Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 19C1038F – Ffordd Ty’n Pwll, Caergybi

 

7.2 31C431 – Borthwen, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

 

7.3 36C344 – Ysgol Gynradd Henblas, Llangristiolus

 

7.4 44C250A – Tai Cyngor , Fourcrosses, Rhosgoch

 

7.5 44C320 - Gorslwyd Fawr, Rhosybol 

Cofnodion:

7.1     19C1038F - Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Ffordd Ty’n Pwll, Caergybi

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor ac wedi gofyn hefyd am ymweliad â’r safle.  Yn ei gyfarfod ar 6 Ionawr   2016, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 20 Ionawr, 2016.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan Alaw Griffith, Siaradwraig Gyhoeddus, a oedd yn cefnogi'r cais a gafodd ei ddatblygu yn dilyn trafodaethau rhwng yr ymgeisydd, Grŵp Cynefin a’r Adran Dai i gwrdd ag angen a nodwyd am annedd 3 ystafell wely yng Nghaergybi. Cyfeiriodd at newidiadau a wnaed i'r cynllun i liniaru effeithiau ar y briffordd. Mae'r cynnig yn darparu ar gyfer dau le parcio o fewn y plot ac ni fydd yn gwaethygu’r problemau parcio cyfredol ar hyd Ffordd Ty'n Pwll. Dywedodd fod cadarnhad wedi ei dderbyn gan yr Adran Briffyrdd nad oedd Ffordd Ty'n Pwll yn Llwybr Diogel dynodedig.

 

Holodd y Pwyllgor y Siaradwraig er mwyn cael eglurhad ar fanylion y mynediad i'r datblygiad arfaethedig a'r problemau posib o ran ceir yn dod allan i Ffordd Ty'n Pwll gan achosi peryglon i gerddwyr.

 

Siaradodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, Aelod Lleol, am ei bryderon ynghylch y cynnig  oherwydd maint bychan y safle, defnydd traffig a cherddwyr o Ffordd Ty'n Pwll a’r ystyriaethau diogelwch yn sgil hynny, problemau parcio ac effeithiau posib ar fwynderau trigolion sy’n byw union gyferbyn â Ffordd Ty’n Pwll.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y derbynnir yr egwyddor o ddatblygiad preswyl gan fod safle'r cais yn dir gwag mewn lleoliad canolog yng Nghaergybi sydd wedi ei amgylchynu gan ddatblygiadau preswyl.   Roedd y pryderon lleol ynglŷn â'r cais yn ymwneud â thraffig a diogelwch cerddwyr. Mae'r rhain wedi cael eu hystyried gan yr Adran Briffyrdd sydd o’r farn nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod yr effeithiau ar y briffordd yn ddigon andwyol i gyfiawnhau gwrthod. Mae cynllun bloc wedi ei gyflwyno gyda'r cais sy'n dangos bod safle’r cais yn ddigonol ar gyfer y cynnig ac nid ystyrir y byddai'r annedd arfaethedig yn anghydnaws â’r tai eraill yn yr ardal gyfagos.

 

Mynegodd rhai Aelodau o'r Pwyllgor bryderon ynghylch effaith y cynnig ar y briffordd a thraffig a’r  effeithiau, o ganlyniad, ar ddiogelwch cerddwyr yr oeddent yn credu eu bod yn annerbyniol. ‘Roedd yr Aelodau eraill o’r farn na fyddai ychwanegu un annedd yn y lleoliad hwn yn gwaethygu'r sefyllfa bresennol o ystyried y bydd yn cael ei leoli mewn ardal breswyl ac yn gyfagos i garejys. Gan y bydd yr annedd newydd arfaethedig yn gallu gwneud darpariaeth ar gyfer cerbydau o fewn cwrtil y plot, roeddent yn teimlo na fyddai'n ychwanegu at  broblemau parcio.

 

Mewn perthynas â symudiadau i’r briffordd ac ohoni, cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd nad yw'r sefyllfa yn ddelfrydol ond bod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt Priffyrdd ac yng nghyd-destun y canllawiau a ddarperir gan y Llawlyfr Strydoedd sy'n delio â sefyllfaoedd fel hyn lle mae yna rwystrau. Dywedodd y swyddog hefyd fod yr Adran Draffig wedi cadarnhau nad yw Ffordd Ty'n Pwll wedi ei dynodi fel Llwybr Diogel i'r Ysgol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei wrthod ar sail diogelwch ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies. Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts. Yn y bleidlais ddilynol, cafodd y cynnig i gymeradwyo'r cais ei gario.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2     31C431 - Cais llawn i newid defnydd o adeilad presennol o fod yn annedd breswyl i fod yn feithrinfa yn Borthwen, Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod dau Aelod Lleol wedi ei alw i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor oherwydd pryderon priffyrdd. Yn ei gyfarfod ar 6 Ionawr  2016, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais fel y gellid ymweld â'r safle. Ymwelwyd â'r safle wedi hynny ar 20 Ionawr, 2016.

 

Fel Siaradwr Cyhoeddus, siaradodd Mr Gerallt Francis yn erbyn y cais oherwydd pryderon ynghylch y straen ychwanegol y byddai byngalo a fyddai’n lletya 32 o blant a staff yn ei roi ar yr isadeiledd; cynnydd mewn llif traffig gan arwain at effaith negyddol ar fwynderau preswyl ac iechyd; effeithiau priffyrdd oherwydd lleoliad y fynedfa a fyddai’n arwain at dagfeydd posib a chynnydd mewn sŵn a llygredd i drigolion Ty'n Cae a’r effaith negyddol ar werth eiddo.

 

Siaradodd Miss Samantha Owen o blaid y cais ac ymhelaethodd ar natur y cynnig a'r hyn yr oedd yn  ei olygu; y rhesymau y tu ôl i'r cynnig, sut y byddai o fudd i'r gymuned yn Llanfairpwll a pham yn ei barn hi, y dylai'r cynlluniau gael eu cefnogi.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad gan Miss Owen ynglŷn â hygyrchedd y safle i staff a chwsmeriaid a fyddai’n dymuno cerdded i'r feithrinfa arfaethedig a pha mor realistig oedd y disgwyliad y byddai hynny'n digwydd. Gofynnodd  hefyd am ei barn ynghylch y pryderon a fynegwyd gan y gwrthwynebydd a sut y gellid eu lleddfu.

 

Cyfeiriodd Aelod Lleol, sef y Cynghorydd R. Meirion Jones, at ddiogelwch y ffordd fel y prif bryder mewn perthynas â'r cais ac roedd o’r farn mai’r ffordd orau o fynd i'r afael â hynny fyddai drwy gynnal arolwg traffig llawn. Cefnogwyd y farn honno gan y Cynghorydd Jim Evans fel Aelod Lleol arall a thynnodd sylw at y pwysau traffig sy'n dod i lawr Ffordd Penmynydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir bod y cynnig yn un derbyniol ar safle yr ystyrir ei fod yn gynaliadwy. Nid yw swyddogion yn ymwybodol o unrhyw wendidau yn isadeiledd yr ardal ac nid yw’r Adran Iechyd yr Amgylchedd wedi codi unrhyw bryderon ynghylch effeithiau sŵn. Mae’r prif bryder yn lleol yn ymwneud â’r effaith ar y briffordd oherwydd y cynnydd yn y traffig a gynhyrchid gan rieni yn gollwng a mynd i nôl eu plant o'r feithrinfa. Mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno manylion am argaeledd llecynnau parcio o fewn cwrtil y safle ac nid yw’r Adran Briffyrdd yn ystyried bod effeithiau'r cynllun yn golygu y gellir cyfiawnhau ei wrthod.

 

Cydnabu'r Pwyllgor bryderon lleol mewn perthynas â diogelwch y ffordd a thraffig ond er gwaethaf hynny, roedd y mwyafrif o'r Aelodau yn teimlo bod lleoliad y safle yn hwylus i nifer o gwsmeriaid posib gerdded yno a byddai lle parcio digonol ar y safle ac yn y maes parcio wrth ymyl y safle sydd ar gael ar gyfer defnydd cyffredinol. Mae'r cynnig hefyd yn cwrdd ag angen yn yr ardal am ddarpariaeth feithrin o safon. Ni chafodd cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies i ohirio’r cais er mwyn cynnal arolwg traffig ei eilio.

 

Dywedodd y Swyddog Priffyrdd nad oedd yn gweld manteision ceisio sefydlu capasiti’r ffordd oherwydd gall ffordd sy’n gweithredu y tu hwnt i’w chapasiti arafu traffig yn sgil gyrwyr sy’n gollwng ac yn codi teithwyr fel y cyfeiriwyd at hynny eisoes, gan wneud y ffordd felly’n fwy diogel.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3     36C344- Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â manylion llawn y fynedfa i gerbydau ynghyd ag ail-lleoli’r fynedfa i'r cae ar dir ger Ysgol Gynradd Henblas, Llangristiolus

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod Aelod Lleol wedi ei alw i mewn ar gyfer penderfyniad gan y Pwyllgor. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ionawr  2016, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar  y cais hyd yr ymwelwyd â’r safle .Gwnaed hynny wedyn ar 20 Ionawr, 2016.

 

Siaradodd Y Parchedig Gerallt Evans, Siaradwr Cyhoeddus, o blaid y cais fel cydberchennog y plot gyda'i wraig. Cyfeiriodd at y cais fel un syml mewn lleoliad canolog yn y pentref. Mae swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd yn ystyried bod y cais yn dderbyniol. Dywedodd fod y cais i ail-leoli'r fynedfa i'r cae yn cael ei wneud fel opsiwn ar gyfer y dyfodol ac nid oherwydd bod gan yr ymgeiswyr cyfredol unrhyw fwriad i wneud rhagor o waith datblygu.

 

Holodd y Pwyllgor y Parchedig Gerallt Evans ar y cynnig i ail-leoli'r fynedfa i mewn i'r cae a'r rhesymeg dros hynny a cheisiwyd eglurhad ar y cysylltiad rhyngddo a'r cais am annedd newydd.

 

Fel eglurhad, dangosodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio luniau i’r Pwyllgor o’r mynediad i'r plot a'r fynedfa i'r cae amaethyddol y gwneir cais i’w hail-leoli. Dywedodd y Swyddog mai’r materion allweddol sy'n ymwneud â'r cais yw ei gydymffurfiaeth â pholisïau cyfredol a'i effaith ar fwynderau eiddo cyfagos.  Ystyrir bod codi annedd ar y safle yn ddatblygiad mewnlenwi derbyniol o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn gan fod y safle yn agos at yr eiddo cyfagos. Ym marn y Swyddog, ni fyddai’r cynnig yn amharu ar fwynderau deiliaid yr eiddo cyfagos oherwydd y pellteroedd rhwng y cynnig â’r adeiladau hynny. Cynhaliwyd arolwg gan yr Awdurdod Priffyrdd a chynigir amodau.

 

Fel aelod o'r Pwyllgor ac Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig am annedd newydd a’i fod yn derbyn ei fod yn ddatblygiad mewnlenwi. Fodd bynnag, ‘roedd ganddo amheuon difrifol ynghylch y cynnig i ail-leoli'r fynedfa i'r cae  gan na fyddai hynny ond yn hwyluso datblygiad pellach yn yr ardal honno yn y dyfodol yn ei farn ef.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones. Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid gohirio gwneud penderfyniad ar y cais i ganiatáu i Swyddogion Cynllunio drafod gyda'r ymgeisydd y posibilrwydd ei fod yn tynnu’n ôl y rhan o'r cais i ail-leoli'r fynedfa i mewn i'r cae. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies. Yn y bleidlais ddilynol cafodd y cynnig i ganiatáu'r cais ei gario ar bleidlais fwrw'r Cadeirydd.

 

 Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.4     44C250A - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd â manylion llawn ar gyfer addasu'r fynedfa amaethyddol ar dir gyferbyn â’r Tai Cyngor, Four Crosses, Rhosgoch

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2015, gofynnodd asiant yr ymgeisydd am gael gohirio rhoi sylw i’r cais tan 3 Chwefror, 2016 fel y gellid cyflwyno lluniadau 3D o'r cynnig.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan Mr William Edwards, Siaradwr Cyhoeddus a oedd o blaid y cais. Fe nododd fod y plot yn gorwedd mewn clwstwr o anheddau ym mhentref Rhosgoch ac y byddai’n twtio ac yn tacluso’r ardal yn fawr o gymharu â sut mae’n edrych ar hyn o bryd. Mae ei ferch a'i theulu yn bwriadu symud i’r pentref i ymsefydlu.

 

Dangosodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio'r lluniau 3D o safle'r cais i’r Pwyllgor.  Dywedodd y Swyddog mai’r materion cynllunio allweddol yw cydymffurfiaeth y bwriad â pholisïau cyfredol a'i effaith ar y dirwedd ac ar fwynderau eiddo cyfagos. Mae Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn yn cefnogi ceisiadau plot sengl o fewn neu ar gyrion anheddiad ar yr amod na fyddant yn achosi niwed i gymeriad y grŵp nac yn ffurfio elfen ymwthiol niweidiol yn y dirwedd o’u cwmpas. Ym marn y Swyddog, nid oedd y cynnig yn bodloni'r amod hwn gan nad yw mewn lleoliad sy’n cyd-fynd yn dda â’r anheddiad ac felly byddai'n achosi niwed annerbyniol i olwg y lleoliad trwy ymwthio i dirwedd wledig agored.

Pwysleisiodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol, y byddai'r bwriad yn gwella edrychiad yr ardal a’i fod gyferbyn â chlwstwr o dai ac y byddai'n cynorthwyo'r bedwaredd genhedlaeth o’r teulu i ddychwelyd i’w gwreiddiau yn y pentref.

 

‘Roedd y rhan fwyaf o Aelodau'r Pwyllgor yn cytuno gyda safbwynt y Swyddog y byddai'r bwriad yn weledol ymwthiol o fewn y dirwedd ac roeddent yn teimlo y gallai hefyd agor y drws i ddatblygiad pellach. ‘Roedd y Cynghorydd Richard Owain Jones yn cytuno gyda'r Aelod Lleol a chynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Ni chafodd eilydd i’w gynnig. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.5     44C320 - Cais amlinellol i godi annedd gyda'r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ar dir ger Gorslwyd Fawr, Rhosybol

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ionawr, 2016, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, am y rheswm ei fod yn ystyried bod y bwriad yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 gan ei fod yn ffurfio estyniad bychan, rhesymol i'r pentref.

 

Er ei fod yn cydnabod bod y mwyafrif o'r Aelodau wedi pleidleisio i ganiatáu'r cais yn y cyfarfod diwethaf ac er ei fod yn cydymdeimlo â'r ymgeisydd, dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes nad oedd yn credu bod y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50. Roedd yn cydnabod mai mater o farn oedd hynny ac, o’r herwydd, cynigiodd y dylid ymweld â’r safle fel y gallai'r Pwyllgor fod yn fodlon ynghylch a fyddai'r datblygiad arfaethedig yn estyniad rhesymol i'r pentref. Cafodd ei gynnig ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies. Cariwyd y bleidlais i ymweld â’r safle – gyda’r Cynghorwyr Kenneth Hughes, Richard Owain Jones a Jeff Evans yn pleidleisio yn erbyn.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle i asesu a yw’r cynnig yn estyniad bychan, rhesymol i’r pentref.

Dogfennau ategol: