Eitem Rhaglen

Adolygu Strwythur y Bartneriaeth ar y Cyd

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan Gynghorau Ynys Môn a Gwynedd.

 

(Bydd y Cyd-Bwyllgor yn cael cyflwyniad ar y mater – copi o’r cyflwyniad ar gael ar wahân)

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth ac i’w ystyried gan y Cyd-bwyllgor, ddatganiad ar y cyd gan Swyddogion Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn amlinellu'r trefniadau cydweithio arfaethedig rhwng y ddau gyngor ar gyfer darparu Strategaeth ar y Cyd i fynd i'r afael yn effeithiol ac yn effeithlon ag anghenion dysgu ychwanegol disgyblion a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn. Byddai'r strategaeth yn cael ei seilio ar ailfodelu a chryfhau'r bartneriaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng y ddau gyngor a byddai'n cynnwys yr holl ystod o wasanaethau a darpariaethau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor fod swyddogion o Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ers dechrau mis Ionawr, 2016 a bod y datganiad wedi’i lunio o’r cychwyn i gadarnhau'r cydweithio. Daethpwyd i gytundeb i gydweithio ar y blaenoriaethau a restrir yn y datganiad. Mae'r datganiad yn cyfeirio hefyd at gynnydd cynigion trwy brosesau democrataidd priodol y ddau gyngor – sef, yn achos Gwynedd, canlyniad cyfarfod y Cabinet ar 19 Ionawr, 2016 y cyflwynwyd y Strategaeth ADY a Chynhwysiad iddo ac, yn achos Ynys Môn, adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Mawrth yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y cydweithio a beth fyddai hynny’n ei olygu. Mae swyddogion o'r ddwy sir wedi cyfarfod yn wythnosol ers mis Ionawr i greu Strategaeth ar y Cyd o fewn dogfen gynhwysfawr sy’n ymhelaethu ar y gwasanaethau unigol. Bydd y ddogfen yn darparu eglurder ar rolau ac atebolrwydd, yn ogystal â llywodraethiant ac ymgysylltu. Yn ogystal, darperir esboniad manwl o nodau, amcanion, mesuriadau, mynediad a strwythur staffio pob gwasanaeth. Mae'r meysydd gwasanaeth yn cwmpasu'r rheini a nodir yn y datganiad ac maent wedi eu rhannu ar sail Cynhwysiad, Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arweinyddiaeth a Chydlynu.

 

Ymhelaethodd Uwch Reolwr Cynhwysiad Cyngor Gwynedd a Swyddog ADY Cyngor Sir Ynys Môn ar y cynigion ar gyfer cydweithio drwy dynnu sylw at yr ystyriaethau a ganlyn - 

 

           Y cyd-destun ehangach, gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol sylweddol sy'n digwydd yn y  maes ADY a’r heriau cyllidebol y mae awdurdodau lleol yn parhau i’w hwynebu; roedd y rhain yn ffactorau wrth ysgogi adolygiad o ba mor effeithiol yw’r gwasanaethau o ran mynd i’r afael ag  anghenion plant a phobl ifanc a chanddynt ADY a diwallu’r anghenion hynny.

           Mae'r ddau awdurdod wedi cytuno i adolygu'r trefniant Cyd-bwyllgor AAA cyfredol ac i wneud hynny mewn dau gam. Bwriedir gweithredu Cam 1 (ffurfio’r Tîm Integredig craidd ac ailfodelu'r gweithlu i gyd-fynd â gofynion y ddwy sir o fewn timau penodol) erbyn mis Medi, 2016 a gweithredu Cam 2 (cwblhau'r ailfodelu staff ac adolygu’r trefniadau a’r meini prawf ar gyfer datganoli cyllid) erbyn mis Medi, 2017.

           Bydd cydweithredu ar y sail ddiwygiedig newydd yn wahanol i'r trefniant sy’n ei le ar hyn o bryd a bydd yn golygu ffurfio timau arbenigol i fod ar gael; ehangu'r bartneriaeth i gynnwys meysydd cynhwysiad ehangach megis lles, presenoldeb, Saesneg fel iaith ychwanegol a Phlant sy’n Derbyn Gofal; llunio meini prawf a disgwyliadau eglurach ar gyfer ysgolion a staff o ran yr hyn i’w ddarparu, sut y caiff ei ddarparu a chan bwy, a rhannu swyddogaethau ar lefel swyddogion yn ogystal â mewn perthynas â thimau arbenigol o athrawon / cynorthwywyr dysgu.

           Wrth amlinellu trefniadau llywodraethu'r bartneriaeth newydd, rhaid ystyried sut y caiff anghenion eu diwallu ar lefel swyddog proffesiynol ac aelodau etholedig yn ogystal ag o ran sgriwtini. Cynigir dull o lywodraethu ar y cyd a fydd yn sicrhau y gellir cyflawni blaenoriaethau strategol y ddwy sir yn y meysydd ADY a Chynhwysiad; atebolrwydd clir i weithdrefnau corfforaethol y ddwy sir a gwasanaethau dwyieithog effeithiol ac effeithlon.

           Bydd rheolaeth ddeuol mewn grym yn ystod y cyfnod trosiannol wrth i drefniadau drosglwyddo o fodel y Cyd-bwyllgor AAA cyfredol i Bartneriaeth ADY newydd Gwynedd a Môn. Bydd angen llunio cytundeb ffurfiol rhwng yr awdurdodau i sefydlu'r bartneriaeth ac ymhlith pethau eraill, ei swyddogaethau; adnoddau ac ymrwymiadau ariannol, trefniadau monitro perfformiad a llywodraethiant.

           Disgwylir y bydd nifer o wahanol fanteision yn sgil y cydweithio, gan gynnwys codi safonau, mynediad at arbenigedd, gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd, argaeledd darpariaeth iaith  Gymraeg yn ogystal â meithrin gwydnwch.

           Bydd sylw priodol yn cael ei roi i flaenoriaethau’r ddwy sir ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

           Roedd ailddiffinio'r gwasanaeth ADY yn anochel o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd yn y maes a bydd nawr yn digwydd fel un o'r camau i'w cymryd fel rhan o'r rhaglen o weithredu mesurau ar gyfer ADY a Gwasanaethau Cynhwysiad hefyd.

           Bydd y camau nesaf yn golygu cydweithio wrth ailfodelu'r gweithlu; cynllunio'r trefniadau ar gyfer y bartneriaeth ddiwygiedig newydd a rhannu gwybodaeth â'r holl randdeiliaid perthnasol.

 

Ystyriodd y Cyd-bwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol -

 

           Roedd y Cyd-bwyllgor yn croesawu ymrwymiad y ddwy sir i barhau â'r bartneriaeth ar ei newydd wedd, sef partneriaeth a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1996 pan ffurfiwyd y Cyd-bwyllgor AAA ac sydd wedi rhoi nifer o fanteision i Wynedd ac Ynys Môn yn y maes anghenion addysgol arbennig yn y blynyddoedd ers ei sefydlu.

           Gofynnodd y Cyd-bwyllgor am eglurhad ar yr amserlen ar gyfer rhoi'r newidiadau ar waith fel y cynigiwyd. Hysbyswyd y Pwyllgor fod Pwyllgor Gwaith CSYM wedi cymeradwyo cydweithio â Gwynedd i gytuno ar fanylion y trefniant partneriaeth newydd yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth ac mai’r bwriad yn awr felly yw dod â chynllun manylach o strwythur y bartneriaeth i Bwyllgor Gwaith  CSYM ym mis Mehefin, 2016. Mae’r newidiadau hyn wedi mynd yn bellach trwy’r broses  ddemocrataidd yng Nghyngor Gwynedd. Cynigir bod y strwythur staff newydd yn cael ei roi ar waith ym mis Medi 2016 ac yn cael ei gwblhau’n derfynol yn ystod blwyddyn academaidd 2016/17.

           Gofynnodd y Cyd-bwyllgor am eglurhad ar y risgiau sy’n gysylltiedig â sefydlu'r bartneriaeth newydd, yn arbennig felly yn wyneb yr amcan o ehangu cylch gwaith y bartneriaeth i gynnwys meysydd cynhwysiad eraill ac i sicrhau arbedion o 10% neu £500k dros ddwy flynedd i’w gwireddu'n llawn erbyn 2018/19. Hysbyswyd y Pwyllgor mai un o’r risgiau i awdurdodau lleol ar lefel genedlaethol ydi’r diffyg manylder am y gyllideb ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed er bod y ddeddfwriaeth newydd (y Mesur Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribwinlys Addysg (Cymru)) yn cynnwys y grŵp oedran hwn, ynghyd â’r diffyg manylder ynghylch y cyfrifoldeb ac ar bwy mae’r cyfrifoldeb hwnnw’n disgyn. Mae yna heriau lleol wedyn mewn perthynas â chynllunio cyllidebau; y trafodaethau ar y cyd sydd wedi digwydd ac sydd wedi arwain at gyd-ddealltwriaeth o natur ac anghenion y disgyblion o fewn y ddwy sir a’u hardaloedd daearyddol penodol. Disgwylir y bydd gweithio mewn partneriaeth yn creu mwy o wydnwch ar draws ardaloedd y ddau awdurdod yng nghyswllt ADY a chynhwysiad. Un o'r risgiau mwyaf sylweddol yw yng nghyd-destun monitro perfformiad sydd bellach yn rhoi ystyriaeth i berfformiad pob plentyn ar draws y system. Bydd y gwaith y mae'r ddau awdurdod yn ei wneud o ran ADY yn allweddol felly, o ran statws cenedlaethol yr awdurdodau mewn perthynas â chynhwysiad ac ansawdd yr addysg a ddarperir i blant o bob gallu.

           Gofynnodd y Cyd-bwyllgor am eglurhad ar ei rôl yn y bartneriaeth newydd yn y dyfodol. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor fod y ddwy sir wedi sylweddoli bod angen moderneiddio trefniadau i adlewyrchu amgylchiadau a gofynion sydd wedi newid yn sylweddol ers sefydlu'r Cyd-bwyllgor yn 1996, gan gynnwys bod llai o adnoddau ariannol a staff. Y bwriad felly yw y dylai'r bartneriaeth newydd fod yn fwy atebol yn uniongyrchol drwy brosesau democrataidd y ddau gyngor yn hytrach na thrwy endid hyd braich ar wahân ac y dylid adrodd ar y canlyniadau i blant a phobl ifanc gydag ADY a'r cynnydd a wnânt oherwydd ansawdd y darpariaethau a wneir ar eu cyfer yn hytrach nag adrodd ar y prosesau ar gyfer cyflawni’r darpariaethau hynny. Mae trefniadau llywodraethu’r bartneriaeth dan ystyriaeth ar hyn o bryd ond rhagwelir, yn y pen draw, y bydd proses adrodd y bartneriaeth yn dod yn rhan annatod o drefniadau craffu’r ddwy sir ac y bydd felly’n fwy cynhwysol a hygyrch.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi'r wybodaeth a gyflwynwyd, ynghyd â'r cynigion ar gyfer symud ymlaen gyda sefydlu Partneriaeth ADY newydd.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH

Dogfennau ategol: