Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  16C202 – Capel Salem, Bryngwran

7.2  31C210H – Graig, Lôn Graig, Llanfairpwll

Cofnodion:

7.1 16C202 Cais llawn i newid defnydd a wneir o gapel i fod yn ddwy

annedd sy'n cynnwys balconi yng Nghapel Salem, Bryngwran

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill, 2016 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle a gwnaed hynny ar 20 Ebrill, 2016.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bob Parry OBE fel Aelod Lleol at ei resymau am ofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle ac yn arbennig at argaeledd lleoedd parcio ar y safle. Holodd a oedd yr awdurdod priffyrdd yn fodlon gyda’r lleoedd parcio a oedd ar gael ar y safle. Ymatebodd y Swyddog Priffyrdd fod dau lecyn parcio yn ddigonol ar gyfer y safle sy'n cydymffurfio â Safonau Parcio'r Awdurdodnid oes unrhyw gyfleuster parcio ar y safle ar hyn o bryd. Er ei fod yn gwerthfawrogi bod angen datblygu’r hen gapel, dywedodd y Cynghorydd Parry ei fod o'r farn fod angen gosod amodau ar gyfer diogelwch plant sy'n defnyddio'r llwybr troed sy'n rhedeg ar hyd ochr safle’r cais a'r fynedfa i gerbydau. Dywedodd hefyd y dylid cadw’r rheiliau o flaen yr hen gapel oherwydd y gwahaniaeth rhwng lefelau tir y Cyngor Sir a thir y capel. Byddai hyn yn diogelu unrhyw blant sy'n cerdded i'r ysgol neu aelodau o'r cyhoedd rhag llithro wrth gerdded ger y safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Parry fod angen gosod amod arall ar unrhyw

ganiatâd mewn perthynas â’r pyst pren ar y darn o dir ger y fynwent wrth

safle'r cais. Mae angen eu hailosod i atal ceir rhag parcio ar y tir. Byddai’r llain hwn o dir yn caniatáu gwell gwelededd i’r plant sy’n dod o'r ysgol groesi'r ffordd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jeff Evans i’r Aelod Lleol a oedd yn gywir yn dweud bod plentyn wedi cael ei anafu ar Ffordd Salem ym Mryngwran y llynedd er nad oedd cofnod o unrhyw ddigwyddiad ar gofrestr yr Adran Briffyrdd ers dros 20 mlynedd. Ymatebodd y Cynghorydd Parry bod y digwyddiad wedi’i gofnodi yng nghofnodion cyfarfod o Gyngor Cymuned Bryngwran; roedd Aelod o’r Cyngor Cymuned wedi gweld y ddamwain pan drawyd y plentyn gan gar.  Dywedodd y Swyddog Priffyrdd fod cofnodi digwyddiadau ar gronfa ddata’r Adran Briffyrdd yn dibynnu ar ddamweiniau’n cael eu hadrodd i’r Heddlu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid rhoi ystyriaeth i gael 'marciau coch' ar y ffordd i rybuddio traffig bod plant yn croesi o’r ysgol ger safle'r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd modd gorfodi amodau

cynllunio ar ganiatâd pan nad yw'r tir dan sylw ym mherchnogaeth neu dan reolaeth yr ymgeisydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu trafodaethau gyda'r ymgeisydd ynghylch mantais gynllunio bosibl i'r gymuned. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans fod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliodd y Cynghorydd K.P. Hughes y cynnig.

 

Yn dilyn y bleidlais:-

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad.

 

7.2 31C210H Cais llawn i godi annedd sy'n cynnwys balconi, codi garej ar wahân ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Graig, Lôn Graig, Llanfairpwll

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Is-gadeirydd ar ran Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill, 2016 penderfynodd y Pwyllgor ymweld â'r safle a gwnaed hynny’n ddiweddarach ar 20 Ebrill, 2016.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Lleol, fod 57 o drigolion

cyfagos wedi gwrthwynebu'r cais hwn. Nododd y byddai'n adrodd ar y

gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan drigolion 11 Cil y Graig, Llanfairpwll fel a ganlyn:-

 

· Colli mwynderauffenestri a balconi yn edrych dros eiddo cyfagos;

· Effaith weledoler bod crib yr annedd arfaethedig wedi cael ei gostwng

bydd yr annedd yn dal i fod yn amlwg iawn wrth fynd i mewn i'r pentref;

· Diogelwch y Brifforddystyrir bod y fynedfa i'r safle yn beryglus;

· Materion carthffosiaethmae’r cynlluniau a gyflwynwyd ar gyfer y

datblygiad yn dangos y bydd y garthffos yn cysylltu â'r garthffos yn Cil y

Graig. Nid oes unrhyw gysylltiad carthffos yn Cil y Graig ac ystyrir y byddai angen i'r garthffos fynd drwy erddi preifat ar y stad.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yr ystyrir bod datblygu'r safle hwn yn dderbyniol gan fod y tir o fewn ffin ddatblygu Llanfairpwll. Nododd fod y datblygiad yn cydymffurfio â'r polisïau mewn perthynas â cholli mwynderau a'r pellter oddi wrth eiddo cyfagos. Derbynnir bod yr annedd wedi ei lleoli ar safle uchel yn Llanfairpwll ond mae cymysgedd o wahanol fathau o dai yn yr ardal gyfagos ac ystyrir nad yw'r annedd arfaethedig yn tynnu’n groes i bolisïau cynllunio. Nid yw’r Awdurdod Priffyrdd wedi mynegi unrhyw bryderon am y cynnig. Cyfeiriodd y Swyddog Datblygu Cynllunio at y materion a godwyd ynghylch cysylltiad â’r garthffos a nododd bod cadarnhad a manylion wedi dod i law erbyn hyn y bydd y garthffos yn cysylltu â'r garthffos gyda'r 3 annedd arall ger y safle sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio. Yr argymhelliad oedd caniatáu.

 

Er ei fod yn derbyn bod caniatâd cynllunio amlinellol wedi’i roi ar gyfer annedd ar y safle, roedd y Cynghorydd Lewis Davies yn bryderus y bydd eiddo cyfagos yn cael eu heffeithio o ganlyniad i'r angen i gloddio wyneb y graig ar y safle datblygu. Roedd o'r farn fod angen gosod amod llym ynghylch pryd y gellir cloddio wyneb y graig. Roedd y Rheolwr Datblygu Cynllunio yn dymuno nodi bod yna ganiatâd cynllunio amlinellol ar y safle ar gyfer annedd ond bod y caniatâd wedi dod i ben ers 12 Ebrill, 2016.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts am Gynllun Rheoli Traffig mewn

perthynas â'r pryderon priffyrdd a godwyd gan y trigolion lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo'r cais gyda’r amodau ychwanegol mewn perthynas â chloddio'r graig a rheoli traffig. Eiliodd y Cynghorydd K. P. Hughes y cynnig.

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a restrwyd yn yr adroddiad, ynghyd ag amodau ychwanegol ynghylch cloddio’r graig a rheoli traffig.

 

Dogfennau ategol: