Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 44C320 – Gorslwyd Fawr, Rhosybol

 

7.2 45LPA605A/CC – Dwyryd, Niwbwrch

Cofnodion:

7.1     44C320 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Gorslwyd Fawr, Rhosybol

 

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Wedi datgan diddordeb rhagfarnus yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd Nicola Roberts allan o’r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad yn ei gylch.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio pan ystyriwyd y cais yn wreiddiol gan y Pwyllgor ym mis Ionawr, 2016, argymhelliad y Swyddog oedd gwrthod y cais oherwydd lleoliad y cynnig. Penderfynodd y Pwyllgor  ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog a phan gafodd y cais ei ailgyflwyno yng nghyfarfod y mis canlynol yn unol â thelerau Cyfansoddiad y Cyngor, cafodd ei ohirio er mwyn ymweld â’r safle yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor ac fe’i gohiriwyd eto ym mis Mawrth, 2016 ar gais yr ymgeiswyr er mwyn rhoi rhagor o amser iddynt roi sylw i faterion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor . Mae'r ymgeiswyr bellach wedi cadarnhau erbyn hyn mai'r rheswm am ohirio oedd er mwyn ymchwilio yn llawn i faterion a oedd yn ymwneud â chysylltu i'r carthffosydd cyhoeddus presennol cyn symud ymlaen. Dywedodd y Swyddog bod yr ymgeiswyr ers hynny, ac yn dilyn yr ymchwiliadau, wedi cadarnhau nad yw cysylltu i’r carthffosydd cyhoeddus presennol yn opsiwn ymarferol am y rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. Nid yw'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn newid argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais a hynny am y rheswm y bydd y safle’r cais yn nodwedd ynysig yn y dirwedd ac ni fydd yn ffurfio rhan annatod o'r rhan honno o’r pentref sydd eisoes wedi ei datblygu.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones nad oedd yn credu y byddai'r datblygiad arfaethedig yn arbennig o weladwy ac na fyddai'n ychwanegu at yr effaith bresennol y mae dau dŷ yn y cyffiniau eisoes yn ei chreu. Dywedodd ei fod felly yn cefnogi'r cynnig. Cytunodd y Cynghorydd Jeff Evans gyda'r Aelod Lleol a dywedodd fod asesu a yw datblygiad arfaethedig yn ffurfio estyniad bychan rhesymol i'r pentref yn fater o farn a’i fod ef yn credu bod hynny’n wir yn yr achos hwn ac y gellir ei ystyried felly ac na fyddai’r datblygiad yn ymwthio’n annymunol i'r dirwedd. O ystyried bod Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai pob cais gael ei ystyried ar ei rinweddau ei hun, nid oedd yn credu y byddai'r cynnig o reidrwydd yn gosod cynsail ar gyfer cynigion pellach yn y dyfodol. Cynigiodd y dylid cadarnhau penderfyniad gwreiddiol y Pwyllgor a chymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Roedd y Cynghorydd Kenneth Hughes hefyd o blaid y cynnig am yr un rhesymau ac oherwydd ei fod o’r farn na fyddai'n niweidiol i gymeriad yr ardal, ac na fyddai'n ei gwneud yn anodd i wrthod cynigion datblygu yn y dyfodol yn yr ardal honno. Ar yr amod fod polisi cynllunio yn caniatáu, ac roedd ef o’r farn bod hynny’n wir yn yr achos hwn, mae’n ddyletswydd ar gynghorwyr i gefnogi teuluoedd ifanc sy'n dymuno ymgartrefu yn eu cymuned. Mae dod i benderfyniad ar y cais yn fater o farn ac yn ei farn ef, nid oedd unrhyw reswm i wrthod y cais. Felly roedd yn cefnogi'r cynnig i ganiatáu’r cais.

Roedd y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith a Victor Hughes yn credu fel arall ac yn gwrthwynebu’r cais oherwydd y materion canlynol yr oeddent wedi eu nodi yn ystod yr ymweliad â’r safle –

 

           Mae safle'r cais wedi ei leoli ar fryncyn ac wedi ei amgylchynu gan gefn gwlad agored

           Mae angen ymchwilio ymhellach i faterion draenio / carthffosiaeth

           Nid yw’r fynedfa i safle’r cais ar hyd trac fferm sengl, heb ei oleuo yn ddelfrydol o gwbl

           Nid oes modd gweld yn iawn oherwydd bod gwrychoedd wedi tyfu'n wyllt uwchben wal garreg ar  y naill ochr ac mae pedwar o bolion cyfleustodau ar yr ochr arall sy’n golygu y gallai’r fynedfa i'r briffordd fod yn beryglus. Yn ogystal, mae’r fynedfa yn cysylltu i’r briffordd mewn man lle mae troadau drwg.

           Bydd y datblygiad arfaethedig yn ychwanegol at y ddwy annedd gymharol newydd yn y cyffiniau (a gymeradwywyd yn groes i argymhelliad y Swyddog yn 2008 a 2010) ac yn arwain at fwy o ddefnydd o'r trac gan godi materion yn ymwneud â diogelwch ar y briffordd.

           Bydd y cynnig yn ymestyn y pentref y tu draw i'r rhan honno o’r anheddiad sydd wedi ei datblygu, a hynny mewn ffordd amhriodol i fyny llwybr fferm ac i mewn i'r cefn gwlad ac mae'n debygol o osod cynsail ar gyfer datblygiad pellach yn yr ardal hon yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes ei fod yn gwrthwynebu'r cais yn gryf ac yn cynnig y dylid ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Cefnogwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor am eglurhad ynghylch barn yr Adran Briffyrdd, dywedodd y Swyddog Priffyrdd ei fod yn un o amodau’r cais a ganiatwyd yn 2010 bod yr ymgeisydd yn gwella'r fynedfa er mwyn sicrhau’r gwelededd gorau posib dan y safonau cyfredol ac fe wnaed hynny gan yr ymgeisydd.  Mae sicrhau bod y gwrychoedd yn cael eu rheoli a'u torri'n ôl yn rheolaidd er mwyn sicrhau y cynhelir y lefel orau bosib o welededd yn fater i’r Adain Orfodaeth. Petai hynny'n cael ei wneud, yna byddai’r fynedfa yn cydymffurfio â'r safonau. Ni fedrir gwrthod y cynnig am y rhesymau hynny oherwydd derbyniwyd y mater gwelededd fel rhan o'r caniatâd a a roddwyd yn 2010.Mae 5m cyntaf y fynedfa yn ddigonol i ddarparu ar gyfer dau gerbyd. Gan fod y ffordd yn ffordd breifat, nid yw'r Awdurdod Priffyrdd yn gallu mynnu bod gwelliannau yn cael eu gwneud iddi. Nid oes gan yr Adran Briffyrdd unrhyw wybodaeth yn ei feddiant i ddangos faint o ddamweiniau sydd wedi digwydd, neu bron â digwydd, ar y briffordd, felly, ar y sail honno ni ellir dweud bod y fynedfa’n beryglus. Petai damwain yn digwydd ni fyddai cyfrifoldeb ar y Cyngor oherwydd bod y fynedfa wedi ei dylunio yn unol â safonau gwledig sy'n ffurfio rhan o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

Mewn ymateb i gais am eglurhad ynghylch a fyddai caniatáu'r cais yn gosod cynsail ar gyfer datblygiadau posibl yn y dyfodol, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig yn atgyfnerthu datblygiad yn y cefn gwlad gan danseilio’r defnydd o Bolisi 50. Mae dwy annedd eisoes yn yr ardal sydd ynddynt eu hunain wedi arwain at newid yng nghymeriad yr ardal; pe bai'r cais hwn yn cael ei gymeradwyo a bod cais pellach yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol, yna byddai bodolaeth annedd arall yn ffactor y byddai’n rhaid ei asesu ar y pryd.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd ar y mater, pleidleisiodd y cynghorwyr Jeff Evans, Kenneth Hughes, Richard Owain Jones a W T Hughes i gadarnhau caniatau’r cais, a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog. Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Victor Hughes ac Ann Griffith i wrthod y cais. Ymataliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ei bleidlais am nad oedd wedi bod ar yr yr ymweliad safle. Cafodd y cynnig i gadarnhau caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ei gario ar bleidlais fwrw'r Cadeirydd.

 

Penderfynwyd cadarnhau'r penderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

7.2  45LPA605A / CC - Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi'u cadw’n ôl ar gyfer codi 17 o    anheddau newydd, dymchwel y bloc toiledau presennol ynghyd â chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger Dwyryd, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn cael ei wneud gan y Cyngor ar dir y Cyngor. ‘Roedd y ddau Aelod Lleol wedi nodi eu bod yn dymuno galw’r cais i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor.

 

Ar ôl gwneud datganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Ann Griffith y cyfarfod am y drafodaeth arno.

 

Penderfynwyd nodi bod y cais wedi ei dynnu'n ôl.

Dogfennau ategol: