Eitem Rhaglen

Hunan-Arfarniadau Ysgol - Ysgol Penysarn

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan yr ysgolion canlynol -

 

Ysgol Penysarn,

Ysgol Talwrn,

Ysgol y Graig

Canolfan Addysg y Bont

Ysgol Amlwch

Ysgol y Ffridd  

Cofnodion:

Cyflwynwyd  yr adroddiadau hunanarfarnu Addysg Grefyddol a ddarparwyd gan Ysgol Penysarn, Ysgol y Talwrn, Ysgol y Graig, Canolfan Addysg y Bont, Ysgol Amlwch ac Ysgol y Ffridd i sylw’r CYSAG.

 

Nododd y CYSAG y canlynol:

 

           Amrywiadau yn yr adroddiadau hunanarfarnu o ran cynnwys a chyflwyniad gyda rhai o'r ysgolion yn cadw at y pro-fforma a gytunwyd ac eraill yn defnyddio ffurf naratif. Cyfeiriwyd yn benodol at yr hunanarfarniadau a ddarparwyd gan Ganolfan Addysg y Bont ac Ysgol Amlwch fel adroddiadau disgrifiadol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r CYSAG bod y pro-fforma wedi cael ei ddosbarthu i ysgolion fel arweiniad ac fel arfer dda yn lleol ond nad oes unrhyw fframwaith cenedlaethol ar gyfer drafftio adroddiadau hunanarfarnu. Rhoddwyd gwybod i’r CYSAG hefyd fod Mrs Catherine Jones, nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, wedi ymweld â Chanolfan Addysg y Bont ym mis Tachwedd i arsylwi cyfnod addoli ar y cyd yn yr ysgol fel rhan o arferion monitro cytunedig y CYSAG.

 

Cytunodd y CYSAG y byddai'n ddefnyddiol ac yn addysgiadol iddo wahodd Pennaeth Canolfan Addysg y Bont i gyfarfod y CYSAG i drafod y ddarpariaeth Addysg Grefyddol yn yr ysgol o safbwynt ysgol arbennig.

 

           Bod nifer o'r ysgolion yn nodi y byddai mwy o ymweliadau cymunedol yn gwella gwybodaeth a gwerthfawrogiad y disgyblion o gredoau eraill a hefyd yn gwella eu gallu i drafod a mynegi eu barn amdanynt.

 

Hysbyswyd y CYSAG bod yna gyfrifoldeb ar ysgolion i ddangos bod ymwelwyr cymunedol yn darparu profiadau defnyddiol i'r disgyblion a'u bod yn gallu adrodd ar brofiadau ffydd personol sy'n berthnasol i'r astudiaethau. Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE bod llai o gyfleoedd i ysgolion mewn ardal wledig fel Ynys Môn i sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad i amrywiaeth o grefyddau eraill o gymharu ag ysgolion mewn ardaloedd trefol, er bod ysgolion yn y gorffennol wedi gwneud defnydd o'r mosg ym Mangor a bod mwy o gyfleoedd i gysylltu trwy ddulliau digidol e.e. ymweliadau rhithiol a chyswllt drwy Skype. Tra bod profiadau o’r fath yn dda nid ydynt mor werthfawr â gallu sgwrsio wyneb yn wyneb â pherson o ffydd arall.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE hefyd wrth y CYSAG ei bod wedi diwygio’r pro-fforma hunanarfarnu i gynnwys darpariaeth ar gyfer safonau llythrennedd, rhifedd a TGCh mewn Addysg Grefyddol. Mae rhai datganiadau gan ysgolion yn tueddu i fod yn rhai generig ac felly er mwyn annog athrawon i gyfeirio at Addysg Grefyddol ac at sgiliau ar draws y cwricwlwm mae is-bennawd i'r perwyl hwnnw wedi cael ei gynnwys yn y templed. Hefyd, yn dilyn y gweithdy a gynhaliwyd gydag athrawon cynradd yn y tymor blaenorol, mae’r arweiniad wedi cael ei addasu i lunio mwy o ddatganiadau y gall athrawon eu defnyddio i ddangos sut mae’r ddarpariaeth AG mewn ysgol yn wahanol neu’n sefyll allan.

 

Cytunwyd i nodi'r adroddiadau hunanarfarnu Addysg Grefyddol a gyflwynwyd a diolch i'r holl ysgolion dan sylw am eu darparu.

 

GWEITHREDU: Y Swyddog Addysg Gynradd ar ran y CYSAG i estyn gwahoddiad i Bennaeth  Canolfan Addysg y Bont i un o gyfarfodydd y CYSAG yn y dyfodol i roi cyflwyniad ar y ddarpariaeth Addysg Grefyddol yr ysgol.

Dogfennau ategol: