanarfarnu fod ar gael eisoes.
Mewn ymateb i gwestiwn am berfformiad cymharol CYSAG Ynys Môn yn hyn o beth, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod y wybodaeth yn dangos bod CYSAGau Gwynedd a Môn yn perfformio’n arbennig o dda wrth gasglu adroddiadau hunanarfarnu o gymharu ag awdurdodau eraill. Cododd y CYSAG y pwynt fod bod yn arbenigwr AG yn yn ystyriaeth o bwys yng nghyswllt yr hyn y mae athrawon yn gallu ei wneud yn y pwnc a chyfeiriwyd yn benodol at y sector cynradd lle nodwyd y gellid gwneud mwy i fynd i'r afael ag ymarfer dysgu cychwynnol ar gyfer pwnc statudol i roi i athrawon y wybodaeth gyffredinol y mae arnynt ei hangen i fynd i'r afael â'r pwnc hwn.
• O ran canlyniadau, atgoffodd yr Ymgynghorydd Her GwE y CYSAG ei fod wedi cytuno y gellid enwi ysgolion a’i bod felly wedi dewis detholiadau o adroddiadau hunanarfarnu ysgolion i ddangos y math o weithgareddau y maent yn ymgymryd â nhw.
• Darpariaeth – mae’r CYSAG yn gallu adnabod darpariaeth dda o fewn y sectorau cynradd ac uwchradd tra hefyd yn nodi agweddau a fydd yn derbyn sylw yn ystod y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, mae angen i'r CYSAG ystyried yn ei dro pa gymorth y mae’n ei ddarparu i ysgolion i gyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd ganddynt.
• Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y sesiynau addoli ar y cyd mewn ysgolion y mae rhai o aelodau'r CYSAG wedi eu mynychu a’u harsylwi.
• Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r argymhellion a wnaed gan y CYSAG i'r AALl o ran cynnal a gwella safonau Addysg Grefyddol (Tudalen 8). Gofynnodd yr Ymgynghorydd Her GwE i’r CYSAG a oedd yn fodlon gyda'r argymhellion hynny.
Cafwyd trafodaeth wedyn ynglŷn â pha fath o gefnogaeth fyddai’n cynorthwyo athrawon ac ysgolion. Nodwyd bod ysgolion bellach yn fwy ynysig o ran cefnogaeth a soniwyd am dranc y cyfarfodydd consortiwm a'r prinder cyfleoedd sydd ar gael i’r athrawon hynny sy’n dysgu’r un pwnc i gyfarfod a rhannu profiadau a datblygu syniadau. Gwnaed gwahanol awgrymiadau e.e. gallu arsylwi gwersi ei gilydd. Awgrymodd yr Ymgynghorydd Her GwE y gellid gofyn i Benaethiaid hwyluso cyfleoedd i adrannau gydweithio yn enwedig wrth baratoi manylebau TGAU a Safon Uwch newydd.
• Ymateb yr Awdurdod Addysg. (Adran 2.4) Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE bod angen i'r CYSAG arfarnu ei effeithiolrwydd ei hun fel corff o ran y cyngor a’r arweinyddiaeth y mae'n eu darparu.
• Addoli ar y Cyd (Adran 2.7). Awgrymodd yr Ymgynghorydd Her GwE y dylid cyfyngu sylwadau mewn perthynas ag addoli ar y cyd i'r adran hon a’u tynnu allan o adran 2.3.1 sy'n delio â hunanarfarniad ysgolion. Cytunodd y CYSAG a chymeradwyodd yr argymhellion yn yr adran hon hefyd ar yr amod bod y pwynt bwled olaf yn cyfeirio at dreialu’r ffurflen addoli ar y cyd.
Cytunwyd i fabwysiadu'r Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2014/15 yn amodol ar unrhyw fân newidiadau a allai godi yn ogystal â'r newidiadau y cytunwyd arnynt yn ystod y drafodaeth arno.
Gweithredu
• Y Swyddog Addysg Gynradd i ysgrifennu at yr ysgolion hynny nad ydynt wedi ymateb o gwbl o ran hunanarfarniadau, i gyfleu siom y CYSAG iddynt nad oedd eu hadroddiadau hunanarfarnu wedi cael eu cyflwyno hyd yma a'i fod yn edrych ymlaen at eu derbyn cyn gynted ag y bo modd.
Dogfennau ategol: