Eitem Rhaglen

Adfer ar ôl Trychineb a Pharhad Busnes TGCh

Cyflwyno diweddariad ar lafar ynglyn ag Adfer ar ôl Trychineb a Pharad Busnes TGCh.

Cofnodion:

           Parhad Busnes

 

Adroddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y cynhaliwyd archwiliad o Barhad Busnes yn gynharach yn y flwyddyn ariannol a chyhoeddwyd adroddiad ym mis Awst a arweiniodd at farn Sicrwydd Cyfyngedig yn gyffredinol gyda phump o argymhellion Categori Uchel a dau argymhelliad Categori Canolig. Cyfeiriodd at brif ganfyddiadau archwiliad a'r gwendidau a nodwyd. Cadarnhaodd y Swyddog fod archwiliad dilynol wedi cadarnhau bod y ddau argymhelliad Lefel Uchel wedi cael eu gweithredu a bod y pump sy’n weddill yn y broses o gael eu gweithredu. Mae canfyddiadau'r gwaith dilynol ac ailasesiad o'r rheolaethau bellach yn cefnogi Barn Sicrwydd Rhesymol.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y camau penodol a gymerwyd i gywiro'r gwendidau a amlygwyd gan yr adolygiad archwilio yn ogystal â'r camau hynny sydd ar y gweill.

 

Croesawodd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed a'r momentwm cyfredol a gofynnodd am gadarnhad o'r llinell amser ar gyfer cwblhau a gwireddu’r holl ffrydiau gwaith y cafwyd adroddiad arnynt. O ystyried bod hyn yn cael ei gydnabod fel maes blaenoriaeth uchel, gofynnodd y Pwyllgor hefyd am ddiweddariad pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddangos i ba raddau y gwnaed cynnydd ar y rhaglen weithredu.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ei fod yn fwriad i adrodd yn ôl i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ym mis Mehefin; nid yw Cynlluniau Parhad Busnes yn statig ac maent yn cael eu hadolygu ar lefel gwasanaeth er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n berthnasol ac yn gyfoes yng nghyd-destun yr amgylchedd y maent yn gweithredu ynddynt.

 

Penderfynwyd nodi'r sefyllfa a'r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

CAMAU GWEITHREDU: Y Pwyllgor i dderbyn diweddariad pellach ar Barhad Busnes yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddarparu sicrwydd bod cynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â’r materion a nodwyd a bod y camau gweithredu'n cael eu cwblhau.

 

           Adfer TGCh ar ôl Trychineb

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol fod adolygiad archwilio o Adfer TGCh ar ôl Trychineb arwain at farn Sicrwydd Isel iawn ynghyd ag 13 o argymhellion - o'r rhain roedd 8 yn argymhellion categori Uchel a 3 yn rhai Categori Canolig. Cyfeiriodd y Swyddog at brif ganfyddiadau’r archwiliad a’r gwendidau a nodwyd ynddo. Yn y gwaith dilynol, aseswyd bod 5 o'r argymhellion Categori Uchel wedi'u gweithredu; 3 wedi’u gweithredu'n rhannol a 5 heb eu gweithredu. Mae canfyddiadau'r gwaith dilynol ac ailasesiad o'r rheolaethau bellach yn cefnogi Barn Sicrwydd Rhesymol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cefnogi Parhad Busnes a Chymorth TGCh bod y rhan fwyaf o'r camau a oedd yn parhau i fod angen sylw wedi cael eu datrys gyda chaffael system wrth gefn. Bydd y system hon yn cael ei sefydlu ym Mhencadlys y Cyngor unwaith y bydd wedi adnabod lleoliad addas oddi ar y safle ac yna, bydd y caledwedd wrth gefn yn cael ei ail-leoli oddi ar y safle gan olygu y byddai modd i'r Cyngor redeg gwasanaethau allweddol o leoliad oddi ar y safle petai dim modd defnyddio’r Pencadlys. Cadarnhaodd y Swyddog fod hyn wedi cael ei nodi fel blaenoriaeth gorfforaethol ac y bydd yn cael ei drin felly ac adnoddau’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer ei weithredu. 

 

Penderfynwyd nodi'r sefyllfa a'r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

Dim gweithredu pellach