Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 10C118J/VAR – Bryn yr Odyn, Soar

 

12.2 14C171H/ENF – Fferm Stryttwn,  Ty’n Lon

 

12.3 19C1147A – St.David’s Priory, Ffordd Llanfawr, Caergybi

 

12.4 28C116U – Canolfan Arddio Maelog, Llanfaelog

Cofnodion:

12.1 10C118J / VAR - Cais dan Adran 73 i amrywio amod sy'n pennu'r cynlluniau a gymeradwywyd dan ganiatâd 10C118H / MIN er mwyn gwneud newidiadau i'r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol dan ganiatâd cynllunio 10C118A / RE i ymgorffori newidiadau i is-orsafoedd, tŷ monitro cyfarpar, gwrthdroyddion, newidyddion , adeiladu offer switsio, mesur diogelwch gan gynnwys camerâu teledu cylch cyfyng a newidiadau i ffensys diogelwch ar dir ger Bryn yr Odyn, Soar

 

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod wedi ei alw i mewn gan Aelod Lleol.

 

Siaradodd Mr Richard Jenkins, Siaradwr Cyhoeddus, o blaid y cais a dywedodd fod y newidiadau a benodwyd ganddo yn angenrheidiol ar gyfer gweithrediad llwyddiannus a diogel y safle yr oedd  Lightsources wedi ei gaffael a'i ddatblygu ar ôl derbyn y caniatâd gwreiddiol. Mae'r newidiadau yn rhai safonol; nid ydynt yn achosi unrhyw effeithiau ychwanegol at y rhai a ystyriwyd yn wreiddiol ac oherwydd gostwng rhai agweddau ar yr isadeiledd, mae'r effaith yn llai. Mae'r Swyddog Tirwedd yn fodlon bod y newidiadau yn addas ac ni chafwyd unrhyw sylwadau gan y cyhoedd neu ymgyngoreion. Mae'r ymgeisydd mewn cyswllt â'r tirfeddiannwr i gytuno ar drwydded barhaol ar gyfer pori defaid, ac yn dilyn y gwaith adeiladu, cytunwyd ar gamau i drwsio’r ffyrdd gyda'r Adran Priffyrdd ac mae’r gwaith hwnnw bellach wedi ei gwblhau wrth fodd yr Adran.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, fod trigolion Soar yn teimlo eu bod yn cael cam ac nad oes neb yn gwrando arnynt. Nid ydynt yn gwrthwynebu ynni adnewyddadwy ond maent wedi syrffedu gyda datblygiadau ac yn teimlo nad oes dim ar eu cyfer yn lleol ac nid oes unrhyw waith yn lleol. Maent wedi gorfod dygymod â llawer o anghyfleustra - traffig adeiladu’n mynd a dod a difrod i ffyrdd, gwrychoedd a ffosydd a chost i'r pwrs cyhoeddus o ganlyniad. Mae trigolion yn teimlo ei fod yn adlewyrchu diffyg ystyriaeth o bobl leol a’r broses gynllunio gan ei fod yn gais ôl-weithredol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod y cais yn cael ei wneud o dan Adran 73A (yn hytrach nag Adran 73) o'r Ddeddf Gynllunio gan fod y datblygiad eisoes wedi ei gwblhau. Nid ystyrir bod angen AEA ar gyfer y safle. Mae’r egwyddor o ddatblygu eisoes wedi ei sefydlu oherwydd bod caniatâd cynllunio wedi ei roi’n flaenorol ac mae’r safle’n weithredol. Cais yw hwn i reoleiddio'r datblygiad trwy amrywio amod yn y caniatâd cynllunio gwreiddiol a oedd yn dweud bod rhaid gweithredu’r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.  Nid ystyrir bod y bwriad yn achosi niwed annerbyniol i dirwedd, bioamrywiaeth neu dreftadaeth ddiwylliannol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ymataliodd y Cynghorydd Ann Griffiths ei phleidlais).

 

12.2 14C171H / ENF - Cais ôl-weithredol i godi llety gwyliau newydd yn Fferm Stryttwn, Ty'n Lôn

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

Anerchwyd y cyfarfod gan Mr Peter Jones, Siaradwr Cyhoeddus, a oedd yn cefnogi'r cais. Dywedodd fod y Swyddog Rheoli Adeiladu wedi cael gwahoddiad i’r safle ar ôl cael caniatâd i droi stabl yn annedd yn 2014 a’i fod ef wedi cynghori y dylid tynnu’r gwaith plastr oddi ar y waliau mewnol i ddatgelu’r waliau gwreiddiol. Wedyn dywedodd y Swyddog fod y waliau’n anaddas ar gyfer y gwaith yr oedd angen ei wneud a chyfarwyddodd eu bod yn cael eu dymchwel, bod sylfeini’n cael eu gosod a gosod wal gyda brisblociau. Dywedodd Mr Jones ei fod wedi cael gwybod yn ddiweddarach gan y Swyddogion Cynllunio ei fod wedi torri’r caniatâd cynllunio ac fe'i cynghorwyd i wneud cais o’r newydd ar gyfer llety gwyliau fel ffordd bosib ymlaen.  Mae llety gwyliau yn cynnig cyfle a byddai o fudd i'r gymuned leol o ystyried bod cyfleusterau yn yr ardal ar ffurf stablau a llwybr cyhoeddus sy’n creu potensial ar gyfer llety gwyliau o safon uchel.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i Mr Peter Jones er mwyn cael eglurhad ar y cyngor a dderbyniodd ac i sefydlu a oedd wedi cael ei gynghori i gysylltu â Swyddogion Cynllunio i gael caniatâd ar gyfer y newidiadau a wnaed neu a oedd yn ymwybodol bod angen iddo wneud hynny.

 

Dywedodd y Cynghorydd R G Parry, OBE fel Aelod Lleol bod hwn yn achos trist lle’r oedd cwpl ifanc  wedi gweithredu ar sail cyngor gan swyddog proffesiynol ac sydd wedi gwario llawer iawn ar y cynnig mewn ymdrech i greu adeilad o ansawdd.  Mae’r cynnig ar safle tir llwyd, nid yw'n achosi niwed i neb ac mae’n cynnig cyfleusterau i dwristiaid. Mae safle'r cais yn caniatáu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod arhosfan bws ar ddiwedd y lôn. Gofynnodd i’r Pwyllgor roi sylw gofalus i'r cais.

 

Cydnabu'r Rheolwr Datblygu Cynllunio bod hwn yn achos anodd a dywedodd fod caniatâd cynllunio wedi ei roi yn 2014 i droi stabl yn annedd ar sail y manylion a dderbyniwyd gyda'r cais bod strwythur yr adeilad yn gadarn ac yn addas i'w addasu. Nododd y sylwadau a wnaed gan y Siaradwr Cyhoeddus ynghylch ymweliad â safle'r cais gan y Swyddog Rheoli Adeiladu a'r cyngor a roddwyd. Byddai wedi disgwyl cyswllt gyda'r Awdurdod Cynllunio ar yr adeg honno. Pan ymwelwyd â'r safle ym mis Mawrth, 2015 gwelwyd y gwaith a oedd yn torri’r caniatâd cynllunio. Yn dilyn trafodaeth rhwng swyddogion cynllunio a'r ymgeisydd i archwilio'r holl opsiynau sydd ar gael, mae'r cais ôl-weithredol hwn wedi ei gyflwyno ar gyfer cadw a chwblhau'r datblygiad fel llety gwyliau a adeiladwyd o’r newydd mewn ymdrech i reoleiddio materion. Fodd bynnag, yn yr achos hwn ystyrir bod y cais yn gwrthdaro â pholisïau cyfredol gan ei fod yn y cefn gwlad agored heb gysylltiad ag unrhyw setliad neu gyfleusterau eraill ac yn bell ohonynt.  Nid yw mewn lleoliad da ‘chwaith o ran mynediad i gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus ac am y rhesymau hynny yr argymhelliad yw gwrthod y cais.

 

Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor gydymdeimlad â sefyllfa anodd yr ymgeisydd ac roeddent yn rhanedig ynglŷn â rhinweddau'r achos. ‘Roedd yr Aelodau hynny a oedd o blaid y cais yn meddwl bod yr ymgeisydd wedi gweithredu gyda phob ewyllys da ar y cyngor proffesiynol a gafodd gan Swyddog. ‘Roedd yr Aelodau a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig yn gwneud hynny ar y sail bod safle'r cais mewn ardal anghysbell, gan nodi y gallai cymeradwyo’r cais osod cynsail peryglus o safbwynt rheoleiddio gwaith anawdurdodedig a bod yr Awdurdod Cynllunio yn gyfrifol am warchod strwythurau adeiladau lle bo'n briodol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Ann Griffith. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes. Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y cynghorwyr Jeff Evans, Richard Owain Jones, Nicola Roberts, W T Hughes ac Ann Griffith o blaid y cais a phleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Kenneth Hughes a Victor Hughes yn ei erbyn. Felly cafodd y bleidlais i ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ei chario.

 

Y rheswm a roddwyd dros ganiatáu oedd oherwydd yr ystyrir bod y caniatâd sydd eisoes yn bodoli ar y safle ar gyfer creu uned breswyl gyda’r un ôl-troed ac a fyddai’n edrych yr un fath a’r cynnig a gyflwynir yn awr yn gorbwyso'r polisïau a’r canllawiau penodol yr oedd swyddogion wedi eu defnyddio i asesu'r cais. Gan hynny, roedd y Pwyllgor am gymeradwyo'r cais gan ei fod yn ystyried y byddai’r effaith ar y dirwedd yr un fath ag effaith y cynnig sydd eisoes wedi ei ganiatáu.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm a roddwyd dros ganiatáu'r cais.)

 

12.3 1 9C1147A - Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol ynghyd â chodi chwe annedd a chreu mynedfa i gerbydau a maes parcio ar dir ym Mhriordy Dewi Sant, Ffordd Llanfawr, Caergybi

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig

 

12.4 28C116U - Cais dan Adran 73 i amrywio rhag-amodau (05), (06), (11), (12), (13), (14), (15) ar y cyfeirnod penderfyniad apêl APP \ 6805 \ A \ 07 \ 2053627 er mwyn caniatau eu rhyddhau ar ôl dechrau'r gwaith ar y safle, ynghyd â dileu amod (16) yng Nghanolfan Arddio Maelog, Llanfaelog

Cyflwynir y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Siaradodd Mr Julian Rylance, Siaradwr Cyhoeddus, fel yr ymgeisydd ar gyfer y cais ac eglurodd y cefndir o ran sut y cafodd y safle a'r anawsterau ariannol yr oedd wedi dod ar eu traws ar ôl i'r dirwasgiad ddechrau gafael yn 2008 ynghyd â’r rhesymau dros y cais ac yn benodol y cais i ddileu'r amod tai fforddiadwy. Cadarnhaodd ei fod yn dymuno cwblhau'r gwaith adeiladu er mwyn bodloni rhwymedigaethau ariannol ac oherwydd bod y safle yn ei gyflwr anghyflawn presennol yn ddolur llygad. Mae datblygiad ym Mryn Du yn darparu ar gyfer tai fforddiadwy.

 

Holodd y Pwyllgor Mr. Rylance o ran y math o dai a fyddai’n cael eu hadeiladu, eu gwerth a'r tebygolrwydd o fedru cwblhau'r datblygiad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Dew fel Aelod Lleol yn erbyn dileu'r amod tai fforddiadwy. Darllenodd ddarn o adroddiad gan yr Arolygydd Cynllunio yn dilyn yr apêl lwyddiannus yn 2008 am ganiatâd cynllunio ynghylch pwysigrwydd y ddarpariaeth tai fforddiadwy fel amod i greu cymuned gymysg a diwallu angen lleol. Gallai caniatáu'r cais yn awr yn osod cynsail i ddatblygwyr yn y dyfodol  ofyn i gael eu rhyddhau o ymrwymiadau tai fforddiadwy oherwydd ystyriaethau elw. Mae'r datblygiad ym Mryn Du yn cynnwys tai fforddiadwy i'w rhentu ac nid i’w prynu. Gofynnodd i'r Pwyllgor beidio â dileu'r amod tai fforddiadwy. Cefnogwyd ei sylwadau gan y Cynghorydd GO Jones, sydd hefyd yn Aelod Lleol a nododd ddymuniad y Cyngor Cymuned i gadw’r amodau gwreiddiol.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yn y fan hon fod y Pwyllgor bellach wedi bod yn rhedeg am dair awr (‘Roedd ceisiadau 7.1, 7.2, 7.3, 7.4, 10.1, 12.1, 12.2 a 12.4 wedi cael sylw dan Eitem 5 - Siarad Cyhoeddus).  Yn unol â darpariaethau paragraff 4.1.10 yng Nghyfansoddiad y Cyngor, roedd angen penderfyniad gan y mwyafrif o’r Aelodau hynny o'r Pwyllgor a oedd yn bresennol i gytuno i barhau gyda'r cyfarfod. Penderfynwyd y dylai'r cyfarfod barhau.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor fod y cais yn cael ei wneud o dan Adran 73A (yn hytrach nag Adran 73) o'r Ddeddf Gynllunio gan fod y datblygiad wedi cychwyn. Er ystyried bod y cais i amrywio nifer o rag-amodau fel y nodir er mwyn caniatáu amser ar gyfer cyflwyno manylion yn rhesymol, ystyrir bod yr amserlen 12 mis y gofynnir amdani’n ormodol ac roedd Swyddogion yn lle hynny, yn argymell cyfnod o 3 mis. Gyda golwg ar ddileu’r amod tai fforddiadwy, ‘roedd y Swyddog o’r farn bod digon o gyfiawnhad wedi cael ei roi fel yr ymhelaethwyd yn yr adroddiad i ddangos bod y datblygiad yn anhyfyw ac y gallai felly fod yn annhebygol iawn y byddai’r datblygwr yn bwrw ymlaen gyda'r datblygiad os bydd yr amod 30% tai fforddiadwy yn parhau i fod yn ei le.

 

Roedd mwyafrif o Aelodau’r Pwyllgor o’r farn bod cadw'r amod tai fforddiadwy ar y safle yn angenrheidiol er mwyn cwrdd ag anghenion pobl yn yr ardal leol a allai fod eisiau cael troed ar yr ysgol dai  ac na fyddai’n medru gwneud hynny fel arall. Busnes y Pwyllgor yw delio â materion cynllunio ac nid rhoi help llaw i ddatblygwyr a all gael eu hunain mewn trafferthion ariannol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes. Y rheswm a roddwyd dros wrthod y cais oedd yr angen am dai fforddiadwy yn yr ardal hon.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion baratoi adroddiad ar y rheswm a roddwyd dros ganiatáu'r cais.)

Dogfennau ategol: