Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 28C186C – Ty Newydd, Llanfaelog

 

11.2 45C83E – Tre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

Cofnodion:

11.1 28C186C - Cais llawn i newid defnydd adeiladau allanol presennol yn dair annedd yn Ty Newydd, Llanfaelog

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y'i diffinnir gan baragraff 4.6.10.2 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol dan y paragraff perthnasol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y bwriad i addasu’r adeiladau allanol i greu tair  annedd yn cael ei gefnogi gan y polisi a bod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer y cynnig yn 2009 ond ei fod bellach wedi dod i ben. Ni fu unrhyw newidiadau perthnasol yn y polisïau lleol a chenedlaethol sy'n rheoli’r math hwn o ddatblygiad yn y cyfamser ac ‘roedd y  Swyddog o’r farn bod dyluniad y cynnig yn parchu cymeriad ac edrychiad yr adeilad presennol ac na fyddai’n cael effaith niweidiol ar fwynderau eiddo cyfagos, yr ardal o'i gwmpas na diogelwch y briffordd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ymataliodd y Cynghorydd Ann Griffith ei phleidlais)

 

11.2 45C83E - Cais llawn i addasu’r gweithdy presennol yn dair annedd yn Tre Wen, Pen Lôn, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan Swyddog Monitro'r Cyngor.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan Mr Gwyndaf Rowlands fel Siaradwr Cyhoeddus a oedd yn gwrthwynebu’r cais ac fel rhesymau dros wrthwynebu soniodd am yr effeithiau ar gymeriad yr ardal sydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; gosod cynsail newydd ar gyfer yr ardal hon; gorddatblygu a materion mynediad.

 

Siaradodd Mr Richard Owen ar ran ei rieni, yr ymgeiswyr, o blaid y cynnig a dywedodd fod y bwriad yn cydymffurfio â pholisi ac y gwneir pob ymdrech i sicrhau ei fod yn gweddu gyda'r ardal o'i gwmpas drwy wneud cyn lleied o newidiadau â phosibl i edrychiad yr adeilad presennol. Nid yw’r Adain Tirwedd yn gwrthwynebu ac ni fydd y effeithio ar fwynderau’r tai sydd yno ar hyn o bryd.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Pwyllgor o ran pwy y byddai'r tair annedd yn darparu ar eu cyfer, eglurodd Mr Owen, er y byddent yn sicrhau y gallai cenhedaethau o'r teulu aros o fewn y gymuned yn y dyfodol, gellid eu gosod yn y cyfamser fel llety gwyliau.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig i'r cynnig ar wahân i wrthwynebiad amhenodol gan y Cyngor Cymuned. O ran yr egwyddor datblygu, mae’r polisi’n cefnogi’r math hwn o ddatblygiad ac nid yw’n gosod unrhyw gyfyngiad ar y defnydd.Mae'r cynllun yn cadw cymeriad a ffurf yr adeilad presennol ac nid ystyrir y bydd yn arwain at unrhyw effaith annerbyniol ar dirwedd ddynodedig yr AHNE; nid ystyrirchwaith y bydd yn cael unrhyw effaith ar fwynderau. Nid oes unrhyw faterion technegol neu faterion priffordd yn codi ac felly argymhellir caniatáu.

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd bod yr amod parcio a awgrymwyd gan yr Adran Briffyrdd yn ymwneud â'r angen i’r safle gydymffurfio â safonau parcio; cadarnhaodd y Swyddog bod y cynllun yn nodi'r lleoedd sydd ar gael a bod yr amod yn sicrhau bod y trefniadau parcio yn unol â'r manylion a gyflwynwyd fel rhan o'r cais.

 

Nododd y Pwyllgor gan nad yw Cyngor Cymuned Rhosyr wedi egluro’n glir beth yw ei  wrthwynebiad i'r cynnig ei bod yn anodd rhoi pwys arno.

 

Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith nad oedd wedi derbyn unrhyw sylwadau o blaid nac yn erbyn y cynnig ond roedd yn siomedig nad oedd y Cyngor Cymuned wedi cyflwyno rheswm cynllunio dros wrthwynebu. Cyfeiriodd at nifer yr eiddo newydd a adeiladwyd yn y pentref sy’n dod yn dai haf ac sy’n wag am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, a dywedodd fod Niwbwrch yn prysur fynd yn rhyw fath o Rosneigr ger y môr. Mae'r rhain yn eiddo sydd y tu hwnt i gyrraedd ariannol pobl leol ac nid oedd yn gweld bod unrhyw angen lleol am y datblygiad pellach hwn yr oedd hi’n credu ei fod yn or-ddatblygiad mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Cynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod. Ni chafwyd eilydd i'r cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ymataliodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Victor Hughes rhag pleidleisio)

Dogfennau ategol: