Eitem Rhaglen

Yr Uned Ddarparu AAA

Cyflwyno adroddiad ar weithgareddau’r Uned Ddarparu AAA yn ystod tymor yr Haf, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uned Ddarparu ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig ar weithgareddau a gyflawnwyd yn ystod tymor yr haf, 2015 i’r Cyd-bwyllgor ei ystyried.

 

Amlygodd y Prif Seicolegydd Addysgol ddatblygiadau mewn perthynas â newidiadau staff yn y Gwasanaeth Gweinyddol, y Gwasanaeth Athrawon Arbenigol a’r Gwasanaeth Seicolegwyr Addysgol a lle'r oedd y newidiadau hynny’n golygu colli swyddi h.y. trwy ymddiswyddo, newid swydd neu gwblhau cyfnod secondiad. Esboniodd yr effaith bosib ar y gwasanaeth perthnasol a’r camau lliniaru a gymerwyd naill ai drwy gynnig i lenwi swydd wag neu drwy aildrefnu llwythi gwaith o fewn y cyflenwad staff cyfredol. Cyfeiriodd y swyddog at y pwyntiau canlynol -

 

           Bydd dau o'r cynorthwywyr gweinyddol o fewn y Gwasanaeth Gweinyddol yn gadael y gwasanaeth, y naill oherwydd ymddeoliad (0.4 llawn amser) a'r llall (llawn amser) i swydd allanol. Er y gobeithir y gellir llenwi’r swydd llawn amser am gyfnod dros dro, y bwriad yw peidio â llenwi'r swydd 0.4 arall.

           Mae'r Gwasanaeth Clyw yn parhau i weithredu ar sail tîm cryf gyda thri o athrawon cymwys, sy'n gyfwerth â 2.6 llawn amser, yn ogystal ag athro llawn amser sydd heb gymhwyso ac sy’n hyfforddi ar hyn o bryd. Er bod un o’r athrawon yn ymddeol adeg y Nadolig ac y bydd y gwasanaeth yn colli cynorthwy-ydd profiadol, bydd y gwasanaeth yn parhau i fod â thîm sy’n gyfwerth â 2.7 o athrawon llawn amser o’r Nadolig ymlaen.

           Mae 2.1 o athrawon llawn amser cyfwerth ar hyn o bryd yn y Gwasanaeth Nam ar y Golwg ynghyd â dau gynorthwy-ydd cymwys (cyfwerth ag 1.6 llawn amser).

           Bu gostyngiad yn y gwasanaeth ar gyfer iaith a chyfathrebu ac yn arbennig ar gyfer awtistiaeth. Mae dau athro o fewn y gwasanaeth ar hyn o bryd, cyfwerth ag 1.8 llawn amser. Mae'r gwasanaeth wedi colli dau athro (h.y. cyfwerth ag 1 llawn amser) ynghyd â chynorthwy-ydd profiadol a oedd ar secondiad o Wynedd. Mae'r tîm ar hyn o bryd yn ei chael yn heriol cwrdd â’r holl anghenion ar draws y ddau awdurdod.

           Mae'r gwasanaeth ar gyfer anawsterau meddygol a chorfforol yn parhau i weithredu ar sail dau athro, un llawn amser a'r llall sy'n gweithio i’r gwasanaeth am 0.3 llawn amser ond sydd hefyd yn darparu 0.2 i'r gwasanaeth gweledol.

           Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn parhau i weithredu gyda llai o staff nag arfer gydag un uwch seicolegydd ar secondiad i Gyngor Gwynedd ar hyn o bryd.  Mae dau seicolegydd rhan-amser  wedi gadael y gwasanaeth sy’n golygu bod modd cefnogi dau seicolegydd dan hyfforddiant ar gwrs proffesiynol yng Nghaerdydd.  Mae'r gwasanaeth yn parhau i weithredu system lle mae seicolegydd wedi’i neilltuo ar gyfer ysgolion unigol ac mae nifer o sesiynau’n cael eu trefnu ar gyfer pob ysgol; mae'r gwasanaeth yn ceisio gwneud newidiadau i'r system hon er mwyn sicrhau bod yr holl ysgolion yn cael eu gwasanaethu’n deg. Mae cyfwerth â 5.9 o seicolegwyr llawn amser (10 o unigolion) o fewn y gwasanaeth ynghyd ag un hyfforddai profiadol sy'n gallu cymryd rhai o'r ysgolion dan oruchwyliaeth. Bydd y seicolegydd dan hyfforddiant wedi cymhwyso erbyn haf 2016 ac mewn amgylchiadau ariannol mwy ffafriol byddai’r tîm yn hapus i ystyried ei chyflogi hi.

           Mae'r data mewn perthynas â datganiadau terfynol a gynhyrchwyd o fewn yr amserlen statudol yn ystod blwyddyn academaidd 2013/14 yn dangos, er bod nifer y datganiadau newydd yng Ngwynedd wedi gostwng ers y llynedd, fod y nifer yn Ynys Môn yn debyg i'r flwyddyn flaenorol.

 

Yn y drafodaeth fanwl a ddilynodd, gwnaed y pwyntiau canlynol -

 

           Nododd y Cyd-bwyllgor ei bryder ynghylch y gostyngiadau yn y gwasanaethau iaith, cyfathrebu ac awtistiaeth, a gofynnodd am eglurhad ar y cynlluniau i fynd i'r afael ag anghenion plant ar draws y sbectrwm awtistig o ganlyniad, yn enwedig yn wyneb y pwysau parhaus ar y tîm.

 

Dywedodd y Prif Seicolegydd Addysg fod gan y gwasanaeth nifer o staff dros dro ac oherwydd y pwysau ariannol mae sawl contract yn debygol o ddod i ben yn yr haf. Er y cynhelir trafodaethau ynghylch y sefyllfa yn fuan, oherwydd bod y rhan fwyaf o'r gwariant yn yr Uned Ddarparu ar staff, yn y tymor hir hwn yw’r prif faes sydd ar gael i’r Cyd-bwyllgor fedru adnabod arbedion. Ar ben hynny, ystyrir ei bod yn rhy gynnar i fod yn cymryd camau penodol hyd nes y ceir canlyniad taith Strategaeth Cyngor Gwynedd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant drwy brosesau democrataidd y Cyngor.

 

Er gwaethaf y ffaith fod Gwynedd wedi bod yn datblygu Strategaeth ar gyfer ADY a Chynhwysiad, dywedodd Uwch Reolwr Cynhwysiant Cyngor Gwynedd fod yna blant sydd yn y system ar hyn o bryd y mae’n rhaid bodloni eu hanghenion. Cafwyd trafodaethau gyda Swyddog Addysg ADY Ynys Môn gyda golwg ar sefydlu fforwm i hwyluso mynediad i’r ddarpariaeth; yn hytrach nag edrych yn benodol ar y mater staffio teimlir bod angen rhoi mwy o bwyslais ar effeithiolrwydd y prosesau a'r arferion cyfredol er mwyn sicrhau’n well eu bod yn addas i’r pwrpas ac i leihau'r pwysau gwaith ar staff a hefyd i alluogi ymateb mwy cynlluniedig yn hytrach nag un adweithiol. Gellid ymestyn y dull hwn o weithredu i'r holl dimau o fewn yr Uned Ddarparu AAA.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd Addysg bod darpariaeth hefyd o fewn y ddau awdurdod ar gyfer plant sydd ag anghenion awtistig.

 

           Croesawodd y Cyd-bwyllgor yr ymagwedd flaengar a fabwysiadwyd mewn perthynas â hyfforddi dau seicolegydd addysg ond mynegodd bryder, yn wyneb y cyd-destun ariannol, am y rhagolygon tymor hir ar gyfer eu cyflogi’n barhaol o fewn y Cyd-bwyllgor. Nododd y Cyd-bwyllgor y byddai'n resyn pe collid eu gwasanaethau o ystyried yr ymdrechion a'r buddsoddiad a wnaed i gael llefydd ar eu cyfer ar y cwrs proffesiynol a oedd wedi’i ailsefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd.  Felly, gofynnodd y Cyd-bwyllgor am adroddiad ar y trefniadau a wnaed gyda'r Seicolegwyr sydd dan hyfforddiant ynghylch eu hymrwymo i'r Cyd-bwyllgor am gyfnod ar ôl iddynt gwblhau eu hyfforddiant a'r goblygiadau ariannol ar gyfer y ddwy swydd.

           Mynegodd y Cyd-bwyllgor bryder ynglŷn â lefel yr ansicrwydd a’r risg mewn perthynas â'r sefyllfa staffio gan ystyried y gallai hynny beri anesmwythyd i staff, a phwysleisiodd yr angen i roi sefydlogrwydd i staff i’r graddau yr oedd modd gwneud hynny. Ceisiodd y Cydbwyllgor sicrwydd bod gan y gwasanaeth adnoddau digonol i ddarparu ar gyfer anghenion yr holl blant hynny sydd angen cefnogaeth ac nad oes yr un ohonynt dan anfantais oherwydd bod adnoddau'n dynn. Awgrymwyd bod adroddiad yn cael ei ddarparu er mwyn rhoi trosolwg o'r sefyllfa gyfredol fel bod modd i’r ddwy sir osod cyfeiriad strategol.

           Awgrymodd y Cyd-bwyllgor nad yw'n cwrdd yn ddigon aml i allu cael trosolwg effeithiol o ddatblygiadau a chyfeiriodd at ganslo cyfarfod mis Medi fel enghraifft o hynny.

 

Dywedodd Uwch Reolwr Cynhwysiant Cyngor Gwynedd fod Gwynedd wedi cynnal adolygiad strategol o anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant a’i fod yn glir ynghylch y math o ganlyniadau y mae’n dymuno eu cyflawni ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth a sut y gellir gwneud hynny.  Anhawster sy'n dod i'r amlwg i’r Cyd-bwyllgor yw’r gwahaniaeth yn ymagwedd y ddau awdurdod o ran cwrdd ag anghenion – mae’r dull Gweithredu gan yr Ysgol a’r dull Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn rhoi mwy o bwyslais ar ysgolion ac fe all hynny, yn ei dro, arwain at fwy o alw am wasanaethau. Mae Cyngor Gwynedd yn ceisio datblygu ymagwedd fwy ataliol i leihau'r galw am ddarpariaeth ychwanegol.

 

Cadarnhaodd Swyddog Addysg ADY Ynys Môn bod rhai gwahaniaethau yn ymagwedd yr awdurdodau. Yn Ynys Môn mae cyllid wedi cael ei ddatganoli i ysgolion ac mae llwybrau y cytunwyd arnynt rhwng yr Awdurdod ac ysgolion cynradd ar gyfer cael mynediad i gymorth. Er bod y galw am ddatganiadau yn Ynys Môn yn gyson, mae’r nifer yn uwch yn y cyfnod meithrin eleni. Nododd y Cyd-bwyllgor fod angen monitro’r cynnydd hwn i nodi tueddiad posib. Dywedodd y Swyddog Addysg ADY bod anghenion y plant hyn yn ddwys ac yn mynd y tu hwnt i'r ddarpariaeth Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a bod hyn efallai’n cynrychioli patrwm a allai barhau. Dywedodd yr Uwch Reolwr Cynhwysiad mai’r dull o weithredu yng Ngwynedd yw trwy Gynllun Datblygu Unigol yn hytrach na Datganiad, ond gyda chefnogaeth hefyd gan ysgolion a'r Unedau Blynyddoedd Cynnar. Trwy ddefnyddio'r Unedau Blynyddoedd Cynnar, mae angen llai o gymorth wedyn yn y brif ffrwd oherwydd y mewnbwn, yr ymyrraeth a’r targedu cynnar.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

CAMAU YN CODI:

 

           Bod y Cyd-bwyllgor yn cael adroddiad ar y trefniadau ôl-hyfforddiant a wnaed gyda’r Seicolegwyr dan Hyfforddiant a'r goblygiadau ariannol ar gyfer y ddwy swydd.

           Bod y Cyd-bwyllgor yn cael trosolwg o'r sefyllfa yn y ddau awdurdod o ran y dull o ddiwallu anghenion plant sydd angen cymorth ychwanegol oherwydd ADY.

 

Dogfennau ategol: