Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  10C118F/RE – Tyn Dryfol, Soar

12.2  19C1038F – Ffordd Tyn Pwll, Caergybi

12.3  25C227C/RE – Cwyrt, Llanerchymedd

12.4  25C254 – Ysgol Gynradd Llanerchymedd , Llanerchymedd

12.5  31C431 – Borthwen, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

12.6  36C344 – Ysgol Gynradd Henblas, Llangristiolus

12.7  44C320 – Gorslwyd Fawr, Rhosybol

Cofnodion:

12.1 10C118F / RE Cais llawn i adeiladu fferm arae solar 2.5MW ar dir ger Tyn Dryfol, Soar

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr George Meyrick annerch y cyfarfod fel cefnogwr i'r cais. Gwnaeth Mr Meyrick y pwyntiau canlynol:-

 

· Dywedodd Mr Meyrick bod y cais hwn yn ddatblygiad llawer llai na'r fferm arae solar a gymeradwywyd eisoes yn yr ardal. Roedd yn ystyried y byddai ganddo lai o effaith ar yr ardal;

·  Roedd yn cydnabod bod cludo deunyddiau i'r ddwy fferm solar a

gymeradwywyd yn flaenorol wedi achosi problemau mewn perthynas â difrod i'r priffyrdd;

· Byddai’r cyfnod cludo deunyddiau ar gyfer y datblygiad hwn yn 2/3 wythnos o gymharu â’r 2/3 mis ar gyfer y ceisiadau blaenorol a gymeradwywyd;

· Cynigir Buddion Cymunedol i'r cymunedau cyfagos yn unol ag ymrwymiadau cyfredol Stad Bodorgan. Mae £45k wedi cael ei ymrwymo mewn perthynas â’r ddwy fferm arae solar a gymeradwywyd eisoes ac mae £19k eisoes wedi’I rannu rhwng Cloc Coffa Gwalchmai, cyfleuster Maes Chwarae Llangristiolus a Neuadd Gymuned Aberffraw;

· Mae Llywodraeth y DU bellach wedi newid y rheolau o ran rhyddhad treth effaith gymdeithasol ar ffermydd solar o'r fath;

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Mr Meyrick ynghylch pa lonydd yr oedd y datblygwr yn bwriadu eu defnyddio i gludo deunyddiau i'r safle.Nododd Mr Meyrick drac ar y map a ddangoswyd i'r Pwyllgor a fydd yn cael ei ddefnyddio i gludo deunyddiau. Holwyd ynghylch maint y Budd Cymunedol a ragwelir yn wyneb y ffaith bod y datblygiad hwn yn llai. Atebodd Mr Meyrick y bydd y Budd Cymunedol yn cael ei gyfrifo ar sail pro-rata mewn cysylltiad â maint y fferm solar arfaethedig yn Tyn Dryfol, Soar ac y gallai fod o gwmpas pedwar i bum mil o bunnoedd. Holwyd a oedd modd gorfodi’r hawliau pori’r tir yn Tyn Dryfol. Atebodd Mr Meyrick nad oedd yn gallu gorfodi hawliau pori ar y tir ond roedd yn cadw’r hawl pori ar ran Stad Bodorgan fel y tirfeddiannwr.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau pellach i Mr Meyrick ynghylch sylwadau'r gwrthwynebydd am y difrod sylweddol a wnaed i’r priffyrdd pan adeiladwyd ffermydd solar yn yr ardal o’r blaen, ynghyd â'r anghyfleustra a’r anhwylustod I drigolion lleol yn ystod y cyfnod adeiladu. Atebodd Mr Meyrick y bydd Stad Bodorgan yn ymdrechu i bwyso ar y datblygwr i leihau i’r eithaf unrhyw ddifrod i'r isadeiledd priffyrdd yn yr ardal. Os oes difrod i'r priffyrdd yn parhau yn dilyn adeiladu’r ddwy fferm arae solar eisoes yn yr ardal bydd yn cysylltu â'r Awdurdod Priffyrdd i drafod y mater a chywiro’r diffygion.

 

 

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd, sy'n aelod lleol, nad oedd wedi derbyn unrhyw

wrthwynebiadau i'r cais hwn yn Tyn Dryfol, Soar ond ei bod wedi derbyn nifer o gwynion yn y 12 mis diwethaf ynghylch y ddwy fferm arae solar a gymeradwywyd eisoes yn yr ardal. Mynegwyd cwynion am y difrod i wrychoedd, ffosydd a phriffyrdd. Dywedodd y bydd yn croesawu cynllun priffyrdd cadarn mewn perthynas â'r cais hwn. Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Priffyrdd a Rheoli Datblygu) y byddai’r Cynllun Rheoli Traffig yn cael ei asesu cyn ei gymeradwyo a bod gan yr awdurdod priffyrdd bwerau arbennig dan Ddeddf Priffyrdd 1980 I adennill costau mewn perthynas â difrod a wnaed i briffyrdd gan draffig eithriadol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod yn dymuno newid yr adroddiad i'r Pwyllgor gan mai cais am fferm solar 2.5MW yw hwn ac felly nid yw'n cael ei gategoreiddio fel 'ar draws yr Awdurdod Lleol' ym Mholisi Cynllunio Cymru.  Dywedodd fod yna ragdybiaeth o blaid datblygiadau o'r fath mewn polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol ac felly mae sail polisi i gefnogi'r cais hwn mewn perthynas â phrosiectau ynni adnewyddadwy ar yr amod bod yr effeithiau ar yr ardal yn dderbyniol i'r awdurdod cynllunio lleol. Mae'r cynnig yn dderbyniol o safbwynt yr effaith ar y dirwedd a’r effaith weledol ac nid yw'n niweidio bioamrywiaeth neu dreftadaeth ddiwylliannol ac nid yw'n achosi niwed annerbyniol i fwynderau. Bydd unrhyw effeithiau andwyol, megis amhariad traffig, sŵn a llwch yn cael eu cyfyngu i'r gwaith adeiladu. Pwysleisiodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio

mai cyfraniadau gwirfoddol yw cyfraniadau 'Budd Cymunedol' mewn perthynas ag unrhyw geisiadau cynllunio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 19C1038F Cais llawn i godi annedd ynghyd â chreu mynedfa i

gerbydau ar dir yn Ffordd Tyn Pwll, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan y Cynghorwyr D. R. Thomas a T. Ll. Hughes fel Aelodau Lleol a gofynnodd y ddau am ymweliad safle fel y gall Aelodau weld y pryderon lleol o ran materion iechyd a diogelwch a thraffig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid ymweld â’r safle ac eiliodd y

Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3 25C227C / RE Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 15kW, gydag uchder hwb o hyd at 15m, diamedr rotor o hyd at 9.8m, ac uchder fertigol o hyd at 19.9m at frig y llafn ar dir yn Cwyrt, Llannerch-y-medd

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan y penderfynwyd na fydd pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir y gall y safle gymryd y tyrbinau arfaethedig heb wneud niwed gormodol i fwynderau gweledol neu breswyl.  Dywedodd ymhellach bod yna bolisïau cynllunio cenedlaethol a lleol i gefnogi datblygiadau tyrbinau gwynt o’r fath.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd T. V. Hughes y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod ymweliad safle yn cael ei gynnal ac eiliodd y Cynghorydd Ann Griffith y cynnig.

 

Yn y bleidlais ddilynol:-

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4 25C254 Cais llawn i newid defnydd tir o gae ysgol i randiroedd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir y tu cefn i Ysgol Gynradd Llannerch-y-medd

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5 31C431 Cais llawn i newid y defnydd a wneir o’r adeilad presennol o fod yn annedd breswyl i feithrinfa yn Borthwen, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau aelod lleol.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan y Cynghorwyr R. Meirion Jones ac A W Mummery fel Aelodau Lleol a gofynnodd y ddau am ymweliad â’r safle fel y gall Aelodau weld y pryderon lleol o ran materion trafnidiaeth yn yr ardal.

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod ymweliad safle yn cael ei gynnal ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelodau Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.

 

12.6 36C344 Cais amlinellol i godi annedd, ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau ynghyd ag ail-leoli’r fynedfa i'r cae ar dir ger Ysgol Gynradd Henblas, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Fel aelod lleol, gofynnodd y Cynghorydd T. V. Hughes am ymweliad â’r safle fel y gall Aelodau ei weld drostynt eu hunain oherwydd bod manylion yn y cais yn cyfeirio at fynediad uniongyrchol i'r briffordd o'r plot yn ogystal ag ailwampio mynediad i gae rhwng y cynnig a'r annedd gyfagos sy'n cael ei hadeiladu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd T. V. Hughes y dylid ymweld â’r safle ac eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

PENDERFYNWYD ymweld â'r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.

 

12.7 44C320 Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir ger Gorslwyd Fawr, Rhosybol

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mrs Ffion Gough i annerch y cyfarfod i gefnogi ei chais.  Gwnaeth Mrs. Gough y pwyntiau canlynol:-

 

· Roedd y teulu’n dymuno dychwelyd i bentref Rhosybol i fagu eu dwy ferch ifanc yn yr un modd ag y cafodd Mrs Gough ei magu, gan fynd i'r ysgol gynradd leol, yr Ysgol Sul a’r Capel, yr Urdd a chymryd rhan yn y Clwb Ffermwyr Ifanc lleol.  Mae pedair cenhedlaeth o'r teulu yn byw ym mhentref Rhosybol. Mae pwynt 7 Cynllun Lleol Ynys Môn yn nodi bod 'y Gymraeg yn bwysig. Ffordd o gynorthwyo yw rhoi pob cyfle i aros yn yr ardal lle cawsant eu geni a'u magu '.

· Mae Polisi 42 y Cynllun Lleol yn nodi: 'Bydd y Cyngor yn ffafrio cynigion ar gyfer datblygiadau sy'n hyrwyddo safon dylunio uchel.' Maent yn awyddus i gydymffurfio â'r canllawiau. Maent hefyd yn awyddus i adeiladu cartref a fydd yn cyd-fynd ag egwyddorion personol o ran diogelu'r amgylchedd a thorri i lawr cymaint â phosibl ar allyriadau golau artiffisial.

· Mae Polisi 50 y Cynllun Lleol yn nodi bod Rhosybol yn bentref rhestredig.  Roedd Mrs Gough yn credu bod eu cais yn cydymffurfio'n llawn â'r canllawiau ac y byddai’n estyniad bychan, rhesymol i’r pentref. Mae dwy annedd newydd ger safle'r cais yn barod.

 

Holodd y Pwyllgor Mrs Gough ynghylch pam mae safle'r cais wedi'i leoli ymhellach i mewn i'r cae yn y lleoliad hwn. ‘Roedd y cynllun a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn dangos adeiladau ger y fynedfa i'r safle. Ymatebodd Mrs Gough nad oedd digon o le a dyna pam mae’r annedd arfaethedig wedi'i lleoli ymhellach i mewn i'r cae.  Dywedodd nad oedd y cynllun a ddangoswyd i'r Pwyllgor yn dangos bod annedd newydd wedi ei hadeiladu ger safle'r cais. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch pwy yw perchennog y ffordd sy'n mynd heibio safle'r cais ac a yw'n ffordd

breifat. Ymatebodd Mrs Gough mai ffermwr lleol yw perchennog y tir y maent yn bwriadu adeiladu arno ac mai ef oedd perchennog y ffordd hefyd. Maent yn bwriadu prynu erwau o’r cae gan y perchennog fel y gwnaed ar gyfer y ddwy annedd arall ger y safle.

 

Soniodd yr aelodau, pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo, y byddai angen cysylltu i’r brif garthffos. Ymatebodd Mrs Gough fod y cais wedi cael ei wneud drwy asiant a’i fod ef yn hyderus y gellir cysylltu’r annedd i’r brif garthffos.

 

Dywedodd aelod lleol, sef y Cynghorydd Aled M. Jones, fod y Pwyllgor wedi clywed y rhesymau personol pam mae’r teulu ifanc hwn eisiau dychwelyd i bentref Rhosybol. Roedd pedair cenhedlaeth o'r teulu wedi cael eu magu yn y pentref ac yn byw yno. Mae'r ymgeisydd wedi amlinellu polisïau cynllunio sy'n cefnogi’r cais hwn; nid yw hwn yn gais sy’n tynnu’n groes i bolisi.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y Cyngor Cymuned lleol, Dŵr Cymru a'r Awdurdod Priffyrdd yn awr wedi ymateb heb unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad. Gwnaed argymhelliad o wrthod gan y byddai'r annedd yn ymestyn I gefn gwlad agored ac na fyddai’n estyniad rhesymol i'r pentref ac y byddai'n cael effaith andwyol ar y dirwedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn cefnogi'r cais hwn gan ei fod yn ystyried bod angen cefnogi teuluoedd Cymraeg a’u galluogi i ddychwelyd i'w cymunedau lleol. Cynigiodd y Cynghorydd Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Roedd y Cynghorydd K. P. Hughes hefyd yn cefnogi'r cais hwn ac eiliodd y cynnig i ganiatáu.

 

Yn dilyn y bleidlais ddilynol, ymataliodd y Cynghorwyr John Griffith a T V Hughes eu pleidlais.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog

oherwydd bod y Pwyllgor o’r farn bod y cais yn cydymffurfio â gofynion Polisi 50. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn otomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau a roddwyd dros ganiatau’r cais.

Dogfennau ategol: