Eitem Rhaglen

Gweithio mewn Partneriaeth: Rôl y Pwyllgor wrth Adolygu Partneriaethau

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor - Adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) yn amlinellu rôl arfaethedig y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant o ran monitro partneriaethau pwysig y Cyngor gyda chyfeiriad penodol at adolygu trefniadau llywodraethu partneriaethau.

 

Rhoes y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Gwella Gwasanaethau) adroddiad ar y cyd-destun a dywedodd fod trefniadau llywodraethiant partneriaethau’r Awdurdod yn cael eu hamlygu yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2014/15 fel mater llywodraethiant o bwys. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn rhan annatod o arferion gwaith Awdurdodau Lleol ac mae hefyd yn elfen hanfodol o'r modd y mae'r Cyngor hwn yn ymdrechu i wireddu ei uchelgeisiau a'i raglen drawsnewid. Ymhelaethodd y Swyddog ar sgôp y ffrydiau gwaith partneriaeth sy'n anelu at ffurfioli trefniadau ar gyfer monitro, adolygu a llywodraethu partneriaethau cyfredol a’r rhai a all gael eu sefydlu yn y dyfodol fel ym mharagraff 3 yr adroddiad, a chyfeiriodd yn benodol at ddatblygu dogfen Bolisi ar gyfer Partneriaethau (ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad) sy'n crynhoi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.

 

Dywedodd y Swyddog Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod un o'r ffrydiau gwaith partneriaeth yn golygu sefydlu rôl ar gyfer y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wrth adolygu trefniadau llywodraethu partneriaethau, gan gynnwys cael trosolwg o'r cofrestrau risg sy’n ymwneud â phartneriaethau allweddol arwyddocaol. Er y gall gweithio mewn partneriaeth ddod â manteision sylweddol, gall hefyd gario risgiau sylweddol oni bai eu bod yn cael eu darparu o fewn fframwaith llywodraethu cadarn. Mae'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn gyfrifol am adolygu trefniadau rheoli risg yr Awdurdod fel y'u diffinnir ym mharagraff 3.4.8.3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor. Mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai ei swyddogaeth yw adolygu proffil risg y Cyngor a mofyn sicrwydd fod materion y mae risg yn gysylltiedig â nhw, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â phartneriaethau sylweddol, yn cael sylw. Rôl y Pwyllgor hwn, felly, yw canolbwyntio ar sicrhau bod partneriaethau allweddol yn rheoli risg yn ddigonol ac nid yw'n ymwneud ag adolygu cyfraniad a chanlyniadau partneriaethau. Amlinellodd y Swyddog y camau nesaf ynghyd â'r trefniadau arfaethedig ar gyfer adrodd i'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar y risgiau i'r Cyngor o fod mewn partneriaeth fel y nodir ym mharagraff 5.5 yr adroddiad a chadarnhaodd y bydd y rhain yn cael eu hymgorffori yn y trefniadau presennol ar gyfer adrodd ar risgiau a’u rheoli.

 

Rhoes y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a gofynnodd am eglurhad ar y materion canlynol o ran ei rôl arfaethedig mewn perthynas â phartneriaethau -

 

           Nododd y Pwyllgor, er mwyn gallu cyflawni'r disgwyliadau o ran darparu sicrwydd bod partneriaethau allweddol yn rheoli eu risgiau, bod angen iddo gael gwybodaeth lefel uchel a dadansoddiad ynghylch perfformiad y prif bartneriaethau corfforaethol fel y gall adnabod y risgiau y maent yn eu hwynebu a bodloni ei hun eu bod yn cael eu rheoli'n briodol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bydd sylw’n cael ei roi i'r wybodaeth y mae angen ei darparu ar gyfer y Pwyllgor i’w arfogi a’i alluogi i lunio barn a rhoi sicrwydd bod y risgiau mewn perthynas â phartneriaethau yn cael eu rheoli, ac mae gwybodaeth lefel uchel am berfformiad y partneriaethau yn rhan hanfodol o'r broses honno.

 

           Yn ogystal â monitro materion sy'n gysylltiedig â risgiau sy'n effeithio ar bartneriaethau, nododd y Pwyllgor ei fod angen sicrwydd bod gweithio mewn partneriaeth yn darparu gwerth ychwanegol i'r Cyngor a bod partneriaethau hefyd yn rhoi gwerth am arian i drigolion a threthdalwyr yr Ynys.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor bod Gwerth Ychwanegol a Gwerth am Arian yn ddau o nifer o feini prawf a ystyriwyd gan y Cyngor wrth benderfynu p'un ai i weithio mewn partneriaeth ai peidio ac wrth werthuso effeithiolrwydd y bartneriaeth fel y nodir yn y ddogfen Polisi Partneriaethau. Mae gan Sgriwtini rôl glir o ran asesu’r gwerth ychwanegol a ddaw i’r Cyngor yn sgil partneriaethau ac mae angen diffinio swyddogaethau’r  pwyllgorau Archwilio a Sgriwtini yn glir a sicrhau cydbwysedd rhwng cyfrifoldebau perthnasol. Mae trafodaethau ar y gweill ynghylch sut y gall canlyniad gwaith sgriwtini gael ei fwydo drwodd i'r Pwyllgor Archwilio er mwyn sicrhau bod ganddo'r holl wybodaeth sydd ei angen i ddod i farn ynghylch sicrwydd.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch y modd y gwahenir partneriaethau’n rhai preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, ac awgrymwyd bod trefniadau a sefydlir gyda'r sector preifat neu annibynnol fel arfer yn rhai contractyddol neu'n seiliedig ar gytundeb lefel gwasanaeth sydd yn gallu cynnwys cysyniad o bartneriaeth, ond nid o angenrheidrwydd. Dygodd y Pwyllgor sylw at y ffaith y gall hyn fod yn amwys ac fe nodwyd, a derbyniwyd, bod angen amlygu’r gwahaniaeth yn y polisi. (Datganodd Mr Richard Barker ddiddordeb personol fel ymddiriedolwr sefydliad yn y sector annibynnol).

 

           Mewn perthynas â phartneriaethau’n glynu wrth bolisïau’r Cyngor, nododd y Pwyllgor nad oedd y ddogfen bolisi yn glir ynghylch sut y bydd cydymffurfiaeth yn cael ei fonitro ac awgrymwyd bod angen mecanwaith ar gyfer sicrhau bod partneriaethau yn cymryd i ystyriaeth brif bolisïau'r Cyngor oherwydd gallai diffyg cydymffurfiaeth ar ran sefydliadau partner beri risg i enw da’r Cyngor.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai manylion ynglŷn â'r broses o fonitro partneriaethau gan gynnwys rhoi sylw dyladwy i brif bolisïau'r Cyngor yn rhan o ffrwd waith arall ar gyfer partneriaethau ac y byddai manylion ar gael dros y misoedd nesaf.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor:

 

           Yn derbyn y cyfrifoldeb o ran y risgiau sy'n gysylltiedig â'r partneriaethau allweddol arwyddocaol.

           Yn derbyn y broses a'r amserlen ar gyfer adrodd i'r Pwyllgor ar y risg sy'n gysylltiedig â'r partneriaethau allweddol arwyddocaol.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH

Dogfennau ategol: