Eitem Rhaglen

Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2016/17

Cyflwyno Datganiad ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys am 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Adnoddau a'r Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2016/17

 

Adroddodd y Pennaeth Adnoddau fod y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys sy'n cynnwys y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol, y Datganiad Polisi ar y Ddarpariaeth Refeniw Isaf blynyddol, y Datganiad Polisi blynyddol ar Reoli’r Trysorlys a’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Rheoli'r Trysorlys Dirprwyo yn rhan annatod o'r gwaith papur sydd i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor Sir fel rhan o'r broses o fabwysiadu Cyllideb 2016/17. Rhan allweddol o weithgaredd rheoli trysorlys yw sicrhau bod llif arian y Cyngor yn cael ei gynllunio yn ddigonol a bod arian parod ar gael pan fydd ei angen. Ail brif swyddogaeth y gwasanaeth rheoli'r trysorlys yw cyllido cynlluniau cyfalaf y Cyngor; mae'r rhain yn rhoi arwydd o’r swm y bydd angen i’r Cyngor ei fenthyca, sef, i bob pwrpas, cynllunio llif arian ar gyfer y tymor hwy i sicrhau bod y Cyngor yn gallu bodloni ei rwymedigaethau o safbwynt gwariant cyfalaf. (Roedd manylion cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor ar gael dan y tabl ym mharagraff 2 yr adroddiad).

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau wrth y Pwyllgor na fu unrhyw newidiadau sylweddol i'r polisïau sydd wedi'u cynnwys o fewn y Strategaeth o gymharu â’r rhai a gyflwynwyd yn y flwyddyn flaenorol. Mae ymgynghorwyr rheoli trysorlys allanol y Cyngor – Capita Asset Services - wedi cadarnhau bod y Datganiad ar y Strategaeth yn adlewyrchu sefyllfa’r Cyngor ac yn cydymffurfio â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli Trysorlys. Yna, aeth y swyddogr hagddo  i ymhelaethu ar yr elfennau allweddol canlynol yn y Strategaeth, eu harwyddocâd a dull gweithredu’r Cyngor mewn perthynas â phob un -

 

           Y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (sut bydd y buddsoddiadau a’r benthyciadau yn cael eu trefnu) gan gynnwys dangosyddion rheoli'r trysorlys;

           Strategaeth Fuddsoddi (y paramedrau o ran sut y bydd buddsoddiadau’n cael eu rheoli)

           Polisi ar y Ddarpariaeth Refeniw Isaf (MRP) (sut mae gwariant cyfalaf gweddilliol yn cael ei godi ar refeniw dros gyfnod o amser)

           Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys (diffiniad o bolisïau ac amcanion y swyddogaeth rheoli trysorlys)

           y cynlluniau cyfalaf (gan gynnwys y dangosyddion darbodus cysylltiedig)

 

Cafodd y Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau i'r Swyddog mewn perthynas â'r Strategaeth a gofynnodd am eglurhad ar bwyntiau penodol gan gynnwys darpariaethau o fewn cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a'u goblygiadau refeniw. Yn seiliedig ar yr adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar y Swyddog, nododd y Pwyllgor y canlynol:

 

           Bod rhaglenni cyfalaf cyffredinol y Cyngor yn cael eu cyfyngu i'r hyn sy'n fforddiadwy, a hynny o      ran gwariant gwirioneddol a goblygiadau refeniw.

           O ran benthyca, mae'r Cyngor yn cymryd ymagwedd ddarbodus ac ar hyn o bryd mewn sefyllfa o dan-fenthyca.

           Na fydd y Cyngor yn benthyca mwy nag sydd ei angen nac ychwaith yn benthyca cyn i’r angen godi dim ond er mwyn elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycwyd.

           O ran y potensial i gynhyrchu arbedion drwy newid o ddyledion tymor hir i ddyledion tymor byr, mae adolygiad diweddar o aildrefnu dyled wedi dangos y byddai'n costio mwy i'r Cyngor aildrefnu dyledion nag y byddai'n ei arbed mewn llog sy'n ddyledus oherwydd y premiymau mawr y mae BBGC yn eu codi am ad-dalu dyledion yn gynnar.

           Bod polisi buddsoddiad y Cyngor yn cymryd i ystyriaeth y canllawiau perthnasol a'i flaenoriaethau buddsoddi  fydd  diogelwch yn gyntaf, hylifedd yn ail ac yna dychweliadau.

           Nid oes gan yr Awdurdod ar hyn o bryd Arferion Rheoli Trysorlys (TMPs) ar bapur. Mae'r Pwyllgor yn argymell, felly, fod y mater hwn yn cael ei ddatrys yn ystod 2016/17 er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn cydymffurfio gyda’r ymarfer a argymhellir gan CIPFA o ran Rheoli'r Trysorlys.

 

Derbyniodd y Pwyllgor y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a’r polisïau a gyflwynwyd fel rhai sy’n adlewyrchu sefyllfa’r Cyngor ac fel rhai sy'n cynrychioli ymagwedd ddoeth i'r sefyllfa a’r rhagolygon economaidd ehangach.

 

Penderfynwyd -

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad eglurhaol.

           Cymeradwyo’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (gan gynnwys y Dangosyddion Darbodus a Rheoli'r Trysorlys) [Atodiad A] ar gyfer 2016/17.

           Argymell i'r Pwyllgor Gwaith bod camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod Arferion Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn cael eu dogfennu yn unol â’r ymarfer a argymhellir gan CIPFA o safbwynt Rheoli Trysorlys ac yn cael eu cyflwyno ar y cyfle cyntaf i'r pwyllgorau perthnasol yn unol â'r Cynllun Dirprwyo arfaethedig ar gyfer Rheoli Trysorlys yn 2016 / 17.

 

DIM CAMAU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: