Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â'r sefyllfa ynghylch grantiau a ddyfarnwyd yn 2015/16 ac a oedd yn rhoi gwybodaeth am incwm buddsoddi a diweddariad ar grantiau a ddyfarnwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Adroddwyd bod y tabl yn yr adroddiad yn dangos y dyraniad grantiau ar gyfer 2015/16. Y cyfanswm a neilltuwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £737,766 ac roedd £128,537 o’r swm hwnnw wedi ei hawlio hyd yn hyn (17.4%). Nid oes rhaid i'r sefydliadau hawlio eu dyraniad yn 2015/16 gan fod amod y grant yn dweud 'Bydd raid cwblhau unrhyw gynllun cyfalaf cyn pen 4 blynedd i flwyddyn dyrannu’r grant. Bydd unrhyw ddyraniad sydd ar ôl heb ei ddefnyddio ar ddiwedd 4 blynedd ariannol yn cael ei drosglwyddo’n ôl i Gronfa’r Ymddiriedolaeth’.
Rhaid cwblhau unrhyw gynllun cyfalaf cyn pen 4 blynedd ar gyfer y flwyddyn dyrannu'r grant. Bydd unrhyw ddyraniad sy'n weddill heb ei ddefnyddio ar ddiwedd 4 blynedd ariannol yn cael ei drosglwyddo yn ôl i'r Gronfa Ymddiriedolaeth.
Mae'r adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2014/15 yn dangos Incwm o £515,804 o’r buddsoddiadau o gymharu â £499,915 yn 2013/14. Mae'r dyraniad grant o £737,766 yn 2015/16 yn uwch na’r ffigyrau hyn ac yn debygol o fod yn uwch na'r incwm a ragwelir ar gyfer 2015/16. Fodd bynnag, dylid nodi bod lefel y grantiau a ddyfarnwyd yn llai na'r twf a ragwelir yng ngwerth y gronfa.
‘Roedd tabl yn dangos y dyraniad grant ym mlynyddoedd ariannol 2008-2015 wedi'i gynnwys yn yr adroddiad. ‘Roedd y tabl yn dangos bod dyraniadau grant o £469,863 o’r blynyddoedd cynt wedi eu dwyn ymlaen i 2015/16. Hyd yma, talwyd £306,654, sef 65% o'r cyfanswm a ddygwyd ymlaen. Mae hyn yn gadael balans o £163,208.92. O’r balans hwn, mae £29,238.19 ohono’n grantiau a gafodd eu dyfarnu dros 4 blynedd yn ôl ac felly ni chawsant eu hawlio yn unol ag amodau dyfarnu’r grant. Cynigiwyd yn yr adroddiad y dylai Swyddogion yr Ymddiriedolaeth ysgrifennu at y sefydliadau unigol nad ydynt wedi hawlio eu dyraniad grant yn ystod y cyfnodau 2008/09 i 2010/11 i'w hysbysu bod y grant wedi cael ei dynnu'n ôl yn unol â chanllawiau'r Ymddiriedolaeth Elusennol bod raid cwblhau prosiectau cyn pen pedair blynedd i’r dyfarniad grant.
‘Roedd aelodau'r Pwyllgor yn ystyried y dylid cysylltu gyda sefydliadau nad ydynt wedi hawlio'r grantiau a ddyfarnwyd yn 2010/11 i ganfod a ydynt yn gallu cyflawni eu prosiectau a hawlio'r grant a ddyfarnwyd iddynt.
PENDERFYNWYD: -
· Awdurdodi Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i ysgrifennu at y sefydliadau unigol nad ydynt wedi hawlio eu dyraniad grant yn ystod y cyfnodau 2008/09 a 2009/2010 i'w hysbysu bod y cynnig o grant wedi cael ei dynnu'n ôl erbyn hyn.
· Awdurdodi Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i ysgrifennu at y sefydliadau unigol nad ydynt wedi hawlio eu dyraniad grant yn ystod y cyfnod 2010/11 i weld a ydynt yn gallu cwblhau eu prosiectau a hawlio'r grant a ddyfarnwyd iddynt.
· Nodi bod y lefel gwariant cyfredol yn uwch na'r incwm a gynhyrchir sy'n cael effaith ar falans cyfalaf cyffredinol y buddsoddiadau.
Dogfennau ategol: